CNC yn rhybuddio yn erbyn defnyddio plastig gwastraff i wneud arwynebau marchogaeth

Yn ôl rhybudd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mae defnyddio plastig gwastraff i wneud arwynebau marchogaeth yn niweidiol i geffylau, i farchogion a’r amgylchedd.

Meddai Adrian Evans, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol ar gyfer mynd i’r afael â Throseddau Gwastraff:

“Ar hyn o bryd mae CNC yn ymchwilio i achos posibl o’r deunydd hwn yn cael ei adael yn anghyfreithlon ar safle yng Nghymru.
“Mae’r gweithgaredd hwn yn golygu cymysgu plastigau o ffynonellau amrywiol, gan gynnwys, gorchuddion ceblau ac offer trydanol gwastraff a allai halogi’r tir ac achosi niwed i geffylau a marchogion.
“Os ydych yn cael cynnig deunydd a allai fod yn ddeunydd gwastraff, cofiwch feddwl ddwywaith.”

Mae’n drosedd storio neu ddefnyddio gwastraff a reolir ar safle heb drwydded neu esemptiad priodol a’r cyngor gan CNC yw: os yw bargen yn swnio’n rhy dda i fod yn wir yna mae’n debyg ei bod hi, felly peidiwch â chael eich twyllo.

Ychwanegodd Adrian:

“Os oes gennych bryderon am weithgaredd anghyfreithlon amheus neu os ydych chi eisiau gwybod mwy cysylltwch â CNC drwy fynd i : wefan CNC -  rhoi gwybod am ddigwyddiad  neu ffoniwch - 0300 065 3000 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos.”