CNC yn lansio gwasanaeth Gwirio Eich Perygl Llifogydd newydd

Flood warning sign

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi lansio gwasanaeth gwe newydd sy'n darparu gwybodaeth am berygl llifogydd gan ddefnyddio cod post, ynghyd â gwelliannau i'r ffordd y gall cwsmeriaid gael gafael ar wybodaeth am berygl llifogydd o'i gwefan.

Nod y gwasanaeth, sy'n darparu adroddiad yn seiliedig ar gyfeiriad, yw ei gwneud yn haws i bobl Cymru ddarganfod lefel y perygl o lifogydd yn eu heiddo neu eiddo y maent yn bwriadu symud iddo.

Unwaith y bydd defnyddiwr yn rhoi cod post ac yn dewis cyfeiriad bydd y gwasanaeth yn creu adroddiad syml yn manylu ar lefel y perygl o lifogydd o afonydd, y môr, dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach.

Roedd cyfanswm y costau yswiriant sy'n gysylltiedig â llifogydd tua £81 miliwn yng Nghymru y llynedd, a gafodd ei ddylanwadu yn bennaf gan effeithiau Stormydd Ciara, Dennis a Jorge a orlifodd dros 3,000 o eiddo. Mae'r gwasanaeth hwn yn ceisio sicrhau bod gan bobl y wybodaeth fwyaf cywir am berygl llifogydd ar gyfer eu hardal er mwyn sicrhau y gallant fod mor barod â phosibl pan ragwelir glaw trwm.

Dywedodd Mark Pugh, prif gynghorydd ar gyfer dadansoddi perygl llifogydd CNC:

"Gall llifogydd ddinistrio cartrefi a busnesau ac mae ein meddyliau gyda'r rhai a gafodd eu heffeithio gan y tywydd eithafol a fu yng Nghymru y llynedd.
"Mae arbenigwyr hinsawdd yn dweud wrthym y bydd tymheredd uwch a achosir gan newid hinsawdd yn gwneud y cyfnodau hyn o dywydd eithafol yn fwy tebygol ac yn fwy difrifol yn y dyfodol.
"Mae'r gwasanaeth ar-lein newydd hwn yn system hawdd i’w ddefnyddio a gall unrhyw un ei ddefnyddio i edrych ar lefel y perygl o lifogydd yn eu hardal eu hunain, yr ardaloedd lle mae ffrindiau a theulu'n byw, neu mewn ardal ble maent yn ystyried symud.
"Allwn ni ddim rheoli'r tywydd ac ni allwn atal pob achos o lifogydd. Ond drwy gyflwyno gwasanaethau fel hyn, gallwn helpu pobl i fod mor barod â phosibl pan fydd amodau eithafol yn digwydd. Os ydych chi mewn ardal sydd â risg uchel o lifogydd, ewch i'n gwefan i gael gwybod beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd."

Bydd y gwasanaeth Gweld eich risg llifogydd newydd ar gael o ganol mis Gorffennaf ar wefan CNC.