Lansio ymgynghoriad ar gynllun newydd i reoli perygl llifogydd yng Nghymru

Tir isel a chaeau wedi'u llifogi

Mae ymgynghoriad yn cael ei lansio heddiw (1 Mawrth) ar flaenoriaethau a chamau gweithredu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gyfer rheoli perygl llifogydd yng Nghymru dros y chwe blynedd nesaf.

Mae gan CNC rôl oruchwylio strategol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol sy’n cynnwys goruchwylio a chyfathrebu cyffredinol ynghylch rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru. Mae ganddo hefyd bwerau i reoli llifogydd o brif afonydd a’r môr.

Mae’r Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd newydd, sy’n disodli cynllun blaenorol CNC a gynhyrchwyd yn 2015, yn cwmpasu Cymru gyfan ac yn darparu gwybodaeth am raddfa’r perygl llifogydd o brif afonydd, cronfeydd dŵr a’r môr.

Mae’n nodi’r mesurau arfaethedig y bydd CNC yn eu cymryd i gefnogi cymunedau Cymru i ddod yn fwy gwydn yn erbyn effeithiau’r argyfwng hinsawdd ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â mesurau i gefnogi adferiad byd natur drwy wella gallu ecosystemau Cymru i ymdopi â hinsawdd sy’n cynhesu.

Mae’r Cynllun wedi’i rannu’n adran genedlaethol, sy’n cwmpasu Cymru gyfan, a chwe adran leol, sy’n cwmpasu’r gwahanol ardaloedd gweithredol o fewn CNC.

Mae’r adrannau lleol yn rhoi mwy o fanylion ar y raddfa leol er mwyn i bobl ddeall beth sy’n digwydd yn y cymunedau lle maen nhw’n byw ac yn gweithio.

Dywedodd Jeremy Parr, Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau CNC:

“Gall effeithiau llifogydd fod yn ddinistriol a pharhaol. Mae tua 1 o bob 8 eiddo mewn perygl o lifogydd yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’r nifer hwnnw’n debygol o gynyddu wrth i newid yn yr hinsawdd gyflymu.
“Mae angen i ni weithio gyda’r adnoddau sydd ar gael i addasu i’r newid yn yr hinsawdd a’r perygl cynyddol o lifogydd.
“Dyna pam ei bod yn bwysig ein bod yn rhannu’r wybodaeth am risgiau a’n cynlluniau arfaethedig ar gyfer y dyfodol.
"Nid yw'r ffaith nad yw pobl wedi profi llifogydd yn y gorffennol yn golygu na fyddant yn y dyfodol. Rydyn ni eisiau adborth gan y bobl a’r sefydliadau rydyn ni’n gweithio gyda nhw a hefyd gan y cymunedau sy’n wynebu’r perygl cynyddol o lifogydd wrth i’n hinsawdd newid.
“Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn helpu i benderfynu a oes angen mireinio ein cynllun drafft ymhellach cyn ei gwblhau ac rydym yn annog pawb i ystyried ein cynigion a rhannu eu barn.”

Bydd yr ymgynghoriad ar-lein yn rhedeg am 12 wythnos tan 24 Mai 2023. Bydd yr ymatebion yn helpu i lunio a chwblhau’r cynllun cyn ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn 2023.