Cyflwyno Cais Cynllunio ar gyfer cynllun llifogydd Llyswyry

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyflwyno cynlluniau i Gyngor Dinas Casnewydd, ar gyfer cynllun newydd i amddiffyn rhag llifogydd ar hyd Afon Wysg yn Llyswyry, Casnewydd.

Byddai'r cynllun arfaethedig yn lleihau'r perygl o lifogydd i dros 2000 eiddo ac yn cryfhau rhannau o'r arglawdd llifogydd presennol, sy’n 1350m o hyd, ar hyd glan ddwyreiniol yr afon, yn ogystal ag adeiladu muriau llifogydd newydd.

Cynhaliodd CNC ymgynghoriadau cyhoeddus ym mis Medi 2020 a mis Mawrth 2021 cyn cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio llawn ym mis Gorffennaf yn gynharach eleni.

Mae'r cais bellach wedi'i ddilysu gan Gyngor Dinas Casnewydd ac mae'r cyfeirnod canlynol wedi'i ddyrannu: 21/0718.

Darparwyd nifer o ddogfennau i gefnogi'r cais, y gellir eu gweld ar wefan gynllunio'r Cyngor:

https://publicaccess.newport.gov.uk/online-applications/applicationDetails.do?activeTab=details&keyVal=QVTAENLCICK00

Gallwch hefyd gysylltu â'r Adran Gynllunio drwy e-bostio: planning@newport.gov.uk.

Dywedodd Tim England, Rheolwr Gweithrediadau CNC:

Yn gynharach eleni, daeth Storm Christoph â llifogydd a dinistr i lawer o gymunedau yng Nghymru. Fe'n cynghorir bod y digwyddiadau hyn yn debygol o ddod yn amlach gyda newid yn yr hinsawdd. Mae ein hasesiad o risg, wedi’i gefnogi gan ein gwaith modelu llifogydd, yn nodi bod gan Lyswyry risg uchel o lifogydd ar gyfer y dyfodol.
Yn ystod ein hymgynghoriad fis Medi diwethaf, clywsom gan lawer o drigolion a busnesau yn yr ardal yr effeithiwyd arni ac rydym wedi cael rhai sgyrsiau gwerthfawr iawn sydd wedi helpu i siapio'r cynlluniau yr ydym wedi'u cyflwyno heddiw. Rydym yn ddiolchgar iawn am yr adborth.
Mae hi'n dal yn ddyddiau cynnar o ran datblygu’r prosiect, a fy nghyngor i unrhyw un sy’n poeni am lifogydd ar hyn o bryd yw ymweld â’n gwefan i edrych ar lefel eu risg, ac i weld a yw ein gwasanaeth rhybuddio am lifogydd ar gael yn eu hardal. Mae gwybodaeth a chyngor ar gael hefyd trwy ffonio Floodline ar 0345 988 1188.

Yn ogystal â lleihau’r perygl o lifogydd i'r gymuned, byddai'r cynigion cyfredol hefyd yn gweld gwelliannau i fannau gwyrdd cymunedol a'r rhan gyfagos o Lwybr Arfordirol eiconig Cymru.

Mae hyn yn cynnwys llwybr troed newydd ym Mharc Coronation sy'n cysylltu â Llwybr Arfordir Cymru i greu llwybr cerdded cylchol gyda llwyfannau gwylio newydd ar draws yr Afon Wysg.

Mae tair ‘coedwig drefol’ newydd sy’n cynnwys 1,600 o goed ifainc a newydd hefyd ar y gweill ym Mharc Coronation i gyfiawnhau torri oddeutu 650 o goed a llwyni fel rhan o’r gwaith adeiladu.

Mewn man arall yng Nghasnewydd, mae 600 o adeiladau yng nghymuned gyfagos Crindai bellach yn cael eu diogelu'n well rhag y risg o lifogydd ar ôl cwblhau cynllun llifogydd gwerth £14 miliwn ar hyd darn 2.6km o Afon Wysg.