Cyfoeth Naturiol Cymru’n ymuno â’r sgwrs genedlaethol dros newid yn Wythnos Hinsawdd Cymru

Wales climate week graphic

Mae’r trafodaethau ynghylch y degawd o weithredu brys sydd ei angen i adfer hinsawdd a natur Cymru’n symud yn nes at adref yr wythnos hon wrth i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) baratoi i ymuno â'r sgwrs genedlaethol dros newid yng nghynhadledd Wythnos Hinsawdd Cymru (21-25 Tachwedd).

Wrth i gynhadledd hinsawdd COP27 yn yr Aifft ddirwyn i ben, bydd sesiynau rhithiol Wythnos Hinsawdd Cymru yn ystyried sut y gall Cymru gyflawni ei huchelgeisiau sero net erbyn 2050 a gweithredu i ddiogelu ein planed a'n hamgylchedd naturiol. Bydd y sesiynau hefyd yn archwilio'r cyfraniad pwysig y gall pob rhan o gymdeithas ei wneud o ran helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur er mwyn creu Cymru yr ydym i gyd am fyw ynddi, yn awr ac yn y dyfodol.

Bydd cydweithwyr o CNC yn camu i’r llwyfan rithwir ddydd Mawrth (22 Tachwedd) i arwain y sgwrs ar bwysigrwydd mynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth a thaclo argyfwng yr hinsawdd drwy ddarparu atebion sy'n seiliedig ar natur.

Byddan nhw'n tynnu sylw at sut mae mentrau fel Natur a Ni yn casglu barn am y pryderon sydd gan bobl yng Nghymru am yr amgylchedd naturiol, a pha gamau sydd eu hangen i greu gweledigaeth fwy cadarnhaol ar gyfer y dyfodol i fyd natur ac i ni.

Ar ôl cwblhau cam cyntaf y sgwrs genedlaethol, bydd CNC nawr yn troi ei sylw at redeg panel dinasyddion er mwyn helpu i lunio Gweledigaeth 2050 ar gyfer yr amgylchedd naturiol yng Nghymru, gan ystyried y newidiadau y mae angen i bob un ohonom eu gwneud i ddiogelu dyfodol Cymru.

Bydd gallu amgylcheddau morol ac arfordirol Cymru i fynd i'r afael ag effeithiau'r hinsawdd hefyd yn cael ei archwilio. Mae carbon sy'n cael ei amsugno a'i storio o'r atmosffer gan ecosystemau fel morfeydd heli a morwellt yn cael ei alw'n Garbon Glas. Mae'r gwlyptiroedd arfordirol hyn yn cael eu cydnabod am eu rôl fel atebion sy'n seiliedig ar natur ar gyfer brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd, darparu amddiffyniad rhag llifogydd a chynyddu bioamrywiaeth.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi gwerthuso faint o garbon sy’n cael ei storio a’i ddal o amgylch yr arfordir ac mae bellach yn archwilio sut y gall rheolaeth o ecosystemau arfordirol a morol gyfrannu ymhellach at ein targedau ar gyfer Sero Net. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys rhannu manylion prosiect ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd ar ddealltwriaeth pobl o berthnasedd potensial carbon glas y wlad a sut y gallwn fanteisio arno er mwyn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) hefyd yn dangos sut y gall adfer a chreu cynefinoedd wneud cyfraniad hanfodol at leihau allyriadau carbon a chynyddu storfeydd carbon mewn amrywiaeth o gynefinoedd fel mewndiroedd, sy'n gorchuddio oddeutu 4% o holl arwynebedd tir Cymru.

Mae mawndiroedd, sydd wedi’u ffurfio o ddeunydd organig fel planhigion sydd wedi pydru'n rhannol, yn dirweddau dwrlawn sy'n ffurfio fel corsydd a ffeniau. Gallant gymryd cannoedd o flynyddoedd i ddatblygu ac maen nhw’n hanfodol wrth ddal a storio carbon. Bydd CNC yn darparu gwybodaeth am y gwaith y mae'n ei wneud i ddiogelu ac adfer y tirweddau hyn drwy'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Wrth siarad cyn y gynhadledd, dywedodd Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru Clare Pillman:

Fel y mae cynhadledd COP27 yn ei amlygu, rydym yn dal i fod mewn cyfnod tyngedfennol lle mae angen degawd o weithredu brys os ydym am gael unrhyw effeithiau gwirioneddol a pharhaol yn ein hymateb i'r argyfyngau natur a hinsawdd.
Er y bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar yr heriau o ran mynd i'r afael â bygythiad parhaus newid yn yr hinsawdd, bydd yn gwneud hynny ochr yn ochr â'r argyfwng costau byw a sut y gall Cymru ddarparu atebion i'r her ddwbl hon i gartrefi ledled Cymru.
Rydym yn benderfynol o chwarae ein rôl fel rhan o'r ymagwedd Tîm Cymru sydd ei hangen er mwyn cyflawni'r newid hwn. Fel y bydd ein cynllun corfforaethol newydd yn dangos, byddwn ni'n cyflymu'r camau rydyn ni'n eu cymryd dros natur a’r hinsawdd yng Nghymru dros y degawd tyngedfennol hwn, gan helpu i sicrhau ein bod yn diogelu a gwella dyfodol ein planed, a phawb a phopeth sy'n dibynnu arni.

I ddysgu mwy am Wythnos Hinsawdd Cymru a sut i gofrestru, ewch i Wales Climate Week | Programme (gov.wales) / Wythnos Hinsawdd Cymru | Hafan (gov.wales)