Cefnogi datganiad argyfwng hinsawdd Llywodraeth Cymru

Tress in a forest

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi nodi prif flaenoriaethau i gefnogi datganiad argyfwng hinsawdd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd fis diwethaf.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi nodi camau gweithredu blaenoriaethol i gefnogi Datganiad Argyfwng Hinsawdd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd fis diwethaf.

Mewn cyfarfod diweddar o'r Bwrdd, gan ymateb i obaith Llywodraeth Cymru y bydd y datganiad yn sbarduno ton o weithredu, ymrwymodd CNC i fwrw ymlaen ymhellach ac yn gyflymach i ddatblygu ystod o fesurau datgarboneiddio, addasu a newid ymddygiad.

Mae'r rhain yn cynnwys adfer mawndiroedd i atal rhyddhau carbon, gwella rheolaeth coedwigoedd er mwyn iddynt storio mwy o garbon, bod yn fwy ynni-effeithlon mewn swyddfeydd, gwneud mwy o ddefnydd o gerbydau trydan a rhannu arbenigedd i helpu sefydliadau eraill.

Meddai Syr David Henshaw, Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i chwarae rôl arweiniol wrth helpu i gyflawni uchelgais y sector cyhoeddus o fod yn garbon niwtral erbyn 2030.
“Rydym yn cydweithio'n agos â Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac eraill i gyflawni hyn.
“Mae’r Datganiad Argyfwng Hinsawdd yn her allweddol inni i gyd a dylem gydnabod yr argyfwng amgylcheddol ehangach, yn arbennig y golled o safbwynt bioamrywiaeth.
“Mae gan lawer o gamau gweithredu megis coedwigo, adfer mawndiroedd a lleihau llygredd drwy ddefnyddio dulliau ynni-effeithlon y potensial o arwain at nifer o fanteision - nid yn unig ar gyfer yr amgylchedd, ond hefyd ar gyfer ein hiechyd, ein lles a’n heconomi.
“Nawr rydym yn edrych ymlaen at gynllunio mwy o waith, mewn partneriaeth ag eraill. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddatgarboneiddio Cymru – ac yn sicrhau bod mynd i'r afael â newid hinsawdd yn ganolog i’n holl waith.
“Yn y cyd-destun hwn rydym yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod ffordd liniaru’r M4 – cam cadarnhaol o ran Gwastadeddau Gwent, rheolaeth gynaliadwy o’i adnoddau naturiol a gwytnwch y cynefin unigryw hwn. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod fod hyn wedi bod yn benderfyniad anodd ac rydym yn awyddus i gydweithio â Llywodraeth Cymru i ganfod dulliau cynaliadwy o ddatrys problemau tagfeydd.”

Yn ystod y misoedd nesaf bydd CNC yn adolygu ei dargedau a’i uchelgeisiau ar gyfer datgarboneiddio yn ogystal ag addasu i effeithiau newid hinsawdd ar draws cylch gwaith CNC. 

Yn benodol, mae Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymrwymo i'r camau canlynol:

  • Gwella rheolaeth coedwigoedd a mawndiroedd fel eu bod yn storio mwy o garbon;
  • Bod yn fwy ynni-effeithlon a chynhyrchu ynni gwyrdd adnewyddadwy mewn swyddfeydd os yw’n bosibl;
  • Cynyddu’r defnydd o gerbydau trydan yn gyflym;
  • Archwilio mwy o gyfleoedd i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar dir a reolir gan CNC;
  • Rhoi mwy o ystyriaeth i’r defnydd o garbon ym mhopeth sy’n cael ei brynu;
  • Rhannu profiad CNC o reoli allyriadau carbon â chyrff sector cyhoeddus eraill er mwyn helpu i greu sector cyhoeddus mwy gwyrdd;
  • Cymryd i ystyriaeth y cynhesu byd-eang anochel ym mhopeth a wnawn a helpu Cymru i addasu i'r newidiadau sydd o'n blaenau