Paratoi i ddychwelyd yn ddiogel i awyr agored Cymru

Gall gwneud y pethau bychain i baratoi ar gyfer dychwelyd i awyr agored Cymru wneud gwahaniaeth mawr i sicrhau profiad diogel a phleserus i ymwelwyr a chymunedau fel ei gilydd.

Dyna neges Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Clare Pillman, heddiw wrth i’r corff amgylcheddol wneud y paratoadau terfynol i groesawu mwy o bobl yn ôl i'w safleoedd dros gyfnod y Pasg. 

Disgwylir i gyfyngiadau aros yn lleol gael eu codi o ddydd Sadwrn 27 Mawrth, gan alluogi i drigolion Cymru deithio'n fwy rhydd ledled y wlad.

Er bod ei goetiroedd, llwybrau beicio mynydd a’i warchodfeydd wedi parhau yn agored ar gyfer ymarfer corff lleol drwy’r cyfyngiadau diweddaraf, mae CNC yn disgwyl gweld cynnydd mewn ymwelwyr dros yr wythnosau nesaf gyda mwy o bobl yn barod i archwilio’r ardaloedd y tu hwnt i'w hamgylchedd lleol.

Gyda diogelwch ymwelwyr a'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yn y cymunedau cyfagos mewn golwg, mae CNC yn annog y rhai sy'n dymuno teithio i fannau hardd Cymru’r Pasg hwn i wybod beth y gallant ei ddisgwyl cyn ymweld, a sut i leihau'r pwysau ar fannau agored a thirweddau pan maent yn cyrraedd.

Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Rydym yn ymwybodol y bydd llawer o bobl yn awyddus i ymweld â chefn gwlad Cymru dros gyfnod y Pasg - i ailymweld â’u hoff lefydd eto ac i fanteisio ar y cyfle i grwydro ychydig ymhellach yn y gobaith o ddarganfod llefydd newydd.

"Er ein bod yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl i'n coetiroedd a'n gwarchodfeydd natur, mae'n bwysig ein bod yn parhau i helpu i gadw Cymru'n ddiogel drwy wneud y pethau bychain sydd yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran diogelu ein hamgylchedd naturiol, a pharchu'r cymunedau sydd o'u cwmpas. 

"Mae hyn yn cynnwys cynllunio ymlaen llaw i sicrhau eich bod yn deall beth i'w ddisgwyl yn eich cyrchfan, parcio mewn ardaloedd dynodedig yn unig, cadw cŵn dan reolaeth, peidio â chynnau tanau, a mynd â'ch sbwriel adref gyda chi. Os yw'r safle ychydig yn brysurach na'r disgwyl, sicrhewch fod cynllun arall wrth gefn a byddwch yn barod i ddod o hyd i le tawelach.

"Rydym yn annog ein holl ymwelwyr i edrych ar ein gwefan cyn teithio, am wybodaeth ynglŷn â beth a ble sy'n agored, ac i ddarllen cyngor ar sut i barchu, diogelu a mwynhau amgylchedd naturiol Cymru drwy ddilyn y Cod Cefn Gwlad a'n chwe cham i ddychwelyd yn ddiogel."

Wrth i gyfyngiadau aros yn lleol gael eu llacio'r haf diwethaf, gwelodd Cymru gynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr â'i mannau prydferth. Er bod y mwyafrif wedi ymddwyn yn gyfrifol, roedd rhai achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ar safleoedd CNC, gan gynnwys parcio anghyfreithlon, gwersylla anghyfreithlon a sbwriel.

Felly, mae CNC yn gofyn i ymwelwyr barchu'r Cod Cefn Gwlad ac ystyried ei chwe cham argymelledig i sicrhau bod pobl yn dychwelyd yn ddiogel, gyda'r nod o’u hannog i edrych ar fanylion am eu cyrchfan cyn teithio.

Chwe cham i ddychwelyd yn ddiogel:

Cyn eich ymweliad:

  • Cynlluniwch ymlaen llaw - cadarnhewch beth sydd ar agor ac ar gau cyn dechrau. Paciwch hylif diheintio dwylo a masgiau wyneb.
  • Ceisiwch osgoi’r torfeydd – dewiswch le tawel i fynd iddo. Gwnewch gynllun wrth gefn rhag ofn bod eich cyrchfan yn rhy brysur pan fyddwch yn cyrraedd.

Tra byddwch chi yno:

  • Parciwch yn gyfrifol – parchwch y gymuned leol drwy ddefnyddio meysydd parcio. Peidiwch â pharcio ar ymylon na rhwystro llwybrau mynediad brys.
  • Dilynwch y canllawiau – cydymffurfiwch ag arwyddion safleoedd a mesurau diogelwch Covid-19 i fwynhau eich ymweliad yn ddiogel.
  • Ewch â'ch sbwriel adref – diogelwch fywyd gwyllt a'r amgylchedd drwy beidio â gadael unrhyw ôl o'ch ymweliad.
  • Dilynwch y Cod Cefn Gwlad – cadwch at lwybrau, gadewch gatiau fel yr oeddent, cadwch gŵn dan reolaeth, bagiwch a biniwch faw cŵn.

 Dywedodd Richard Owen, arweinydd tîm cynllunio hamdden ystadau a stiwardiaeth tir yn CNC:

"Mae CNC wedi bod yn gweithio'n galed gyda'n partneriaid a’r cymunedau o amgylch ein safleoedd i sicrhau croeso diogel a chynnes i ymwelwyr – p'un a ydynt yn dychwelyd am y canfed tro neu’n eu darganfod am y tro cyntaf.

"Er bod ein coetiroedd, ein llwybrau a'n gwarchodfeydd wedi parhau yn agored dros y misoedd diwethaf, bydd ein canolfannau ymwelwyr yn parhau ar gau tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn gyda’r disgwyl i rai safleoedd gynnig gwasanaeth lluniaeth tecawê. Fodd bynnag, mae ein cyfleusterau awyr agored, gan gynnwys meysydd parcio, llwybrau beicio mynydd, toiledau a meysydd chwarae ar agor.

"Rydym yn annog pobl i edrych ar ein gwefan am y wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio a dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru yn ystod eu hymweliad, i sicrhau y gall pawb barhau i fwynhau ein safleoedd."

Bydd gwybodaeth bellach am y pethau y gallwch eu disgwyl yn ein coetiroedd a'n gwarchodfeydd natur yn cael ei diweddaru'n rheolaidd ar y dudalen 'Ar Grwydr' ar wefan CNC.

Mae CNC hefyd yn cefnogi ymgyrch Addo Croeso Cymru, sy’n gofyn i bobl Cymru wneud addewid i ofalu am ein gilydd, ein tir a’n cymunedau wrth ddechrau crwydro eu cymunedau lleol unwaith eto.

 Gellir llofnodi'r adduned ar y wefan www.croeso.cymru/cy/addo