Cyfle i drafod cynllun diogelwch Llyn Tegid

Mae cynlluniau ar y gweill i sicrhau bod llyn naturiol mwyaf Cymru - Llyn Tegid yn y Bala - yn parhau i fod yn ddiogel yn y tymor hir.

Bydd sesiwn galw heibio yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Hamdden Penllyn LL23 7YE ddydd Mawrth 17 Rhagfyr 2019 rhwng 2pm - 7.30pm i drafod y cynlluniau.

Dywedodd Sian Williams, Pennaeth Gweithrediadau Gogledd Orllewin Cymru ar gyfer CNC:

“Mae'r gwaith wedi'i gynllunio i sicrhau y gall Llyn Tegid barhau i wrthsefyll tywydd eithafol nawr ac yn y dyfodol.
“Rydan ni wedi bod yn gweithio gyda phobl yn lleol dros y 18 mis diwethaf i archwilio syniadau ar gyfer lliniaru a chyfleoedd cymunedol ehangach y gellir eu datblygu ochr yn ochr â'r gwaith diogelwch llyn. 
“Dwi’n gobeithio y bydd llawer o bobl yn galw heibio i’n gweld ar 17eg Rhagfyr i drafod y cynlluniau, gweld argraffiadau’r artist ar gyfer y cynllun, a rhoi eu barn i ni.” 

Yn y Flwyddyn Newydd, bydd CNC yn gwneud cais i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri am ganiatâd cynllunio ar gyfer y cynllun. 

Mae argloddiau'r llyn yn rhoi amddiffyniad hanfodol rhag llifogydd i dref y Bala ac mae gan CNC gyfrifoldeb i sicrhau bod y dref yn parhau i fod yn ddiogel. 

Bydd y gwaith yn cynnwys cryfhau'r argloddiau a gwella amddiffyniad tonnau cerrig glan y llyn. 

Os rhoddir caniatâd, bydd y gwaith yn cynnwys dymchwel coed, ynn yn bennaf, sy'n tyfu yn argloddiau'r llyn a'u gwanhau. 

Pe digwydd hyn, mae CNC yn addo cadw coed aeddfed lle bynnag y bo modd a phlannu o leiaf cymaint o goed yn lleol ag y mae'n rhaid eu colli ar gyfer y gwaith diogelwch.

Ymhlith yr awgrymiadau cymunedol eraill sy'n cael eu datblygu mae:

  • Gwella llwybrau troed ar gyfer pob gallu;
  • Creu ardaloedd eistedd newydd;
  • Adfer cynefinoedd gan gynnwys gwelliannau sensitif i faes parcio'r llyn;
  • Creu dolydd blodau gwyllt;
  • Cynhyrchu adnoddau i ysgolion lleol eu defnyddio ar gyfer addysg amgylcheddol.

Disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau yn Hydref 2020. 

Bydd CNC yn gweithio'n agos gyda'r gymuned i ddod o hyd i ffyrdd o sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosib yn y cyfnod adeiladu. 

Mae CNC yn parhau i weithio gyda Rheilffordd Llyn y Bala er mwyn gweld sut y gellid rheoli eu estyniad arfaethedig ochr yn ochr â'r gwaith hwn. 

Bydd gweithredwr y rheilffordd hefyd yn y sesiwn galw heibio i ateb cwestiynau. 

Ychwanegodd Sian Williams:

“Bydd gwerth amgylcheddol enfawr yr ardal a’i phwysigrwydd i’r gymuned leol, ar gyfer hamdden a thwristiaeth yn cael ei ystyried yn llawn trwy gydol y cynllun o’r dechrau i’r diwedd.”