Adfer bywyd yn ôl i bedair afon yng Nghymru trwy’r prosiect LIFE

Pysgotwr ger Pont Pantyscallog ar afon Wysg

Mae’r prosiect cadwraeth mwyaf i helpu i adfer bywyd gwyllt ar bedair afon bwysig yn Ne Cymru yn cael ei lansio heddiw (dydd Gwener 28 Hydref 2022).

Bydd y Prosiect 'Pedair Afon LIFE' dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn diogelu, yn gwella ac yn helpu i adfer afonydd Teifi, Tywi, Cleddau ac Wysg. Amcangyfrifir y bydd 776km o afon yn cael ei gwella.

Bydd y prosiect, a gefnogir gan Raglen LIFE yr UE gyda chyllid yn cael ei ddarparu hefyd gan Lywodraeth Cymru a Dŵr Cymru, yn gweld dros £9 miliwn yn cael ei wario i fynd i'r afael â heriau cadwraeth brys dros y pum mlynedd nesaf.

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar:

  • Wella cynefinoedd ac amodau afonydd ar gyfer pysgod mudol – yn fwyaf nodedig eog yr Iwerydd, llysywen bendoll y môr ac afon, pennau lletwad a gwangod. Bydd dyfrgwn a misglod perlog yr afon yn elwa hefyd.
  • Ail-naturioli darnau o afonydd wedi'u sythu fel eu bod yn ymdroelli unwaith eto. Bydd hyn o fudd i fywyd gwyllt yn ogystal â’r cymunedau sy’n amgylchynu’r afonydd gan y gall arafu’r llif leihau’r perygl o lifogydd i lawr yr afon.
  • Gweithio gyda ffermwyr i ddiogelu coridorau afonydd a lleihau gwaddodion a maetholion rhag mynd i mewn i afonydd. Bydd gan hyn y fantais ychwanegol o ddiogelu cyflenwadau dŵr yfed pwysig.
  • Lleihau effaith rhywogaethau anfrodorol ymledol mewn 180km o afon. Bydd rhywogaethau fel Jac y Neidiwr, pidyn-y-gog Americanaidd, clymog Japan, ac efwr enfawr yn cael eu rheoli.

Mae'r afonydd yn cael eu dosbarthu fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), sy'n golygu eu bod o bwysigrwydd rhyngwladol ar gyfer y bywyd gwyllt a'r planhigion y mae’r afon yn gartref iddynt, megis eog, llysywen bendoll, gwangen, dyfrgwn a chrafanc y dŵr.

Dywedodd Susie Kinghan, Arweinydd Tîm Pedair Afon LIFE: “Mae’r pedair afon eiconig hyn mewn cyflwr anffafriol ar hyn o bryd o ganlyniad i lawer o wahanol bwysau. Byddwn yn gweithio gyda llawer o wahanol grwpiau dros y pum mlynedd nesaf i helpu i wneud yr afonydd hyn yn lleoedd y gall bywyd gwyllt ffynnu ynddynt a lle gall pobl eu mwynhau.”
Mae hi'n ychwanegu: “Mewn cyflwr iach, mae ein hafonydd yn gyforiog o rywogaethau fel llysywod, glas y dorlan, ystlumod, llygod y dŵr, cimychiaid yr afon a mwy! Maent hefyd yn bwysig ar gyfer dŵr yfed, genweirio, nofio ac ardaloedd llifogydd naturiol sy’n amddiffyn cymunedau i lawr yr afon.”
Bydd Julie James AS, y Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, yn bresennol yn y lansiad. Dywedodd: "Rwy'n falch iawn o allu bod yn bresennol yn lansiad y prosiect LIFE newydd a phwysig hwn, ac rwy’n falch iawn bod modd i Lywodraeth Cymru gyfrannu dros £3.4m tuag at y prosiect dros y pedair blynedd nesaf.
"Mae prosiectau fel hyn yn gyfraniad pwysig at gyflawni ein targed ‘30x30’ - sef gwarchod a rheoli’n effeithiol o leiaf 30% o'n tir, môr a dŵr croyw, er budd natur, erbyn 2030.
"Bydd y prosiect hefyd yn helpu i ehangu a chyflymu ein Rhaglen Rhwydweithiau Natur i wella cyflwr a chysylltedd ein rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig ac i adfer cyflwr cynefinoedd allweddol i sicrhau bod planhigion ac anifeiliaid yn fwy gwydn a chydnerth wrth wynebu’r newid yn yr hinsawdd.
"Mae Prosiect Pedair Afon LIFE hefyd yn enghraifft o'r dull aml-sector a chydweithredol – dull ‘Tîm Cymru’ – sydd ei angen i fynd i'r afael â’r mater ansawdd dŵr yng Nghymru. Dyma gyfle i gynnwys ffermwyr, academia a grwpiau lleol wrth warchod ein hafonydd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Dywedodd Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae ein hafonydd yn gynefinoedd gwerthfawr, ond mae’r pwysau arnynt yn fawr. Er ein bod wedi gwneud cynnydd da o ran diogelu a gwella ein dyfroedd dros y degawdau diwethaf, rydym yn gwybod bod llawer o ffordd i fynd eto.
“Rydym yn dal i weld gormod o lygredd o ffynonellau gor-gyfarwydd fel carthffosiaeth, ffermio a diwydiant. Mae newid yn yr hinsawdd, dirywiad mewn bioamrywiaeth, a'r ffordd yr ydym yn byw ein bywydau hefyd yn heriau gwirioneddol y mae'n rhaid i ni eu hwynebu.
“Rydyn ni’n ymwybodol o’r problemau – ac rydyn ni’n gwybod bod yn rhaid i ni gyd-dynnu i gymryd camau brys, cydweithredol i fynd i’r afael â nhw. Mae prosiectau fel Pedair Afon LIFE yn gam pwysig i’r cyfeiriad cywir, ac rydym yn ddiolchgar iawn i Raglen LIFE yr UE am y cyllid.”

Bydd y prosiect Pedair Afon LIFE yn defnyddio atebion tymor hir sy'n seiliedig ar natur i wella ansawdd ecolegol y pedair afon, gwella hygyrchedd i bysgod mudol, gwella strwythur a swyddogaeth cynefinoedd ac ansawdd dŵr, newyddion gwych i'r amgylchedd, bywyd gwyllt a phobl.

Meddai John Owen, Rheolwr Canolfan Ymchwil Amaethyddiaeth (ARC) yng Ngholeg Sir Gâr: “Mae’r Coleg yn falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect cyffrous hwn. Bydd ein cyfranogiad yn ein galluogi i gefnogi ffermwyr i leihau lefel y maetholion sy’n mynd i mewn i afonydd trwy dechnoleg, cipio data a mecanweithiau cymorth.”

Bydd Pedair Afon LIFE yn cael ei arwain gan CNC mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, y Ganolfan Adfer Afonydd, Rheolwr y Ganolfan Ymchwil Amaethyddiaeth (ARC) Coleg Sir Gâr a Choed Cadw, gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru a Dŵr Cymru.

I ddarganfod mwy ewch i wefan y prosiect cyfoethnaturiol.cymru/4AfonLIFE