Gwaith i ddechrau ar welliannau diogelwch ar domenni glo yng Nghwmgwrach

Bydd gwaith i wella diogelwch a lleihau'r risg o symudiad mewn tomenni glo ar safle gwaith glo segur yng Nghwmgwrach yn cychwyn ddechrau mis Gorffennaf.
Bydd y gwaith, a gynhelir gan gontractwyr ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn cynnwys atgyfnerthu'r sianel bresennol ar y safle gan ddefnyddio cerrig bloc a rholiau creigiau.
Disgwylir i'r gwaith, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, bara tan ddechrau mis Hydref 2025.
Bydd angen i gontractwyr gael mynediad i'r safle drwy ffordd Heol-y-Graig, gyda Cherbydau Nwyddau Trwm yn cludo cerrig bloc a'r offer sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith gwella.
Efallai y bydd angen storio deunyddiau yn y gilfan ar ben y ffordd pan fo angen.
Dim ond rhwng 8am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener y bydd cerbydau nwyddau trwm yn cael mynediad i'r safle (gyda dim ond gwaith cyfyngedig a chytunedig yn digwydd ar ddydd Sadwrn neu ddydd Sul) ac ni ddisgwylir i unrhyw ffyrdd gael eu cau tra bod y gwaith yn cael ei wneud.
Bydd mesurau ar waith i leihau'r aflonyddwch i drigolion lleol a thraffig cymaint â phosibl yn ystod y prosiect.
Dywedodd David Garth, Ymgynghorydd Prosiectau a Rhaglenni ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:
Rydym wedi ymrwymo i wella diogelwch yn y domen lo segur yng Nghwmgwrach a lleihau’r risg o symudiad tomenni glo yn yr ardal.
Bydd y gwaith pwysig hwn yn atgyfnerthu’r seilwaith draenio presennol.
Rydym yn gwerthfawrogi amynedd trigolion tra bod y gwaith hwn yn cael ei wneud a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gyfyngu ar yr aflonyddwch a achosir gan y gwaith.