Galwad i barchu bywyd gwyllt a dilyn y Cod Cefn Gwlad yn ystod gwyliau'r Pasg

Rydym yn gofyn i ymwelwyr â rhai o safleoedd naturiol mwyaf poblogaidd gogledd-orllewin Cymru warchod a pharchu'r amgylchedd yn ystod gwyliau'r Pasg.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn paratoi i groesawu nifer uchel o ymwelwyr i'w goetiroedd a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol dros benwythnos Gŵyl y Banc ac mae aelodau'r cyhoedd yn cael eu hatgoffa i ddilyn y Cod Cefn Gwlad ac unrhyw ganllawiau safle-benodol.

Mae hyn yn cynnwys mynd â sbwriel adref i beidio â gadael olion o'ch ymweliad, peidio cynnau tanau, bod gyfrifol am eich ci, cofio bod safleoedd yn gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt, gofalu am fyd natur a pheidio ag achosi difrod neu aflonyddwch.

Meddai John Taylor, yr Arweinydd Tîm ar gyfer safleoedd hamdden yng ngogledd-orllewin Cymru:

"Mae'r llefydd arbennig rydyn ni'n gofalu amdanyn nhw yn gyrchfannau delfrydol i bobl ymlacio. Ond rhaid cadw cydbwysedd rhwng dymuniadau unigolion i fwynhau'r awyr agored a'n cyfrifoldebau i warchod natur a pharchu cymunedau lleol.
"Drwy ddilyn y Cod Cefn Gwlad, gall pobl ymweld yn ddiogel â'n safleoedd gwych yng ngogledd-orllewin Cymru, gan gynnwys Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch ar Ynys Môn, Parc Coed y Brenin a Pharc Coedwig Gwydir.
"Rydym yn disgwyl nifer uchel o ymwelwyr yn ystod yr wythnosau nesaf a gall hyn arwain at dagfeydd a nifer cyfyngedig o lefydd parcio.
"Felly, rydym yn annog pobl i wneud cynllun wrth gefn rhag ofn bod cyrchfan yn rhy brysur neu ystyried ymweld ag un o'n lleoliadau tawelach.
"Mae'n bwysig hefyd mynd â sbwriel adref, cadw cŵn dan reolaeth i warchod adar sy'n nythu a bywyd gwyllt arall ac i beidio â chynnau tanau, sy'n gallu mynd allan o reolaeth yn gyflym ac achosi difrod sylweddol i'r amgylchedd.
"Rydym hefyd am atgoffa ymwelwyr na chaniateir aros dros nos ar ein safleoedd a bod meysydd gwersylla yn yr ardal.
"Mae mwyafrif llethol y bobl sydd yn ymweld â'n lleoedd yn ymddwyn yn gyfrifol a hoffem ddiolch iddyn nhw am chwarae eu rhan. Rydym yn gobeithio y bydd hynny'n parhau wrth i ni fynd i mewn i gyfnod y Pasg."

Bydd wardeiniaid yn patrolio safleoedd CNC dros benwythnos Gŵyl y Banc i ateb unrhyw gwestiynau, rhoi cyngor a chyfarwyddyd a sicrhau bod ymwelwyr yn cael y profiad gorau.

Gallwch weld y Cod Cefn Gwlad yn Cyfoeth Naturiol Cymru / Y Cod Cefn Gwlad: cyngor i’r rhai sy’n ymweld â chefn gwlad (naturalresources.wales)