Llys Apêl yn gwrthod achos yn erbyn CNC

Cyfoeth Naturiol Cymru logo

Heddiw (12 Hydref) gwrthododd y Llys Apêl yn llawn hawliad a wnaed yn erbyn arferion rheoli tir Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dilyn her gyfreithiol gan Ymddiriedolwyr Williams Wynn.

Roedd yr hawliad yn ymwneud â'r cwestiwn a oedd gan CNC yr hawl i gloddio a defnyddio cerrig a ganfuwyd ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ynteu a ddylai’r cerrig hyn aros ym meddiant yr Ymddiriedolwyr.

Meddai Sarah Asbrey, Pennaeth Adran Gyfreithiol CNC:

“Rydym yn hynod falch o’r dyfarniad heddiw gan y Llys Apêl.
"Mae'r ffaith bod yr Uchel Lys a'r Llys Apêl bellach wedi dod i benderfyniad unfrydol o’n plaid yn profi ein bod wedi gweithredu'n briodol ac yn gyfreithlon wrth reoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru."

Yn gyntaf, barnodd yr Uchel Lys o blaid CNC ar 27 Gorffennaf 2020 a heddiw cytunodd tri barnwr yn y llys apêl â'r dyfarniad hwnnw.