Un o weilch y pysgod Llyn Clywedog yn dychwelyd i nyth â chamerâu ffrydio byw gwell

Gwalch y Pysgod benywaidd ar ei nyth ger Llyn Clywedog

Bydd gwylwyr ffrwd fyw o nyth y gweilch y pysgod Llyn Clywedog yn cael profiad gwylio gwell eleni wrth i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gadarnhau bod y gwalch benywaidd a elwir yn 5F wedi dychwelyd i'w nyth ar gyfer tymhorau'r gwanwyn a'r haf.

Gan ystyried adborth gan ddilynwyr, mae swyddogion CNC wedi gwneud gwelliannau sylweddol i'r offer ffrydio byw sydd wedi swyno gwylwyr am y ddwy flynedd ddiwethaf.

Bydd un camera yn canolbwyntio ar y nyth tra bydd gan ail gamera sydd newydd ei osod ongl ehangach, gan ei alluogi i rannu lluniau o ddwy gangen wrth ochr y nyth. Mae’r ongl newydd yma yn un mae dilynwyr y nyth wedi bod yn awyddus i weld ers peth amser.

Bydd y camerâu'n rhedeg ar ffrydiau byw ar wahân ar-lein, sy'n golygu y gall gwylwyr wylio'r ddau ffrwd ar yr un pryd.

Am y ddau dymor diwethaf, rhedodd y ffrwd byw o 7am tan 7pm. Y tymor hwn, y gobaith yw y bydd y ffrwd yn cael ei rhedeg 24 awr y dydd gan fod paneli solar wedi cael eu gosod i bweru'r offer. Mae swyddogion CNC hefyd yn gobeithio gallu defnyddio technoleg is-goch i ganiatáu gwylio yn ystod y nos.

Mae'r ffrydiau byw ar gael am ddim ar YouTube drwy chwilio am 'Llyn Clywedog Ospreys', neu drwy ddefnyddio'r ddolen ganlynol: https://bit.ly/GweilchLlynClywedogOspreys.

Dywedodd John Williams, Cynorthwy-ydd Technegol Rheoli Tir ar gyfer CNC: "Mae'r gwanwyn yn sicr wedi cyrraedd pan fod gwalch y pysgod yn dychwelyd i Lyn Clywedog. Gyda'n galluedd gwylio gwell, gobeithiwn allu rhoi cipolwg agosach fyth i bobl ar yr adar arbennig hyn.

"Er ein bod yn gobeithio am dymor llwyddiannus arall, rydym yn gwybod yn iawn bod natur yn anrhagweladwy ac y gallai unrhyw beth ddigwydd. Yr unig ffordd o ddarganfod yw cadw llygad ar y ffrydiau byw.

"Mae niferoedd gweilch y pysgod yn gwella ar ôl cael eu herlid am ddegawdau yn y DU. Mae prosiectau fel hyn yn helpu i roi troedle cryfach iddynt ac i addysgu pobl am yr adar hyfryd hyn."

Adeiladwyd y nyth gan staff CNC ar blatfform uchel mewn coeden sbriws sitka yn 2014 ac mae wedi profi'n deorydd cynhyrchiol dros y blynyddoedd, gyda 18 o gywion yn ffoi o'r nyth ac yn mudo ers ei hadeiladu yn 2014.

Adar mudol sy'n gaeafu yn Affrica yw gweilch y pysgod. Mae’n hysbys bod 5F – gwalch breswyl Llyn Clywedog yn treulio'r gaeaf yng Nghors Tanji yn y Gambia, Gorllewin Affrica.

Y gobaith yw y bydd y gwalch preswyl arall yn dychwelyd i'r nyth ar gyfer y tymor, a'u bod yn atgenhedlu eto. Gall gweilch y pysgod fagu hyd at dri cyw mewn tymor.

Mae Llyn Clywedog yng Nghoedwig Hafren sy'n cael ei gynnal gan CNC.