Gweithredwr gwastraff anghyfreithlon yn ne-orllewin Cymru wedi’i farnu’n euog

Safle gwastraff anghyfreithlon Brynaman

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), mewn partneriaeth â Heddlu Dyfed-Powys, wedi llwyddo i erlyn dyn am weithredu safle gwastraff anghyfreithlon yn ne-orllewin Cymru.

Yn ystod ei gyfweliad, cyfaddefodd James Anthony Gunter, 32 oed, o Frynaman, iddo gyflawni’r troseddau, ac fe’i cyhuddwyd o weithredu cyfleuster gwastraff anghyfreithlon a chael gwared ar wastraff yn y cyfleuster hwnnw mewn modd a oedd yn debygol o achosi llygredd i'r amgylchedd ac i iechyd pobl.

Cafodd ei ddedfrydu yn Llys yr Ynadon, Llanelli, ddydd Gwener 31 Gorffennaf. Derbyniodd Gunter orchymyn cymunedol o 12 mis gyda 200 awr o waith di-dâl. Rhaid iddo dalu’r costau o £6,709 yn llawn, yn ogystal â gordal dioddefwyr o £85.

Roedd wedi bod yn gweithredu gwasanaeth clirio a chludo sbwriel yn ardaloedd Rhydaman, Castell-nedd, Port Talbot a Llanelli.

Roedd yn cymryd arian gan gwsmeriaid i fynd â’u gwastraff ymaith ac yn cludo’r gwastraff hwnnw i safle ym Mrynaman, Rhydaman, i'w waredu'n anghyfreithlon.

Dywedodd David Morgan, Swyddog Gorfodi Gwastraff, Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Mae gweithgareddau gwastraff anghyfreithlon fel hyn yn difetha cefn gwlad, yn cael effaith niweidiol ar fywydau pobl oherwydd materion fel mwg a sŵn, ac yn effeithio ar fusnesau gwastraff cyfreithlon.
"Gadawodd Gunter fwy na digon o dystiolaeth i'n harwain ni ato. Ymhlith y gwastraff - y rhan fwyaf ohono wedi’i losgi - darganfuwyd nifer o ddogfennau gyda chyfeiriadau arnynt. Cafwyd hyd i arwydd hen fusnes lleol, hefyd. Diolch byth, roedd hi’n bosibl i ni olrhain yr eitemau hyn yn ôl i'w man gwreiddiol, ac roedd cynhyrchwyr y gwastraff yn barod i roi datganiadau fel tystion."

Dechreuodd yr ymchwiliad ym mis Mehefin 2019 pan dderbyniodd y Tîm Rheoleiddio Gwastraff nifer o adroddiadau am y gwaith gwastraff anghyfreithlon.

Roedd symiau mawr o wastraff yn cael eu tipio a'u llosgi'n rheolaidd mewn lleoliad sy’n ffinio ar Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Aeth swyddog gorfodi CNC a swyddog o Heddlu Dyfed-Powys a oedd ar secondiad i Cyfoeth Naturiol Cymru ar y pryd, i ymweld â'r safle. Yn yr ymweliad hwnnw a'r ymholiadau dilynol, canfuwyd cryn dipyn o dystiolaeth a arweiniodd at yr erlyniad llwyddiannus hwn.

Dywedodd y Prif Arolygydd Jolene Mann o Heddlu Dyfed-Powys:

"Rydym yn dibynnu ar ein cymunedau i rannu gwybodaeth gyda ni i dargedu a mynd i'r afael â throseddau o'r math hwn, sy'n cael effaith sylweddol ar bobl leol a'r amgylchedd.  Byddwn yn parhau i weithio gydag asiantaethau partner i ddelio'n effeithiol â throseddwyr ac i gadw ein cymunedau'n ddiogel."

Ychwanegodd David Morgan:

"Oherwydd adroddiadau’r cyhoedd, roedd hi’n bosibl i ni ymchwilio i’r troseddau hyn a chael erlyniad. Ond mae gan aelodau'r cyhoedd rôl bwysig arall i'w chwarae o ran atal gweithrediadau gwastraff anghyfreithlon.
"Os ydyn nhw'n trefnu i wastraff gael ei gasglu o'u busnes neu gartref, dylen nhw wirio bod y busnes sy'n ei gasglu wedi'i gofrestru fel cludydd. Edrychwch ar y gofrestr gyhoeddus o'r holl gludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff ar wefan CNC.
"Os nad ydynt wedi’u cofrestru, peidiwch â gadael iddynt gymryd y gwastraff i ffwrdd a rhowch wybod amdanynt ar unwaith i CNC ar ein llinell ddigwyddiadau, 0300 065 3000."