Sesiwn galw heibio ar waith amddiffyn rhag llifogydd ym Mhwllheli

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn archwilio opsiynau i sicrhau rheolaeth fwy effeithiol ar y perygl llifogydd hirdymor o afonydd a'r môr i Bwllheli a'r cymunedau cyfagos.

Bydd sesiynau galw heibio i’r cyhoedd i roi’r diweddaraf ar y prosiect yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Gelfyddydau Dwyfor, Pwllheli, ddydd Iau, 14 Gorffennaf rhwng 2pm ac 8pm a dydd Gwener, 15 Gorffennaf rhwng 10am a 2pm.

Mae rhannau o Bwllheli mewn perygl o lifogydd o afonydd a'r môr a rhagwelir y bydd y perygl o lifogydd yn y dyfodol, yn enwedig o gyfeiriad yr arfordir, yn cynyddu.

Dywedodd Sara Pearson, Rheolwr Gweithrediadau Gogledd Cymru CNC ar gyfer Perygl Llifogydd a Dŵr:

"Rydym yn awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r gymuned leol am faterion yn ymwneud â'r perygl llifogydd hirdymor i'r gymuned a sut y gall y prosiect helpu i reoli'r risgiau hyn.
"Wrth i'r hinsawdd newid, byddwn yn wynebu stormydd a glaw trwm yn amlach, yn ogystal â chynnydd yn lefel y môr. Bydd hyn yn rhoi mwy o bwysau ar yr amddiffynfeydd rhag llifogydd a gallai effeithio ar eu perfformiad.
"Mae'n rhaid i bob un ohonom addasu'r ffordd rydyn ni'n byw ac yn gweithio wrth i'r argyfwng hinsawdd ddatblygu – er mwyn dysgu byw gydag amrywiadau mewn tymheredd a mwy o ddŵr ac er mwyn cynorthwyo ein cymunedau i fod yn wyliadwrus ac yn fwy cadarn i wrthsefyll tywydd eithafol sy’n digwydd yn amlach.
"Dyma gam cychwynnol y prosiect a bydd yr adborth o'r digwyddiadau yn helpu i lunio ein hopsiynau wrth i ni symud ymlaen. Rydym am weithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i atebion a all gynnig dyfodol cynaliadwy i Bwllheli a'r cymunedau cyfagos. 
"Rydym yn annog aelodau'r gymuned i fynychu'r sesiynau galw heibio i gael gwybod mwy am y gwaith hwn."

Daw'r prosiect hwn o dan Raglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru.  Mae'n adeiladu ar waith ac astudiaethau blaenorol a bydd yn golygu asesu ystod o opsiynau hirdymor i leihau'r perygl o lifogydd o afonydd a'r môr.

Fel rhan o'r gwaith hwn, bydd CNC yn ystyried amrywiaeth o ffactorau ar gyfer yr opsiynau, fel cynaliadwyedd, hyfywedd a fforddiadwyedd cyn llunio achos busnes amlinellol y flwyddyn nesaf.

Darlun drwy garedigrwydd DronePics.wales