Gwaith i ddiogelu glaswelltir ar safle bryngaer
Bydd glaswelltir llawn rhywogaethau gwarchodedig yn cael hwb diolch i bori defaid.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cwblhau 1200m o waith ffensio ar ffermdir yn SoDdGA Bwrdd Arthur, sef bryn calchfaen 538 troedfedd â chopa gwastad ar Ynys Môn, lle ceir bryngaer o'r Oes Haearn.
Bwrdd Arthur yw un o'r safleoedd calchfaen mwyaf arwyddocaol yng Ngogledd Orllewin Cymru, ac mae’n cynnwys glaswelltir calchaidd a rhywogaethau mwsogl prin.
Mae cynefinoedd calchaidd ymhlith y rhai mwyaf bioamrywiol ac sy’n dirywio fwyaf yn Ewrop a darganfu arolwg diweddar ar y safle fod cyflwr y glaswelltir yn 'anffafriol ac yn dirywio'.
Bydd ffensys yn caniatáu rheoli pori yn well ar y SoDdGA, gan atal ymlediad prysgwydd a chynnal cynefinoedd agored er mwyn caniatáu i rywogaethau, megis cor-rosyn cyffredin, cor-rosyn lledlwyd a gorfanhadlen eiddew adfer a hyrwyddo bioamrywiaeth.
Meddai Huw Jones, Arweinydd Tîm Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Môn ac Arfon:
"Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda'r tirfeddiannwr ar y prosiect hwn a fydd yn arwain at lu o fanteision.
"Mae glaswelltir calchfaen yn un o'r cynefinoedd prinnaf, mwyaf amrywiol a chyfoethog o ran rhywogaethau sydd gennym yng Nghymru.
"Mae glaswelltiroedd fel y rhain yn storfeydd carbon da a phan fyddant yn cael eu rheoli'n ofalus, maen nhw’n cloi carbon ac yn hybu bioamrywiaeth. Rydym wedi colli cryn dipyn o laswelltir llawn rhywogaethau yn y DU, felly mae rheoli'r ardaloedd hyn yn dda yn flaenoriaeth.
"Mae pori effeithiol yn ddewis arall ardderchog yn hytrach na defnyddio peiriannau, ac mae’n arbed amser, costau a defnyddio tanwyddau ffosil a bydd yn helpu i gynnal cynefin agored, gan ganiatáu iddo adfer ar ôl cael ei orchuddio yn y gorffennol gan eithin neu brysgwydd.
"Bydd sicrhau bod y safle hwn, sy'n agos at safleoedd calchfaen eraill, mewn cyflwr da, yn helpu gwytnwch yr ecosystem a'r rhywogaethau y mae'n eu cynnal, gan gyfrannu at wydnwch amgylchedd naturiol Cymru gyfan."
Bwrdd Arthur yw un o'r bryngaerau hynafol mwyaf ac sydd wedi cael eu gwarchod orau ar Ynys Môn.