Adroddiad yn arddangos prosiect samplu llygredd gan wirfoddolwyr yn Nyfrffordd Aberdaugleddau

SWEPT

Mae prosiect gwyddoniaeth dinasyddion sy’n ymwneud ag ansawdd dŵr ac sy’n cael ei ariannu gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi ei adroddiad terfynol.

Mae SWEPT (Surveying the Waterway Environment for Pollution Threats) wedi gweld dros 100 o wirfoddolwyr yn cynnal ail arolygon o rannau o'r lan oddi mewn i Ddyfrffordd Aberdaugleddau, ac yn profi samplau dŵr am lefelau nitradau a ffosffadau.

Bydd y darlun manwl canlyniadol o lygredd nitrad yn adnodd amhrisiadwy er mwyn i swyddogion CNC dargedu eu hymdrechion wrth helpu i leihau faint o lygredd sy'n dod i mewn i'r Ddyfrffordd.

Roedd SWEPT yn cael ei arwain gan y bartneriaeth o reolwyr ar ran Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol, mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru, Fforwm Arfordirol Sir Benfro a Chanolfan Darwin. Bu’r mewnbwn arbenigol gan staff CNC o fudd enfawr i'r prosiect. 

Dywedodd Sue Burton, Swyddog Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol: 

“Mae ansawdd a maint y data a gynhyrchwyd gan ein gwirfoddolwyr brwd wedi rhagori ar ein disgwyliadau. Yn ystod yr hyn sydd, yn swyddogol felly, yn Wythnos Gwirfoddolwyr y DU, rwy’n diolch i’r holl wirfoddolwyr am eu cyfraniad amhrisiadwy.” 
“Fe wnaeth y grant ein galluogi i wneud gwaith trylwyr ar yr adroddiad, y mapiau a’r atodiadau, gan ei droi yn adnodd gwerthfawr i bobl sy’n dymuno ailadrodd y fethodoleg yn bersonol.” 

Enillodd prosiect SWEPT Wobr Amddiffynnwr y Parc 2019, cystadleuaeth a gynhelir gan Campaign for National Parks - yr elusen ar gyfer 13 o Barciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr. Mae’r dyfarniad (grant o £2000 a noddir gan Ymddiriedolaeth Elusennol Ramblers Holiday’s), yn dathlu ac yn cefnogi prosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth er mwyn diogelu rhai o ardaloedd cefn gwlad enwocaf y byd. 

Yn ystod y pedwar mis o arolygu Dyfrffordd Aberdaugleddau, tynnwyd 2105 o luniau a chynhaliwyd yn agos at 900 o brofion nitrad a ffosffad gan y gwirfoddolwyr. At hyn, casglodd pedair taith canŵ ddata o ardaloedd anodd eu cyrraedd ac mae myfyrwyr prifysgol wedi bod yn rhan o’r gwaith o gasglu a dadansoddi data. 

Ychwanegodd Sue: 

“Mae cynnwys pobl leol mewn materion amgylcheddol lleol yn cynorthwyo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o effeithiau dynol ac mae hyn yn rhoi hwb gwirioneddol i ddiogelu'r amgylchedd.” 
“Fe ddylen ni i gyd fod yn fwy ymwybodol o'n cysylltiad agos â'r môr a dylem gymryd camau i ofalu amdano a'i fywyd gwyllt, p'un a yw hynny'n golygu bod yn ofalus o sut rydym ni’n gwaredu ein gwastraff, ystyried beth rydym ni'n ei ollwng i lawr draeniau, neu sut rydym ni'n defnyddio’r môr ac yn rhyngweithio â bywyd gwyllt. ” 

Dywedodd Anne Bunker, Uwch Gynghorydd Morol CNC: 

“Ar hyn o bryd mae Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol (ACA) mewn cyflwr anffafriol o fewn y ddyfrffordd - mae rhan fewnol y ddyfrffordd, afon Penfro ac i fyny'r afon ar hyn o bryd yn methu â chyrraedd statws 'da', sy'n ofynnol er mwyn cydymffurfio â Chyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yr UE erbyn 2027.” 
“Bydd y data yn llenwi bylchau yn ymdriniaeth data CNC ac yn helpu CNC i flaenoriaethu camau cadwraeth tir gan arwain at welliannau amgylcheddol.” 
“Yn ogystal â’r canlyniadau ansawdd dŵr, bu’r gwirfoddolwyr hefyd yn casglu gwybodaeth am sbwriel morol, rhywogaethau anfrodorol ac unrhyw fygythiadau llygredd eraill, fel olew neu dipio anghyfreithlon.” 
“Aeth CNC ati i ddilysu a datrys yr holl bryderon llygredd uniongyrchol a gofnodwyd yn ystod y gwaith maes.” 

Mae’r ymgyrch Big River Clean-up, dan arweiniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, wedi gweld symud llawer iawn o sbwriel morol o ‘fannau poeth’ a amlygwyd gan arolwg y gwirfoddolwyr.