Annog busnesau coedwigaeth Cymru i ymateb i ymgynghoriad ar gynllun marchnata gwerthu pren hanfodol 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog busnesau unigol yn sector coedwigaeth Cymru i ddweud eu dweud am gynigion a allai benderfynu sut mae'r corff yn gwerthu pren am y pum mlynedd nesaf. 

Mae CNC yn ceisio barn y sector ar gynigion a allai lywio'r Cynllun Gwerthu a Marchnata Pren sydd ar y gweill mewn ymgynghoriad ar-lein. Yna, bydd staff CNC yn defnyddio'r cynigion a'r adborth o'r ymgynghoriad i lywio datblygiad y cynllun.  

Dywedodd Neil Stoddart, Rheolwr Gwerthu a Marchnata CNC: "Rwy'n gwybod bod llawer yn y diwydiant wedi bod yn dyheu am Gynllun Gwerthu a Marchnata Pren wedi'i adnewyddu ac wedi bod eisiau lleisio barn arno ers amser maith.
"Dyma'r cyfle i wneud yr union beth hwnnw. Bydd y Cynllun Gwerthu a Marchnata Pren yn ddogfen bolisi hanfodol i CNC a bydd yn pennu sut rydym yn gwerthu ac yn marchnata pren am y pum mlynedd nesaf.
"Er ein bod yn annog ac yn croesawu ymatebion gan gyrff cynrychioliadol i'r ymgynghoriad hwn, rydym hefyd yn annog busnesau coedwigaeth unigol i sicrhau bod eu barn yn cael ei chynrychioli ac rydym yn eu hannog i ymateb ac adlewyrchu eu hanghenion busnes eu hunain.
"Mae coedwigoedd a reolir gan CNC yn darparu tua 60% o'r pren cynaliadwy a gynhyrchir yng Nghymru bob blwyddyn, ac mae'r map ffordd hwn ar gyfer sut rydym yn rheoli gwerthiant y cynnyrch pwysig hwn yn sicr o gael effaith ar y sector. Rydym am sicrhau bod busnesau coedwigaeth a phrosesu coed Cymru yn chwarae rhan gref yn y broses o lunio'r cynllun."

Lansiwyd yr ymgynghoriad ym mis Medi a bydd yn dod i ben ar 3 Tachwedd 2020. Mae'r ymgynghoriad a'r wybodaeth ategol ar gael ar-lein. 

Os oes angen i ymatebwyr drafod unrhyw agwedd ar yr ymgynghoriad, gellir cysylltu â Neil Stoddart drwy neil.stoddart@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.