Yr arwyddion cyntaf bod Cymru yn adfer o’r sychder yn dilyn glaw diweddar
Mae rhannau o Gymru a ddioddefodd effeithiau’r sychder yr haf yma yn dangos arwyddion cynnar o adferiad, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Mae llawer o afonydd yn ne-orllewin Cymru wedi ymateb yn dda i'r glawiad diweddar ac yn nesáu at y llifoedd arferol ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae CNC wedi cadarnhau y bydd de-orllewin Cymru yn symud i statws ‘adfer ar ôl sychder’.
Nid yw afonydd yn rhannau eraill o’r wlad wedi ymateb yr un mor gyflym, gyda’r lefelau’n parhau i fod yn isel ar gyfer yr adeg hon o’r flwyddyn. Bydd ardaloedd yn y de-ddwyrain, gogledd Cymru a Hafren uchaf yn parhau i fod mewn statws sychder am y tro, gyda’r gwaith manylach i fonitro’r amgylchedd yn parhau.
Erbyn yr wythnos yma, mae Cymru gyfan wedi derbyn 78% o'r glawiad disgwyliedig ar gyfer mis Medi.
Datganwyd sychder yn gyntaf yng ngogledd Cymru ar 23 Gorffennaf, wedi i gyfres o donnau gwres a thywydd sych adael eu hôl ar yr amgylchedd. Wythnos yn ddiweddarach, ar 30 Gorffennaf, ymestynnwyd y statws sychder i gynnwys Cymru gyfan.
Yn ystod haf 2026 gwelwyd y Gorffennaf sychaf ers dechrau cofnodion 190 o flynyddoedd yn ôl, a’r ddau fis sychaf ym mis Gorffennaf-Awst ers 1976. Credwyd hefyd mai dyma'r haf poethaf ar gofnod, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Yn ôl Rhian Thomas, Rheolwr Dŵr a Natur Cynaliadwy yn CNC:
"Mae'r tonnau gwres dros yr haf wedi dwysáu'r amodau sych, gan achosi i’r amgylchedd ddirywio’n gyflym ac effeithiau eang ar ddyfroedd, priddoedd, bywyd gwyllt a chynefinoedd.
"Er bod gweld arwyddion o adferiad yn galonogol, allwn ni ddim bod yn hunanfodlon. Disgwylir y bydd hi’n cymryd amser, a rhagor o law digonol yn yr hydref cyn i’r amgylchedd adfer yn llwyr, a byddwn yn monitro’r amodau’n agos yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod.
"Gyda Chymru yn profi sychder yn y ddau haf diwethaf, mae'n rhaid inni i gyd fod yn barod i gyfnodau o sychder ddigwydd yn amlach yn y dyfodol. Wrth i'n hinsawdd barhau i newid, rydym yn disgwyl gweld newid tuag at hafau poethach, sychach a gaeafau gwlypach, gyda ffynonellau dŵr yn llai dibynadwy drwy gydol y flwyddyn.
"Rydym eisoes yn cynllunio am y newid hinsawdd ym mhopeth a wnawn ar draws ein cylch gwaith. Mae hyn yn cynnwys cynllunio am sychder yn y dyfodol a gosod canllawiau i gwmnïau dŵr gynllunio am y tymor hir. Ein nod yw cefnogi Cymru sy’n gallu gwrthsefyll sychder yn well yn y dyfodol.”
Tra bo ardaloedd yng Nghymru yn dal i fod mewn cyfnod o sychder, mae CNC yn parhau i gynghori Grŵp Cyswllt Sychder Llywodraeth Cymru i rannu gwybodaeth a chyngor ynghylch yr amodau amgylcheddol presennol.
Mae’r Grŵp hwn yn cynnwys cynrychiolwyr o’r sector amaethyddol i drafod effeithiau parhaus y sychder ar gynhyrchu cnydau a phorthiant atodol i dda byw.
Mae timau'n parhau i weithio'n agos gyda chydweithwyr yn Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr yn gysylltiedig ag afonydd trawsffiniol fel Afon Hafren ac Afon Dyfrdwy.
Dylai unrhyw un sy'n pryderu am effeithiau parhaus y sychder ar yr amgylchedd, neu lygredd, roi gwybod am ddigwyddiad neu gysylltu â llinell gymorth digwyddiadau CNC ar 03000 65 3000.
Mae CNC yn falch o gefnogi Dewch i Arbed Dŵr - ymgyrch a gefnogir gan gyrff rheoleiddio a chwmnïau dŵr. Anogir pobl i barhau i wneud defnydd doeth o ddŵr yn yr hydref/y gaeaf er mwyn cefnogi adferiad natur.