Cynllun hwyluso i hybu poblogaethau pysgod

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn bwriadu rhoi hwb i boblogaethau pysgod yng ngorllewin Cymru trwy gael gwared ar rwystrau a chysylltu cynefinoedd afonydd pwysig.

Mae'r prosiect eisoes wedi gwneud un o isafonydd Afon Cothi yn haws i bysgod mudol deithio ar ei hyd drwy wella cwlfert sy'n eiddo i CNC.

Gosodwyd trawstiau mawr pren yn y cwlfert i arafu llif yr afon, cynyddu ei dyfnder, a chaniatáu i fwy o bysgod nofio heibio yn amlach. Mae hyn yn golygu gwell mynediad i eogiaid a sewin silio mewn dyfroedd ymhellach i fyny'r afon.

Bydd y gwelliant yn arwain at fwy o gynefin i bysgod ffynnu ynddo ac yn gwella poblogaethau pysgod yn afonydd Cothi a Thywi yn uniongyrchol.

Mae'r prosiect nawr yn bwriadu mapio strwythurau cwlfert tebyg mewn mannau eraill i nodi safleoedd lle gellir gwneud gwelliannau tebyg i hybu stociau pysgod mewn mannau eraill.

Dywedodd Dave Charlesworth, uwch swyddog yr amgylchedd CNC:

“Mae pysgod yn rhan enfawr o fioamrywiaeth Cymru, heb sôn am y gwerth maen nhw'n ei ychwanegu at yr economi trwy enweirio a thwristiaeth enweirio.
“Bydd gwella eu cynefin a sicrhau bod poblogaethau’n gynaliadwy yn darparu buddion i genedlaethau’r dyfodol.
“Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i nodi problemau tebyg ledled Cymru.  Gyda chymaint o heriau yn wynebu poblogaethau pysgod, gall prosiectau fel hyn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
“Rydyn ni'n edrych ymlaen at gymhwyso'r dull hwn o waith i feysydd eraill mewn angen a gwella cynefinoedd ar gyfer pysgod ledled Cymru.” 

Mae'r prosiect yn cael ei gynnal trwy'r Rhaglen Pysgodfeydd Cynaliadwy ac mae'n cael ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru.

Mae CNC hefyd yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe a phartneriaid ar brosiect peilot newydd sy'n ceisio deall yn well sut y gall rhwystrau rhwng gwahanol gynefinoedd afon effeithio ar afon Afan yn Ne Cymru.

Mae'r prosiect hwn yn caniatáu i unrhyw un gymryd rhan mewn arolygu'r dalgylch ac yn cydgysylltu â mentrau Ewropeaidd ehangach.

Yn ogystal â gwella asedau a chysylltu cynefinoedd, mae sawl menter arall ar waith i hybu stociau pysgod ledled Cymru.

Mae'r rhain yn cynnwys prosiect 'Taclo'r Tywi' sydd a'r nod o wella ansawdd dŵr ar hyd Afon Tywi.

Mae CNC hefyd yn galw ar bysgotwyr i ryddhau'r holl eogiaid maen nhw'n eu dal yn wirfoddol rhwng nawr a diwedd y tymor er mwyn sicrhau bod cymaint o bysgod â phosib yn goroesi.