Disgyblion ysgol yn Sir Ddinbych am ennill Gwobr y Fesen Ddigidol

Mae disgyblion o ysgol yn Sir Ddinbych wedi ennill y Wobr Mesen Ddigidol gyntaf erioed yn dilyn ymgyrch Miri Mes a gynhelir bob blwyddyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Mae Ysgol Pant Pastynog, ym Mhrion yn Sir Ddinbych, wedi ennill gwobr y Fesen Ddigidol – gwobr a gyflwynir i'r lleoliad addysg sy'n rhannu'r flog amgylcheddol gorau sy'n cofnodi ei antur Miri Mes. Mae'r ysgol wedi derbyn taleb gwerth £150 am ei ymdrechion.

Yn ystod eu taith Miri Mes fe gasglodd disgyblion yr ysgol saith bag o fes. Bydd y mes hyn yn helpu CNC i dyfu coed brodorol o hadau coed lleol iach.

Mae cynyddu'r canopi coed ledled Cymru yn rhan hanfodol o'r ymdrechion i fynd i'r afael ag argyfyngau’r hinsawdd a natur ac i helpu i gyflawni uchelgeisiau carbon sero net y genedl.

Trwy gyflwyno ymgyrchoedd fel Miri Mes, mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n chwarae rhan allweddol o ran cyflawni'r uchelgais hon gan annog dysgwyr mawr a bach i fynd allan i gysylltu ag amgylchedd naturiol Cymru.

Meddai Aled Hopkin, Cynghorydd Arbenigol CNC: Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau:

"Hoffem ganmol Ysgol Pant Pastynog am ei fideo gwych fydd yn arddangos ei thaith Miri Mes eleni. Mae’r ysgol yn llwyr haeddu'r Wobr Mesen Ddigidol gyntaf erioed a'r wobr ariannol o £150.
"Hoffem ddiolch i staff yr ysgol, y disgyblion a'r ffermwr lleol a ganiataodd iddyn nhw fynd ar ei dir, am eu rolau yn yr ymgyrch bwysig hon a fydd yn helpu i greu amgylchedd gwell ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol."

Meddai Mali Williams, sy’n athrawes yn Ysgol Pant Pastynog:

"Mae disgyblion a staff Pant Pastynog yn falch iawn o gael y wobr hon, gan ein bod ni wedi cymryd rhan yn ymgyrch Miri Mes CNC ers blynyddoedd lawer.
"Mae gennym ni berthynas wych gyda ffermwr lleol sydd â choed derw ar dir ger yr ysgol; mae disgyblion a staff yn mwynhau ein hymweliadau blynyddol i gasglu mes. Mae ymgyrch Miri Mes wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i iechyd a lles disgyblion ac wedi cynyddu eu hymwybyddiaeth amgylcheddol."

Yr fideo a gynhyrchwyd gan ddisgyblion Ysgol Pant Pastynog.