Prosiect adfer mawndiroedd ar y trywydd iawn i gefnogi adferiad yr hinsawdd

Wrth i arweinwyr byd ymgynnull yn Glasgow i gychwyn trafodaethau hollbwysig ynglŷn â newid hinsawdd, mae prosiect Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd â'r nod o ddal a storio carbon yn ein tirweddau, eisoes yn chwarae rhan allweddol wrth helpu Cymru i gyflawni ei huchelgeisiau sero-net.

Storio carbon a meithrin gwydnwch amgylcheddol sydd wrth wraidd Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE, a ariennir gan raglen LIFE yr UE, ac mae’n enghraifft wych o brosiect adfer yr hinsawdd ar waith.

Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE yw'r rhaglen adfer genedlaethol gyntaf ar gyfer cyforgorsydd ac ar gyfer unrhyw gynefin mawndir yng Nghymru. Ei nod yw adfer saith cyforgors yng Nghymru i gyflwr gwell.

Bydd y gwaith yn cynnwys gwella amodau'r mawndir er mwyn atal dŵr rhag dianc o'r corsydd ac adfer lefelau dŵr naturiol ar yr un pryd. Mae'r prosiect hefyd yn cael gwared ar rywogaethau goresgynnol fel glaswellt y gweunydd a choed bach sy'n cymryd drosodd yn y safleoedd ac yn sychu'r cyforgorsydd.

Bydd Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (COP26) yn dod â chenhedloedd byd-eang at ei gilydd i gyflymu'r camau gweithredu tuag at nodau Cytundeb Paris a Chonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd.

Rhai o'r blaenoriaethau sy'n cael eu trafod yn y gynhadledd eleni yw gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd, meithrin gwydnwch a gostwng allyriadau CO2, ac adlewyrchir y blaenoriaethau hyn hefyd ym Mhrosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE.

Mae mawndiroedd y DU yn storio dros dair biliwn o dunelli o garbon, tua'r un faint â'r holl goedwigoedd yn y DU, Ffrainc a'r Almaen.

Gall mawndiroedd iach ddal symiau enfawr o garbon yn ddiogel, gan hefyd ddarparu manteision hanfodol eraill sy'n ein helpu i ddod yn fwy gwydn, fel atal llifogydd, sicrhau dŵr glân a gwella iechyd a lles.

Ond mae mawndiroedd yn dioddef. Gwyddom fod 25% o fawndiroedd wedi'u dinistrio ar lefel fyd-eang, ac yn y DU mae o leiaf 80% wedi'u difrodi.

Yn anffodus, cyforgorsydd yr iseldir yw'r math o fawndir sydd fwyaf dan fygythiad gyda dim ond 6% yn weddill: mae'r rhan fwyaf ohonynt mewn cyflwr anffafriol ac wedi’u dirywio ac mae angen eu hadfer.

Nod Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE yw gwella 900 hectar (4 milltir sgwâr) o fawndir wedi’i ddirywio i gyflwr iachach. Y prif nodau yw:

  • sicrhau bod carbon yn cael ei storio a'i ddal unwaith eto yn ein mawndiroedd
  • helpu i storio a phuro mwy o ddŵr
  • creu amodau i blanhigion a bywyd gwyllt prin ac unigryw fel gwridiau’r gors, gwlithlys a rhywogaethau migwyn (mwsogl y gors) allu ffynnu
  • creu amgylchedd naturiol iach i bobl ei fwynhau
Dywedodd Patrick Green, Rheolwr Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE: "Os nad yw cyforgorsydd mewn cyflwr da, maen nhw’n rhyddhau carbon deuocsid niweidiol i'r atmosffer. Pan fyddant mewn cyflwr da, maen nhw’n storio carbon ac yn ei amsugno o'r atmosffer.
"Mae'r gwaith adfer a chadwraeth a wneir gan y prosiect yn helpu i wella cyflwr ein mawndiroedd yng Nghymru, ac o ganlyniad rydyn ni ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd."