Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio i achos o lygredd mewn nant yng Nghaerffili

Dŵr anffafriol yn afon Nant yr Aber, Caerffili

Mae swyddogion o Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymchwilio i achos o lygredd sydd wedi arwain at ladd nifer o bysgod yn Nant yr Aber yng Nghaerffili.

Fe aeth swyddogion CNC i'r safle yn fuan ar ôl derbyn adroddiadau am afliwio ar ddarn oddeutu milltir o hyd o'r afon ddydd Mawrth (30 Awst)

Cymerwyd samplau dŵr, a dechreuwyd asesiad o'r effaith.

Dychwelodd swyddogion i'r safle ddydd Mercher (31 Awst) i barhau ag ymchwiliadau gan gadarnhau bod tua 100 o bysgod wedi eu lladd, gan gynnwys brithyll, eog, molfrithod a morfrain.

Ers hynny mae swyddogion wedi dod o hyd i ffynhonnell y llygredd ac maent yn ymchwilio i'r achos.

Bydd y samplau nawr yn cael eu dadansoddi a bydd yn hysbysu camau gweithredu nesaf CNC.

Dywedodd Kirsty Lewis, Uwch Swyddog Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae diogelu afonydd Cymru a'r cymunedau a'r bywyd gwyllt sy'n dibynnu arnyn nhw yn rhan bwysig o'n gwaith. Cyn gynted ag y cawsom adroddiadau am y digwyddiad hwn, roedd ein swyddogion allan ar y safle’n ymchwilio.
Yn anffodus, gallwn gadarnhau bod tua 100 o bysgod wedi eu lladd yn y digwyddiad llygredd hwn, a fydd yn cael effaith sylweddol ar stociau pysgod yn lleol.
Credwn ein bod wedi dod o hyd i'r ffynhonnell a byddwn yn ystyried pa gamau i'w cymryd nesaf, gan gynnwys unrhyw gamau gorfodi priodol yn erbyn y rhai sy'n gyfrifol.
Rydym yn ddiolchgar i'r rhai a roddodd wybod inni am y digwyddiad hwn. Byddem yn annog unrhyw un i roi gwybod am arwyddion o lygredd i ni ar 0300 065 3000, neu drwy ein gwefan, i sicrhau y gallwn ymateb mor gyflym â phosibl.