Diweddariad Safle Tirlenwi Withyhedge: Cydymffurfiaeth â Hysbysiad Gorfodi
Rhaid i waith i reoli allyriadau nwyon tirlenwi sydd wedi effeithio ar gymunedau o amgylch Safle Tirlenwi Withyhedge barhau, a hynny’n gyflym. Dyna ddywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) heddiw wrth gadarnhau bod y gofynion a nodwyd yn yr Hysbysiadau Gorfodi a gyflwynwyd ar y safle hyd yma wedi cael eu bodloni.
Cyhoeddodd CNC ddau Hysbysiad Gorfodi Rheoliad 36 ar wahân i weithredwr y safle, sef Resources Management UK Ltd (RML) - ar 13 Chwefror 2024 a 18 Ebrill 2024 - yn nodi camau brys i'w cymryd gan y gweithredwr i fynd i'r afael â'r problemau gydag arogleuon ac allyriadau nwyon tirlenwi ar y safle.
Roedd yr Hysbysiadau yn cynnwys cyfres o gamau gweithredu i'w cwblhau erbyn terfynau amser penodedig. Roedd y rhain yn cynnwys capio ardaloedd o'r safle, a gosod seilwaith ac offer i gasglu a chadw nwy tirlenwi mewn dwy ardal ar wahân o'r safle.
Mae CNC bellach wedi derbyn ac adolygu adroddiadau yn ymwneud â'r gwaith peirianneg a wnaed gan y gweithredwr er mwyn sicrhau eu bod wedi cael eu cwblhau i'r safon ofynnol.
Er bod yr asesiadau hyn yn cadarnhau bod gofynion yr Hysbysiadau wedi'u bodloni, mae CNC yn cydnabod bod adroddiadau am arogleuon wedi parhau i gael eu hadrodd a'u nodi mewn cymunedau o amgylch y safle tirlenwi - a hynny wedi'r terfynau amser a bennwyd ar gyfer y gwaith. Mae hyn o ganlyniad, yn rhannol, i'r amser y mae'n ei gymryd i'r gwaith peirianneg ddod yn gwbl weithredol ac effeithiol.
Yn dilyn archwiliad manwl gan CNC o'r system sy'n casglu ac yn trin nwy tirlenwi ar y safle, nodwyd sawl maes sy'n peri pryder. Amlinellwyd y rhain yn fanwl gyda Chyfarwyddwyr y gweithredwr, rheolwyr y safle, ac ymgynghorydd tirlenwi arbenigol RML. Mae'r gweithredwr bellach yn gweithio ar fynd i'r afael â'r materion hyn.
Er bod gostyngiad sylweddol wedi bod yn nifer y cwynion am arogleuon dros yr wythnosau diwethaf, gall unrhyw allyriadau o nwy tirlenwi sy’n ffoi o’r safle achosi arogleuon. Ffocws presenoldeb rheoleiddiol parhaus CNC ar y safle fydd sicrhau bod RML yn parhau i wthio am y gwelliannau sydd eu hangen i'r system, a hynny’n gyflym - a sicrhau eu bod yn dangos eu bod yn rheoli'r nwy tirlenwi yn effeithiol o hyn allan drwy eu gweithrediadau.
Mae CNC hefyd yn parhau â'i ymchwiliadau ar y safle. Dim ond pan fydd y broses honno wedi'i chwblhau y gallwn benderfynu a ddylid erlyn am unrhyw drosedd mewn perthynas â thorri amodau trwydded amgylcheddol.
Dywedodd Huwel Manley, Pennaeth Gweithrediadau’r De-orllewin yng Nghyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae cynnal yr holl asesiadau sy'n ofynnol i benderfynu ar gydymffurfiaeth â Hysbysiad Gorfodi yn cymryd amser. Mae safleoedd tirlenwi yn endidau deinamig ac roedd angen i ni fod yn siŵr bod gennym yr holl dystiolaeth a'r data sydd eu hangen i sicrhau y gallem fod yn fodlon bod y gweithredwr wedi bodloni'r gofynion a nodir yn yr Hysbysiad i wella'r broses o gyfyngu, casglu a chadw nwyon tirlenwi ar y safle.
“Fodd bynnag, nid yw cydymffurfio â'r Hysbysiad hwn yn golygu bod y gwaith wedi ei gwblhau. Er bod nifer yr adroddiadau am arogleuon wedi gostwng yn sylweddol dros yr wythnosau diwethaf, gwyddom fod problemau gyda'r system rheoli nwy ar y safle - problemau y mae'n rhaid i'r gweithredwr fynd i'r afael â nhw. Dyma fu ffocws ein gwaith rheoleiddio yn ystod yr wythnosau diwethaf, a bydd hyn yn parhau dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.
“Mae gennym amrywiaeth o opsiynau gorfodi ar gael i ni o dan y rheoliadau o hyd, ac ni fyddwn yn oedi cyn eu defnyddio os bydd angen. Mae'r safle yn parhau i fod dan ymchwiliad, ac rydym yn parhau i bwyso ar y gweithredwr i barhau i weithio'n gyflym a dangos eu bod yn rheoli allyriadau nwy tirlenwi yn effeithiol ar safle tirlenwi Withyhedge.”
Yr wythnos hon, cyfarfu'r Tîm Rheoli Digwyddiadau - tîm amlasiantaethol sy'n cynnwys cynrychiolwyr o CNC, Cyngor Sir Penfro, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda - i drafod yr ymateb parhaus i'r problemau yn Withyhedge.
Bydd CNC yn parhau i gynnal asesiadau arogleuon tra bo derbyn gwastraff i’r safle wedi’i oedi - a bydd yn parhau i wneud hynny os bydd y safle tirlenwi yn ailddechrau gwaredu gwastraff. Mae amseroedd a lleoliadau asesiadau arogleuon yn cael eu llywio gan adroddiadau a dderbynnir gan y cyhoedd. Anogir pobl i roi gwybod am arogleuon cyn gynted ag y byddant yn eu profi, a hynny drwy'r ffurflen adrodd ar-lein bwrpasol https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/south-west-wales-de-orllewin-cymru/copy-of-report-a-smell-at-withyhedge-landfill-site/ neu drwy ffonio 0300 065 3000.