Gohirio dadorchuddiad Rhodfa Coedwig Cwm Carn

Yn unol â’r cyfyngiadau Covid-19 parhaus, mae cynlluniau i ddadorchuddio datblygiadau hir ddisgwyliedig Rhodfa Coedwig Cwm Carn yn ddiweddarach y mis yma wedi’u gohirio, yn ôl cyhoeddiad gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) heddiw.

Roedd disgwyl agor rhodfa’r goedwig a’i hatyniadau newydd am gyfnod prawf ym mis Mawrth, gyda golwg ar eu hagor yn swyddogol yn ystod gwyliau’r Pasg. Ond gyda lefel rhybudd Covid Cymru yn aros ar lefel pedwar am y tro, ac i sicrhau diogelwch aelodau’r cyhoedd, penderfynwyd gohirio ailagor rhodfa’r goedwig hyd nes bod cynlluniau i lacio cyfyngiadau Covid-19 yn cael eu cadarnhau.

Mae Rhodfa Coedwig Cwm Carn wedi cael buddsoddiad enfawr a gwnaed cryn dipyn o waith datblygu arni yn y flwyddyn ddiwethaf, a chroesawyd hyn gan y gymuned leol ac ymwelwyr i’r goedwig.

Cafodd y rhodfa saith milltir o hyd ei hailwampio yn dilyn gwaith ar raddfa fawr i dynnu coed llarwydd heintiedig, a bellach mae wyth ardal hamdden newydd ar hyd y llwybr.  Mae’r mannau newydd hyn yn cynnwys ardaloedd chwarae hygyrch, cerfluniau, llwybrau ar gyfer pob gallu, twnnel synhwyraidd a nifer o safleoedd picnic a barbeciw.

Dywedodd Geminie Drinkwater, Rheolwr Prosiect gyda CNC:

“Gydag arwyddion y gwanwyn yn dechrau dychwelyd a’r dyddiau’n ymestyn, bydd nifer o bobl yn edrych ymlaen at dreulio mwy o amser yn yr awyr agored a gwneud y mwyaf o’r hyn sydd gan eu hamgylchedd lleol i’w gynnig.
“Gwyddom fod disgwyl mawr wedi bod ers tro am y datblygiadau i Rodfa Coedwig Cwm Carn, ac rydym yn edrych ymlaen at gael croesawu ymwelwyr yn ôl i ddarganfod yr atyniadau newydd.
“Serch hynny, mae lleihau effaith pandemig y coronafeirws a gwarchod iechyd a diogelwch pobl yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i’r wlad. Gobeithiwn, felly, fod pobl yn deall y rhesymau tu ôl i’n penderfyniad i ohirio’r dadorchuddiad am y tro.
“Gobeithiwn y bydd pobl wrth eu boddau â’r cynnig hamdden newydd yma. Ond am y tro, gofynnwn fod pawb yn gwneud eu rhan i gadw Cymru’n ddiogel, gan gynnwys osgoi teithio diangen i’n safleoedd, gan wybod y bydd hi’n werth yr ymdrech pan allwn ni eich croesawu yn ôl.”

Caiff Coedwig Cwm Carn ei rhedeg mewn partneriaeth â CNC a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, sy’n rhedeg y ganolfan ymwelwyr ar y safle. Yn ogystal â’r llwybrau cerdded, llwybrau beicio mynydd a rhodfa’r goedwig, mae’r safle’n cynnig cyfleusterau gwersylla a chwaraeon dŵr, sydd hefyd wedi’u cau yn unol â chyfyngiadau Covid-19.

Bydd gwybodaeth ynglŷn â dyddiadau agor newydd ar gyfer rhodfa’r goedwig yn cael eu cadarnhau maes o law.