Dirwy i gwmni cacennau am lygru nant yng Nghaerdydd

Nant wed'i lygru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi llwyddo i erlyn Memory Lane Cakes Limited am lygru Nant Wedal yng Nghaerdydd.

Cafodd y cwmni ddirwy o £26,300 ar 14 Ionawr 2022 yn Llys Ynadon Caerdydd ar ôl pledio'n euog i lygru'r nant gyda dŵr gwastraff o'i becws ar Ffordd Maes-y-Coed.

Daeth swyddogion CNC o hyd i'r llygredd yn mynd i mewn i'r nant o bibell sy'n gysylltiedig â pheiriant golchi llestri diwydiannol ar y safle.

Roedd y peiriant golchi llestri wedi'i gysylltu'n anghywir â'r garthffos dŵr wyneb, yn hytrach na'r garthffos budr. Achosodd hyn 800 litr y dydd o ddyfroedd golchi budr, gan gynnwys menyn, siwgr, blawd ac wyau, i lifo i'r nant.

Ers hynny, mae'r cwmni wedi cyweirio’r cysylltiad anghywir ac erbyn hyn mae ei holl ddŵr gwastraff yn mynd i mewn i'r garthffos budr ac yn cael ei anfon i waith trin.

Cafodd CNC wybod am y llygredd ym mis Ebrill 2019 yn dilyn aelodau o'r cyhoedd yn adrodd am arogleuon tebyg i garthion yn y nant ym Mharc Mynydd Bychan.

Daeth swyddogion o hyd i 380 metr o'r nant wedi'i orchuddio â ffwng carthion, a oedd wedi lladd yr holl infertebratau ar hyd y darn hynny o'r nant.

Mae ffwng carthion yn facteriwm tebyg i wallt sy'n tyfu mewn ymateb i lygredd mewn dŵr. Mae'n lladd infertebratau drwy eu mygu neu ddefnyddio'r ocsigen sydd ei angen arnynt i anadlu.

Meddai Michael Evans, Pennaeth Gweithrediadau Canol De Cymru ar gyfer CNC:

"Gall pibellau gwastraff sydd wedi'u camgysylltu arwain at lygru afonydd Cymru, gan niweidio'r amgylchedd a niweidio bywyd gwyllt lleol.
"Drwy beidio â sicrhau bod ei bibellau gwastraff wedi'u cysylltu'n gywir, llygrodd y dŵr gwastraff o safle Memory Lane Cakes Nant Wedal dros amser hir. Arweiniodd hyn at ffwng carthion yn lladd yr holl fywyd yn yr afon am gannoedd o fetrau i lawr yr afon.
"Rydym yn gobeithio y bydd canlyniad yr achos hwn yn dangos yn glir y bydd unrhyw un sy'n llygru afonydd Cymru yn cael ei erlyn drwy'r llysoedd os bydd angen ac y gallent wynebu dirwyon mawr oherwydd eu gweithredoedd.
"Byddwn yn parhau â'n hymdrechion i addysgu pobl a busnesau am yr effaith y gall pibellau sydd wedi'u camgysylltu ei chael ar yr amgylchedd."

Cafodd Memory Lane Cakes Ltd hefyd orchymyn i dalu costau CNC o £13,000 a thalu gordal dioddefwr o £190.