Prosiect Llaeth wedi ymweld â mwy nag 800 o ffermydd yng Nghymru

Mae prosiect Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n anelu at leihau llygredd amaethyddol wedi ymweld â mwy nag 800 o ffermydd yng Nghymru.

Mae tîm o swyddogion llaeth wedi bod yn cynnal ymweliadau rheoli llygredd ledled Cymru yn cynnig cyngor ac arweiniad i ffermwyr llaeth, gan helpu i sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda deddfwriaeth ac yn lleihau’r perygl o lygredd.

Mae pob un o’r swyddogion profiadol yn dod o gefndir amaethyddol ac maent yn angerddol dros ffermio cynaliadwy. Maent yn cynnig cyngor ac arweiniad ynglŷn â sut all ffermwyr a rheolwyr tir wneud gwelliannau i leihau’r perygl o achosi llygredd amaethyddol.

Er mwyn ehangu ar yr arweiniad sydd ar gael i ffermydd nad ydynt wedi cael ymweliad hyd yn hyn, yn ogystal â ffermydd heblaw am ffermydd llaeth, mae’r tîm prosiect llaeth wedi cynhyrchu cyfres o fideos gwybodaeth byr. Mae’r fideo cyntaf wedi cael ei lansio a bydd eraill i ddilyn dros yr wythnosau nesaf. Bydd pob un ar gael ar sianel YouTube CNC.

Dywedodd Chris Thomas, Cydlynydd y Prosiect Llaeth, Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Yn aml iawn, mae ffermwyr yn ystyried ein hymweliadau â ffermydd llaeth yn rhywbeth i’w bryderu, ond pwrpas yr ymweliadau yw rhoi cyngor, arweiniad a helpu ffermwyr i ganfod ffyrdd i wneud newidiadau cadarnhaol ar eu ffermydd, nad ydynt bob amser yn golygu gorfod gwario llawer o arian.

“Bûm yn ymweld â fferm laeth yng nghanolbarth Cymru’n ddiweddar, ac ar ôl taith o amgylch y fferm, fe welsom newidiadau posibl y byddai modd eu gwneud i sicrhau bod gan y ffermwyr ddigon o gapasiti storio slyri heb orfod adeiladu neu ehangu ar storfa slyri neu silwair bresennol.

“Mae’r Prosiect Llaeth yn rhan o ddull aml-asiantaeth i weithio gyda ffermwyr i atal llygredd amaethyddol, ac rydym ni’n gweithio’n agos gyda’n partneriaid trwy is-grŵp Fforwm Rheolwyr Tir Cymru, i ddarparu cefnogaeth gyflawn i ffermwyr.”

Sefydlwyd y prosiect dair blynedd yn ôl gyda’r nod o helpu lleihau llygredd amaethyddol yng Nghymru. Mae’r prosiect wedi ymweld ag 824 o ffermydd hyd yn hyn. Yn ystod cyfnod clo Covid-19 yn 2020, bu swyddogion llaeth yn ymweld â 309 o ffermydd i asesu cynnydd, ac mae 242 o’r ffermydd hynny wedi cwblhau’r hyn a oedd yn ofynnol. Mae 131 o ffermydd wedi cael ail ymweliad yn dilyn llacio cyfyngiadau symud Coronafeirws, gan ganiatáu ar gyfer cwrdd wyneb yn wyneb. Roedd gwelliannau fferm yn cynnwys cynyddu capasiti storio slyri a lleihau faint o nitrogen da byw sy'n cael ei ryddhau i'r tir.

Gallwch wylio fideo’r Prosiect Llaeth yma: https://youtu.be/3VqCwfcmylU 

Am gyngor ynglŷn â sut i atal llygredd amaethyddol, ewch i wefan CNC, neu am gyngor un i un, ffoniwch 0300 065 3000.