Sesiynau gwybodaeth rhithwir cyn gwaith cwympo coed mawr yng Nghaerffili

pren wedi'i bentyrru ar ochr ffordd y goedwig

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynnal cyfres o apwyntiadau rhithwir ar 25 a 26 Mai i roi cyfle i bobl ddysgu mwy am waith cwympo coed llarwydd arfaethedig yng Nghaerffili eleni.

Mae disgwyl i waith i gael gwared ar goed llarwydd heintiedig ddechrau yng nghoetiroedd Llanbradach a West End, ger Crosskeys, fis nesaf. Disgwylir rhagor o waith cwympo coed hefyd mewn coetiroedd a elwir 'Y Wyllie', ger Wattsville, yn ddiweddarach yr hydref hwn.

Mae'r coed, sydd yn gorchuddio cyfanswm o oddeutu 100 hectar, wedi'u heintio gan Phytophthora ramorum, a adwaenir yn fwy cyffredin fel clefyd y llarwydd. Mae angen eu cwympo i atal lledaeniad y clefyd, sy'n cael effaith ddybryd ar goedwigaeth yng Nghymru.

Bydd timau o CNC sy'n rheoli'r coetiroedd, a'r contractau cwympo coed, yn cynnal yr apwyntiadau ac maent yn hapus i gymryd cwestiynau ac egluro'r cynlluniau i bobl sy'n byw ger y coetiroedd hyn, neu sy'n ymweld â nhw'n rheolaidd.

Bydd apwyntiadau ar gael ddydd Mawrth 25 Mai rhwng 13:00-16:30 neu ddydd Mercher 26 Mai rhwng 16:00-19:30, a byddant yn para tua 15 munud. Dylai unrhyw un sy'n dymuno trefnu apwyntiad e-bostio SEForest.operations@naturalresources.wales 

Dywedodd Jim Hepburn, Arweinydd Tîm Gweithrediadau Coedwig CNC:

"Yn anffodus mae gan dde Cymru boblogaethau trwchus o goed llarwydd, felly mae'r clefyd a'r gwaith cwympo angenrheidiol wedi effeithio'n arbennig o wael ar yr ardal yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
"Yn ystod y pandemig mae pobl wedi dibynnu ar ein coetiroedd yn fwy nag erioed ar gyfer ymarfer corff a’u lles meddyliol. Wrth i ni baratoi i ymgymryd â'r gwaith hanfodol hwn, rydym am sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r gwaith arfaethedig, ac yn deall pam mae'n digwydd a sut y gallai effeithio arnynt.
"Er ein bod yn gyndyn o ystyried gorfod cau ein coetiroedd, er mwyn caniatáu i'r gwaith ddigwydd yn ddiogel ac mor effeithlon â phosibl, mae’n anochel y bydd rhaid cau rhai ardaloedd. Wrth gwrs, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i darfu cyn lleied â phosib ar y gymuned leol."

I gael rhagor o wybodaeth am yr ardaloedd o goetir yr effeithir arnynt, ewch i'n gwefan.