Cymeradwyo amrywiad i drwydded Safle Tirlenwi Withyhedge gydag amddiffyniadau amgylcheddol cryfach

Ymweliad â safle tirlenwi Withyhedge

Mae asesiad manwl a thrylwyr gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o gais i amrywio trwydded ar gyfer Safle Tirlenwi Withyhedge yn Sir Benfro wedi sicrhau rheolaethau rheoleiddio cryfach a mesurau gwell i amddiffyn yr amgylchedd.

Mae CNC wedi cymeradwyo amrywiad i'r drwydded amgylcheddol sy’n cael ei gweithredu gan Resources Management UK Ltd (RML). 

Mae'r amrywiad a gymeradwywyd wedi sicrhau gwelliannau i reoli nwyon tirlenwi, rheoli trwytholchion, cwblhau celloedd a gofynion monitro parhaus, cryfhau prosesau rheoleiddio'r safle ac amddiffyn yr amgylchedd a chymunedau lleol. 

Dywedodd Nicholas Bettinson, Rheolwr Gwasanaeth Trwyddedu yn CNC: 

"Mae'r penderfyniad hwn yn dilyn asesiad manwl a thrwyadl o'r cais, tystiolaeth dechnegol, risgiau amgylcheddol ac ymatebion i'r ymgynghoriad.” 

"Mae'r amrywiad cymeradwy wedi sicrhau rheolaethau rheoleiddio cryfach a mesurau amddiffyn yr amgylchedd gwell ar y safle, gan gryfhau gweithgarwch i amddiffyn yr amgylchedd a chymunedau lleol.” 

"Rydym yn cydnabod yr effaith roedd problemau arogl yn ei chael ar gymunedau lleol yn y gorffennol, ac yn deall barn gref pobl. Ein rôl ni yw rheoleiddio yn unol â’r gyfraith. Pan fydd cais yn bodloni'r safonau gofynnol, mae'n rhaid i ni roi'r drwydded.  

"Byddwn yn parhau i reoleiddio a monitro’r safle’n agos ac yn cymryd camau lle bo angen."

Roedd yr asesiad yn ystyried tystiolaeth dechnegol, risgiau amgylcheddol perthnasol, gofynion cyfreithiol ac ymatebion a ddaeth i law yn sgil ymgynghoriad cyhoeddus. 

Mae CNC yn cydnabod y farn gref o fewn cymunedau lleol ac yn ddiolchgar am y nifer sylweddol o ymatebion a ddaethpwyd i law gan unigolion, grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid. Adolygwyd ac ystyriwyd pob ymateb i'r ymgynghoriad yn ofalus yn rhan o'r broses asesu. 

Roedd rhai pryderon a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad y tu allan i gwmpas y broses o benderfynu ar drwydded ac ni ellid eu hystyried yn gyfreithiol wrth wneud y penderfyniad. Er bod CNC yn cydnabod bod y pryderon hyn yn bwysig i gymunedau lleol, mae cyfraith amgylcheddol yn cyfyngu ar y ffactorau a all ddylanwadu ar benderfyniadau ar drwyddedau. 

Yn dilyn ei asesiad, daeth CNC i'r casgliad bod y cais yn bodloni gofynion y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol a'r profion cyfreithiol y mae'n ofynnol i CNC eu rhoi ar waith. Lle bodlonir y gofynion hynny, mae'n ofynnol yn gyfreithiol i CNC roi'r drwydded. 

Mae'r newidiadau a gymeradwywyd i'r drwydded bresennol yn cynnwys: 

  • Diwygio’r lefelau cyn-sefydlogi a ganiateir. 

  • Rhaglenni rheoli a monitro wedi’u haddasu ar gyfer dŵr daear, dŵr wyneb a thrwytholchion. 

  • Ychwanegu 50,000 tunnell o bridd a cherrig gwastraff addas y flwyddyn ar gyfer gwaith adfer o dan weithgarwch Adfer Gwastraff newydd i gefnogi’r gwaith o adfer y safle yn unol â chynllun adfer a gymeradwywyd yn ysgrifenedig gan NRW. 

  • Gwnaethom fanteisio ar y cyfle hwn i gydgrynhoi a moderneiddio'r drwydded, gan gynnwys adolygu’r Amodau Gwella a'r Amodau Cyn-weithredol presennol. 

Mae ein hymchwiliad i achosion o dorri’r drwydded amgylcheddol yn parhau ac yn cael ei gynnal ar wahân gan y tîm Rheoliadau Diwydiant. 

Mae mwy o fanylion o'n tudalennau gwe ar y mater hwn bydd yn cael ei diweddaru am 12yp heddiw (1 Hydref 2026), gan gynnwys y penderfyniad yn ei chyfanrwydd a chrynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad a’n hystyriaeth ohonynt.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru