Pont Cwm Car yn ailagor i deithwyr Llwybr Taf

Pont Cwm Car

Bydd cerddwyr a beicwyr sy'n mentro allan ar Lwybr Taf o Gaerdydd i Aberhonddu yr haf hwn yn elwa o ailagoriad pont Cwm Car ar ôl i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gwblhau gwaith atgyweirio strwythurol.

Ailagorwyd y llwybr coedwig yng nghanolbarth Cymru i'r cyhoedd ar 28 Mehefin yn dilyn atgyweiriadau sylweddol i Bont Cwm Car. Roedd y gwaith yn cynnwys adnewyddu'r hen falwstrad gydag oddeutu tunnell o goed Derw Ewropeaidd a gafwyd mewn modd cynaliadwy.

Dywedodd Brian Hanwell, Uwch Swyddog Rheolwr Tir gyda Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae'n wych gweld y bont yn ôl ar agor ac ar waith unwaith eto. Bu'n rhaid cau'r atyniad poblogaidd am bythefnos ym mis Mehefin i ganiatáu i CNC, gyda'i bartneriaid Beaver Bridges, gwblhau'r gwaith hanfodol. Nawr ei fod wedi'i gwblhau, edrychaf ymlaen at weld mwy o ymwelwyr yn dod i ddarganfod y safle.
Mae pont Cwm Car yn darparu cyswllt hanfodol rhwng Aberhonddu a Chaerdydd. Gyda mwy a mwy o bobl yn chwilio am anturiaethau newydd yng nghefn gwlad Cymru yr haf hwn, bydd y gwaith atgyweirio’n galluogi’r rhai sydd wrth eu bodd â’r awyr agored i grwydro’n ymhellach a dyfnach i goedwig Taf Fechan.

Ychwanegodd Brian Hanwell:

Mae'r bont yn croesi ceunant dwfn, a gall ymwelwyr nawr grwydro’n ddiogel dros y balwstrad derw newydd i weld y rhaeadrau’n tasgu islaw. Mae gofynion iechyd a diogelwch hanfodol ar waith i ganiatáu i ymwelwyr fwynhau golygfa drawiadol Nant Car Fach yn llifo dros y creigiau gan wybod bod y bont mor gadarn â'r creigiau sydd o'i chwmpas. Diolch i Beaver Bridges a wnaeth y gwaith hwn.

Dywedodd Ryland Jones, Pennaeth yr Amgylchedd Adeiledig, Sustrans Cymru:

Mae Sustrans yn falch iawn bod y bont hon wedi'i hatgyweirio a’i bod unwaith eto’n agored i feicwyr. Bydd yn caniatáu i bobl deithio unwaith eto drwy'r goedwig i ffwrdd o briffordd sy'n aml yn brysur.
Gan fod mynediad i fannau gwyrdd yn bwysicach nag erioed, bydd y bont hon yn helpu i ddarparu gwell mynediad i'r awyr agored.