Lansio ymgynghoriad ar gynllun mwy teg a syml i godi tâl am reoleiddio amgylcheddol

Mae ymgynghoriad yn cael ei lansio heddiw (10 Hydref) ar gynlluniau i ddiweddaru’r ffioedd am rai o drwyddedau Cyfoeth Naturiol Cymru – a rheiny wedi eu cynllunio i weithio’n well ar gyfer busnesau a’r amgylchedd a lleihau dibyniaeth ar y trethdalwr.

Dyma’r adolygiad mwyaf o ffioedd rheoleiddio Cyfoeth Naturiol Cymru ers cychwyn y sefydliad yn 2013. Nid yw’r ffioedd presennol, sy’n cynnwys trwyddedau a monitro cydymffurfio parhaus bellach yn adlewyrchu’r gost lawn o gyflenwi’r gwasanaethau, sy’n golygu bod arian trethdalwyr wedi cael ei ddefnyddio i lenwi’r bwlch.

O dan y cynigion a gyflwynir yn yr ymgynghoriad, mae talwyr ffioedd yn talu am y gwasanaethau llawn y maen nhw’n eu defnyddio. Y nod yw y bydd hyn  yn arwain at amgylchedd a reolir yn well ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. 

Mae’r adolygiad o ffioedd wedi ystyried holl swyddogaethau rheoleiddio CNC – gan gynnwys y gweithgareddau hynny nas codwyd tâl amdanynt yn y gorffennol.

Yn dilyn ymgysylltu ar draws ystod o sectorau, mae’r ymgynghoriad yn cyflwyno cynigion i wneud newidiadau i nifer o gynlluniau codi tâl sy’n gysylltiedig â cheisiadau am drwyddedau newydd, a cheisiadau am ddiwygio trwyddedau. Bydd rhai ffioedd yn newydd a bydd eraill cynyddu’n sylweddol. Yn amodol ar gymeradwyaeth gan Weinidogion Cymru, bydd y taliadau newydd yn cael eu cyflwyno o fis Ebrill 2023 ar gyfer y canlynol:

  • Rheoleiddio diwydiant
  • Gwastraff ar safle
  • Ansawdd dŵr
  • Adnoddau dŵr
  • Cydymffurfiaeth cronfeydd dŵr
  • Cyflwyno ffioedd ar gyfer trwyddedau rhywogaethau

Mae CNC hefyd wedi adolygu ei ffioedd cynhaliaeth, sef - yn bennaf - ffioedd ar gyfer monitro cydymffurfiaeth, er mwyn sicrhau bod pwysau chwyddiant yn y dyfodol yn cael eu rheoli’n effeithiol.

Os caiff y taliadau a’r ffioedd newydd eu gweithredu, bydd CNC yn gallu buddsoddi mwy yn eu gwasanaeth rheoleiddio er mwyn mynd i’r afael â heriau’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Dywedodd Nadia De Longhi, Pennaeth Rheoleiddio a Thrwyddedu yn CNC:

“Rydym wedi cymryd y cam hwn i adolygu’r ffioedd ar gyfer ein gwasanaethau rheoleiddio er mwyn sicrhau eu bod yn fwy cysylltiedig â’r gost go iawn o gyflawni’r gweithgareddau, ac er mwyn sicrhau mai talwyr ffioedd, nid y cyhoedd, sy’n ysgwyddo’r gost.
“Rydym yn gwerthfawrogi’r effaith ariannol y gallai ein cynigion ei chael ar rai busnesau, yn enwedig o ystyried pwysau ehangach costau byw.
“Er y bydd rhai o’n ffioedd trwyddedau’n newydd, mae eraill sydd heb eu hadolygu ers i CNC gael ei sefydlu  - neu hyd yn oed ymhell cyn hynny. Bydd y ffioedd newydd yn adlewyrchu faint o ymdrech sydd wir ei hangen i ystyried pob cais ac, o ganlyniad, bydd rhai costau unigol yn cynyddu’n sylweddol, tra bod rhai eraill yn gostwng.
“Rydym eisiau adennill ein holl gostau rheoleiddio fel y gallwn ailfuddsoddi adnoddau mewn mwy o weithgaredd cydymffurfiaeth ac mewn gwaith i atal llygredd rhag digwydd yn y lle cyntaf. Dylai canlyniad hyn fod yn system decach a mwy tryloyw a fydd yn arwain at ddiogelu a gwella’n hamgylchedd naturiol yn fwy effeithiol.”

Bydd yr ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig i ffioedd ceisiadau am drwyddedau a’r adolygiad blynyddol o ffioedd cynhaliaeth yn para am 12 wythnos, gan gau ar ddydd Gwener 6 Ionawr 2023. Caiff y taliadau arfaethedig eu cyflwyno ym mis Ebrill 2023 yn amodol ar gymeradwyaeth Gweinidogion.

Gallwch ymateb i’r ymgynghoriad fan hyn: Activity Unavailable - Natural Resources Wales Citizen Space - Citizen Space (cyfoethnaturiol.cymru)