Dathlu 30 mlynedd o ddod â syniadau gwyrdd yn fyw yng Nghymru diolch i LIFE

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a chyrff amgylcheddol ledled Cymru yn canmol y manteision gwyrdd a ddaw yn sgil prosiectau natur LIFE, wrth i raglen gyllido’r UE ar gyfer yr amgylchedd a newid hinsawdd nodi ei phen-blwydd yn 30 oed yr wythnos hon (dydd Sadwrn 21 Mai 2022).

Ers ei lansio ym 1992, mae rhaglen LIFE yr UE wedi defnyddio ei chyllideb €5 biliwn i gefnogi prosiectau sy’n cael effaith ar ddiogelu’r amgylchedd, cadwraeth natur a gweithredu ar yr hinsawdd ledled Ewrop.

O’r prosiect mawndir a choetir derw brodorol i dwyni tywod arfordirol ac afonydd dŵr croyw, mae saith o brosiectau LIFE yn cael eu darparu ledled Cymru ar hyn o bryd, gyda phob un yn elwa o gronfa gyllid o £50 miliwn a gynlluniwyd i helpu cyrff amgylcheddol i baratoi’r ffordd tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.

Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae’r prosiectau wedi bod yn chwarae rhan allweddol wrth adeiladu dyfodol natur-gyfoethog i’r genedl. Wedi’u cyflwyno mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau a chyrff amgylcheddol ledled Cymru, mae’r prosiectau’n dangos sut y gallwn feithrin ecosystemau wedi’u hadfer sy’n gallu gwrthsefyll newid hinsawdd yn well, ac sy’n gallu ein helpu i ymdopi’n well â sefyllfaoedd annisgwyl a achosir gan yr hinsawdd.

Ymhlith y llwyddiannau hyd yma mae:

  • LIFE Afon Dyfrdwy: Nod y prosiect trawsffiniol, gwerth £6.8 miliwn, yw dod â manteision lluosog i'r amgylchedd, yn enwedig gwella nifer yr eogiaid, llysywod pendwll a chregyn gleision perlog dŵr croyw, gan eu helpu i ddod yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol. Hyd yn hyn, mae'r prosiect wedi goruchwylio'r gwaith o symud neu newid pum cored ar Afon Dyfrdwy i wella llwybr pysgod, a 25 erw o goridor glan yr afon wedi'i ffensio ar Afon Dyfrdwy.
  • Adfywio Cyforgorsydd Cymru: Prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE yw'r rhaglen adfer genedlaethol gyntaf ar gyfer cyforgorsydd ac unrhyw gynefin mawndir yng Nghymru. Hyd yn hyn, mae hyd at 80km o fyndiau mawn wedi’u gosod i ddal dŵr yn ôl ar y mawndiroedd – gan eu cadw’n wlypach am gyfnod hwy a helpu i storio carbon o’r atmosffer. Mae tua 92 hectar (bron i 227 cae pêl-droed) o laswellt trwchus y gweunydd wedi’i dorri, a fydd yn agor wyneb y gors ac yn caniatáu i fwsogl migwyn pwysig sefydlu a ffynnu.
  • Twyni Byw: Nod y prosiect cadwraeth mawr hwn yw adfywio twyni tywod ledled Cymru. Hyd yma mae 12 hectar o dywod noeth wedi'i greu i ysgogi ac adfywio cynefinoedd twyni; 170 hectar wedi'i dorri a rhywogaethau ymledol yn cael eu rheoli, 13km o ffensys wedi'u gosod i ganiatáu pori cynaliadwy ar y twyni.
  • Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru: Nod prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE yw gwella statws cadwraeth pedair ardal o goetir yng Nghymru drwy fynd i'r afael â rhywogaethau ymledol. Hyd yma, mae 6,954ha o dir wedi cael ei waredu â Rhododendron ponticum – rhywogaeth estron ymledol sy’n gallu tyfu mor egnïol fel ei fod yn mygu planhigion eraill ac yn gallu dominyddu coetiroedd.
  • Marches Mosses Bog LIFE: Mae’r gors fawn 2,500-erw, sy’n croesi ffin Cymru-Lloegr rhwng Wrecsam a Swydd Amwythig, wedi’i chlirio o goed a phrysgwydd, mae ffosydd wedi’u cronni a byndiau wedi’u creu i adfer tablau dŵr y gors i wyneb y mawn.

Yn gynharach eleni, cyhoeddwyd bod dau brosiect LIFE newydd wedi cael y golau gwyrdd.

Bydd Prosiect Pedair Afon LIFE yn cael ei ddarparu gan CNC mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yr Ymddiriedolaeth Adfer Afonydd, Coleg Sir Gâr a Choed Cadw, gyda chymorth gan Dŵr Cymru. Bydd y prosiect yn gweld mwy na £9 miliwn yn cael ei fuddsoddi i ddod ag afonydd Teifi, Cleddau, Tywi ac Wysg i gyflwr da. Amcangyfrifir y bydd 500km o afon yn cael ei wella.

Bydd prosiect Corsydd Crynedig LIFE hefyd yn elwa o £4.5 miliwn i warchod corsydd crynedig a saith Ardal Cadwraeth Arbennig. Bydd y prosiect yn cael ei gyflawni gan CNC, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Eryri ac Arfordir Penfro.

Bydd y prosiectau hyn, a gefnogir drwy Raglen LIFE yr UE ac arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru, yn sicrhau y bydd y chwistrelliad o £13.8 miliwn yn rhoi bywyd newydd i heriau cadwraeth brys dros y pum mlynedd nesaf.

Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Rydym ni’n gwybod bod cysylltiad annatod rhwng y ddau argyfwng o golli byd natur a newid hinsawdd, a dyna pam mae’n rhaid i ni gyd osod ein huchelgeisiau ar gyfer mynd i’r afael â nhw ar sail gyfartal.
“Mae’r prosiectau a gefnogwyd gan gyllid LIFE dros y blynyddoedd yn dangos sut mae Cymru’n mynd i’r afael â’r her honno. O waith Twyni Byw i adfywio twyni tywod a chynefinoedd, i’r gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd drwy’r prosiect Pedair Afon sydd wedi’i gynllunio i ddod ag afonydd i gyflwr da, mae gweithredu cadarnhaol yn digwydd ledled y wlad, yn cyflawni dros natur a phobl.
“Mae gan bob un ohonom ran allweddol i’w chwarae yn y gwaith o ddiogelu ac adfer byd natur. Mae CNC yn edrych ymlaen at barhau â’r gwaith hollbwysig hwn gyda’n partneriaid wrth i ni geisio datblygu’r buddion a ddaw yn sgil prosiectau LIFE yr UE a’u cyflymu, a gweithio tuag at adeiladu amgylchedd naturiol gwydn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Ychwanegodd Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru:

“Dros y chwe blynedd diwethaf, rydym wedi buddsoddi mwy na £6m i gefnogi nifer o brosiectau a ariannwyd gan raglen LIFE yr UE.
"Mae’r cyllid hwn wedi’n galluogi i dynnu cyllid sylweddol i lawr o’r UE a ffynonellau eraill i mewn i brosiectau sydd â blaenoriaeth yng Nghymru.
“Ar gyfartaledd, rydym wedi cael £6 am bob £1 a gyfrannwyd gan Lywodraeth Cymru – felly rydym wedi adennill cryn dipyn ar ein buddsoddiad ac, o ganlyniad, mae cynefinoedd a rhywogaethau mwyaf gwerthfawr Cymru wedi cael budd enfawr.
“Mae prosiectau a gyflawnwyd gyda chyllid LIFE yr UE yn allweddol o ran ein helpu i daclo argyfyngau enbyd yr hinsawdd a byd natur a byddaf yn parhau i bwyso ar Drysorfa’r DU er mwyn cael cyllid newydd digonol yn ei le.”