Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cau ei holl feysydd parcio, mannau chwarae a thoiledau yn y gwarchodfeydd a’r coedwigoedd. Mae pob llwybr beicio mynydd wedi cau.

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cau meysydd carafannau, gwersyllfaoedd, mannau eraill sy’n denu twristiaid, a mannau hardd poblogaidd i ymwelwyr.

I gefnogi hyn, mae CNC wedi cau ei holl ganolfannau ymwelwyr, meysydd parcio, mannau chwarae a thoiledau ar y gwarchodfeydd a’r coedwigoedd y mae’n eu rheoli.

Mae llwybrau beicio mynydd wedi cau yn ogystal. Ni fydd dim gwaith cynnal a chadw yn cael ei wneud ar lwybrau beicio mynydd nes yr hysbysir yn wahanol.

Dywedodd Gary White, Rheolwr Digwyddiadau i CNC:

“Rydym wedi ymroi’n llwyr i gadw'r cyhoedd a'n staff mor ddiogel ag y bo modd.
"Rydym wedi cau'r holl feysydd parcio, y mannau chwarae a'r toiledau yn y gwarchodfeydd  a’r coedwigoedd rydym yn eu rheoli.  Rydym hefyd wedi cau llwybrau beicio mynydd ac ni fydd unrhyw waith cynnal a chadw yn cael ei wneud arnynt nes yr hysbysir yn wahanol.
"Mae CNC yn eich cynghori i ofalu amdanoch chi eich hun ac eraill drwy ddilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru a chan Lywodraeth."
"Mae angen i ni osgoi teithiau diangen, felly sicrhewch fod eich taith gerdded yn un lleol; peidiwch â mynd i'ch car i deithio i un o'r coedwigoedd rydym yn eu rheoli.  Mae'r llwybrau cerdded yn y coetiroedd yn dal ar agor ond rhaid i chi wneud ymarfer corff ar eich pen eich hun neu gydag aelodau’ch cartref eich hun ac, os byddwch yn dod ar draws pobl eraill, rhaid cadw at y rheol ynglŷn â chadw pellter cymdeithasol

Bydd CNC yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyhoedd drwy ei wefan a’r cyfryngau cymdeithasol.

Gwybodaeth arall

Mae CNC wedi cyhoeddi gwybodaeth am ei ymateb i bandemig y coronafeirws ar ei wefan. Bydd yr holl wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei chyhoeddi yno.