Mae plannu coed yn nodi 100 mlynedd o goedwigaeth yng Nghymru ac yn gosod uchelgais ar gyfer y dyfodol

Dafydd Elis-Thomas  yn plannu derwen yng Nghanolfan Ymwelwyr Garwnant CNC

Mae coedfa wedi’i phlannu’n ddiweddar yng Nghanolfan Ymwelwyr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) Garwnant, ger Merthyr Tudful, yn arbennig i ddathlu canmlwyddiant y warchodfa goedwigaeth genedlaethol yng Nghymru.

Sefydlwyd y Comisiwn Coedwigaeth ym 1919 i ailgyflenwi coetir a chyflenwadau pren y genedl, a oedd ar ei lefel isaf erioed yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ers hynny mae'r Ystâd Goetir y mae CNC bellach yn ei reoli ar gyfer Llywodraeth Cymru wedi tyfu i gwmpasu ardal o 124,000 hectar – sy’n 6% o Gymru - ac mae'n cyflenwi dros 50% o'r holl bren yng Nghymru.

Plannwyd coedfa Garwnant yn 2016, i baratoi ar gyfer y posibilrwydd o golli coed llarwydd aeddfed ar y safle oherwydd afiechyd ac mae 88 o wahanol rywogaethau ymhlith y 480 o goed.

Dewiswyd y coed i gynrychioli ac arddangos coed o wahanol gyfandiroedd ledled y byd, a fydd yn creu sioe o ddail a blodau lliwgar ar wahanol adegau o'r flwyddyn, gyda’u heffaith yn cynyddu wrth iddynt aeddfedu dros y degawdau i ddod.

Nododd Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth y seremoni gysegru trwy ymuno â Phrif Weithredwr CNC Clare Pillman, i blannu coeden dderwen ddigoes frodorol yng Nghanolfan Ymwelwyr Garwnant.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn y cyfnod dechreuol o gwmpasu Rhaglen Goedwig Genedlaethol er mwyn datblygu gweledigaeth y Prif Weinidog am Goedwig Genedlaethol yng Nghymru. Bydd hwn yn brosiect hirdymor gyda’r bwriad o  fanteisio i'r eithaf ar y buddion hyn a chyflymu plannu coed yng Nghymru. 

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: 

“Rhaid i ni gydnabod yr angen i blannu mwy o goed a gwella rheolaeth ein coetiroedd presennol os ydym am fynd i’r afael â dirywiad bioamrywiaeth ac argyfyngau newid hinsawdd, ynghyd â pharhau i fwynhau’r manteision niferus a ddaw i ni drwy ein coetiroedd a’n coed. 
“Mae gennym lwybrau beicio mynydd arloesol, llwybrau cerdded hygyrch a nawr Coedfa Ganmlwyddiant wych, a fydd, wrth iddi aeddfedu, yn datblygu’n atyniad y bydd pobl Cymru eisiau ymweld â hi a bod yn falch ohoni.
“Mae’n bwysig bod pob un ohonom yn deall gwerth bod allan yn amgylchedd naturiol Cymru, rhywbeth a all gyfrannu’n fawr at les corfforol, meddyliol ac emosiynol pawb yng Nghymru ac sy’n darparu cyfleoedd sylweddol ar gyfer profiadau addysgol, diwylliannol a gweledol.
“Gobeithio y gwelwn lawer mwy o goed newydd yn cael eu plannu dros y 100 mlynedd nesaf a pharhau i annog cydweithrediad traws-sector ledled Cymru”.

Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru: 

“Mae'n briodol mai’r goedfa hon yw Coedfa Ganmlwyddiant CNC; mae'n dangos yn glir sut y gall coedwigaeth y gorffennol a choedwigaeth y dyfodol ddod at ei gilydd mewn ffordd sy'n cefnogi'r buddion lu a ddaw o ystâd goedwig gyhoeddus Cymru.
“Bydd y coed hyn yn gweithio’n galed – storio carbon, glanhau aer, denu ymwelwyr, edrych yn hyfryd, creu gwytnwch, ein hatgoffa o’n gorffennol a’r potensial ar gyfer ein dyfodol. Maent o fewn ardal o goedwig gynhyrchiol, gan gyfrannu at ffyniant economaidd Cymru.
“Trwy barhau i reoli ein coedwigoedd yn effeithlon a thrwy blannu’n sensitif mewn modd sy’n gwella gwerth bioamrywiaeth yn hytrach na’i leihau, gallwn edrych ymlaen at gynydd cyson ym maint y tir coediog yng Nghymru.”