Gwaith yn parhau i leihau’r perygl o lifogydd yng Nghasnewydd

Llun o Albany Street yng Nghasnewydd yn dangos llwybr troed newydd gyda llwybr chwarae lliwgar gyda siapiau a llinellau ar y llawr

Bydd cam nesaf cynllun i gynyddu amddiffyniad rhag llifogydd i bobl mewn mwy na 600 eiddo yn Ne-ddwyrain Cymru yn dechrau eleni.

Bydd cynllun Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn lleihau'r perygl o lifogydd yn yr ardal o dir isel yng nghyffiniau Crindau a Shaftesbury yng Nghasnewydd, ardal sydd wedi dioddef sawl gwaith yn sgil llifogydd llanwol.

Bydd muriau llifogydd yn cael eu codi mewn tair ardal ychwanegol, ond bydd amddiffynfeydd dros dro yn dal yno nes bydd y gwaith parhaol wedi'i gwblhau er mwyn sicrhau diogelwch y gymuned.

Bydd gwaith yn dechrau ym mhen uchaf y cynllun (i fyny'r afon) ger Waterside Court ym mis Medi, ac er y gallai hyn achosi rhywfaint o aflonyddu yn yr ardal, bydd Llwybr Rhwydwaith Seiclo Cenedlaethol 88 i Gaerllion yn parhau i fod ar agor.

Bydd dymchwel yr hen adeilad National Plastics ger Pont Heol Lyne ar hyd Stryd Adelaide yn dechrau tua diwedd y flwyddyn, bydd gwaith yn yr ardal sydd ar ôl yn dechrau yn 2020.

Cafodd cam cyntaf y cynllun ei gwblhau yn 2018. Roedd hyn yn cynnwys adeiladu muriau llifogydd y tu ôl i'r adeiladau diwydiannol i'r gogledd o Bont Heol Lyne ac arglawdd newydd drwy Barc Shaftesbury.

Meddai Tim England, Rheolwr Gweithrediadau (Rheoli Llifogydd a Dŵr) CNC:

“Hyd yma mae’r cynllun wedi helpu i ddiogelu mwy ar y gymuned rhag peryg llifogydd.
"Rydym wedi bod yn gweithio'n galed gyda thirfeddianwyr, penseiri a chynllunwyr dros y flwyddyn ddiwethaf i gwblhau ein cynlluniau i leihau'r risg yn y ddwy ardal hyn sydd ar ôl. 
"Unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau rydym yn gobeithio y bydd digwyddiadau llifogydd mawr, fel y rhai a gafwyd yn 1981, ac a effeithiodd ar 500 o gartrefi a busnesau, yn perthyn i'r gorffennol."

Roedd y cynllun hefyd yn cynnwys gwaith i wella'r ardal ar gyfer pobl leol ac mae rhagor o waith wedi'i gwblhau eleni.

Meddai Tim eto:

"Rydym wedi gwella'r ardal yn barod gyda therasau eistedd sy'n edrych dros y cae chwarae a llwybr troed a thrac beicio newydd, sydd erbyn hyn yn rhedeg drwy'r parc cyfan. 
"Rydyn ni hefyd wedi plannu coed blodeuol, llwyni a blodau ar hyd Stryd Albany ac rydyn ni'n gobeithio y bydd y plant lleol yn mwynhau'r llwybr chwarae lliwgar sydd wedi'i fewnosod yn y ddaear. 
"Roedd y ffensys o amgylch yr ardaloedd hyn sydd wedi’u plannu yn caniatáu i’r planhigion a'r glaswellt ymsefydlu. Erbyn hyn maen nhw wedi cael eu tynnu ac rydym yn ddiolchgar i'r gymuned leol am eu hamynedd tra’r oedd yr holl waith yma’n cael ei gwblhau.”

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am Gynllun Llifogydd Crindau ac i gael y newyddion diweddaraf ewch i www.naturalresources.wales/crindau.