Cysylltedd yw thema digwyddiad partneriaeth CNC

Event at Senedd

Cynhaliwyd digwyddiad yn y Senedd i ddathlu cydweithio a datblygu partneriaethau i ymateb i'r heriau cynyddol sy'n wynebu amgylchedd Cymru.

Fe'i cynhaliwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a'i noddi gan Lesley Griffiths, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ac roedd y digwyddiad Creu’r Cysylltiadau yn canolbwyntio ar sut mae CNC yn gweithio gyda sefydliadau eraill er mwyn creu Cymru wyrddach, fwy diogel a ffyniannus.

Esboniodd Clare Pillman, Prif Weithredwr CNC:

"Bob wythnos, yn wir bob dydd, rydym yn gweld ymrwymiadau byd-eang a chenedlaethol newydd ar gyfer natur a'r amgylchedd – ac mae hynny'n heriol ac yn gyffrous. 
"Ac rwy'n falch o weld bod Cymru – a CNC – ar flaen y gad o ran gwneud yr ymrwymiadau hyn.
"Ond wrth gwrs, allwn ni ddim gwneud hyn ar ein pennau ein hunain: i lwyddo, mae angen i ni feithrin perthnasau gwaith cadarnhaol sy'n canolbwyntio ar wasanaeth cwsmeriaid a chydweithio â hen bartneriaid a rhai newydd a dyma hanfod y digwyddiad hwn."

Yn dilyn y prif areithiau gan Gadeirydd CNC, Syr David Henshaw, Clare Pillman a'r Gweinidog, cynhaliwyd sesiwn rwydweithio anffurfiol lle y gallai gwesteion ddysgu mwy am feysydd penodol gweithio mewn partneriaeth.

Cynrychiolwyd pynciau fel troseddau gwastraff, twristiaeth, y sector coed, rheoli tir, addysg, iechyd a lles, mwyngloddiau metel, llifogydd a phrosiectau LIFE gan sefydliadau mor amrywiol ag Awdurdod Cyllid Cymru, Confor, Dŵr Cymru Welsh Water, Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Sir Benfro ac Eryri, y Swyddfa Dywydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Awdurdod Glo, Cyngor Sir Caerdydd ac undebau'r ffermwyr.

Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig,

"Rwy'n falch bod CNC yn manteisio ar y cyfle hwn i arddangos y gwaith y maen nhw’n ei wneud gyda'u partneriaid ac i bawb ohonom gael y cyfle hwn i adeiladu rhwydweithiau a phartneriaethau newydd.
"Mae'n hanfodol ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i wrthdroi effeithiau'r newid yn yr hinsawdd ac ymateb i heriau'r argyfwng hinsawdd."

Achubodd y Gweinidog hefyd ar y cyfle i ddiolch i staff CNC am eu 'harbenigedd a'u proffesiynoldeb' o ran diogelu cymunedau rhag effeithiau'r newid yn yr hinsawdd, eu gwaith i fynd i'r afael â llygredd sy'n niweidio cynefinoedd a rhywogaethau a'r gwaith cymhleth o ran polisi a thystiolaeth sydd y tu ôl i ymgyrch Cymru i sicrhau allyriadau sero net.

Mae Deddf yr Amgylchedd yn gwneud gweithio cydweithredol yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru ac mae'r diddordeb yn nigwyddiad Creu'r Cysylltiadau yn dangos ei bwysigrwydd o ran datblygu atebion arloesol a chynaliadwy. 

Yn ei sylwadau wrth gloi’r digwyddiad, dywedodd Syr David Henshaw:

"Mae'r heriau sy'n ein hwynebu yn sylweddol ond felly hefyd y cyfleoedd ac mae gennym ni, rhwng pawb, gyfoeth o wybodaeth a dyfeisgarwch ynghylch yr hyn sydd angen ei wneud.
"Felly, mae ein neges yn syml, nid yn unig yr ydym am ddatblygu partneriaethau, ond rydym am ei gwneud yn hawdd i eraill fod yn bartneriaid i ni er budd yr amgylchedd naturiol a phawb sy'n byw yng Nghymru neu'n ymweld â hi."