Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhannu cynlluniau ar gyfer coetir coffa newydd yn Brownhill

Brownhill

Mae’r cynlluniau ar gyfer y coetir coffa newydd yn Brownhill yn nyffryn Tywi, Sir Gaerfyrddin, wedi’u rhannu’n gyhoeddus am y tro cyntaf heddiw (dydd Iau 19 Ionawr ) gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Mae’n dilyn adborth a dderbyniwyd o ddau ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn ystod mis Mawrth a mis Mehefin y llynedd i geisio barn pobl ar yr hyn yr hoffent ei weld yn cael ei gynnwys fel rhan o’r cynlluniau ar gyfer y coetir newydd.

Bydd y safle yn Brownhill yn cael ei rannu'n dair ardal benodol - ardal gadwraeth fel bod bywyd gwyllt yn ffynnu, ardal o goetir gyda mynedfeydd hwylus ar gyfer coffau, ac ardal dyfu i ddarparu cyfleoedd cynaliadwy ar gyfer bwyd, coed a natur.

Mae'r dyluniadau ar gyfer yr ardal gadwraeth a'r ardal goetir yn cynnwys cynlluniau i wella mynediad cyhoeddus i'r safle yn sylweddol. Bydd maes parcio newydd yn cael ei greu, ynghyd â chodi pontydd troed a llwybrau cerdded i alluogi ymwelwyr i gael mynediad diogel i lan yr afon a chyfle i fwynhau bywyd gwyllt lleol.

Bydd rhan o'r ardal gadwraeth yn cael ei gadael i dyfu'n naturiol fel coetir glan yr afon gyda chyn lleied o ymyrraeth â phosibl. Bydd hyn yn helpu i wella bioamrywiaeth yn yr ardal ac yn hyrwyddo gorlifdir iach actif.

Bydd y coetir yn cael ei blannu gyda choed llydanddail brodorol. Bydd hyn yn darparu man gwyrdd defnyddiol i drigolion lleol ac ymwelwyr i gael cyfle i fyfyrio'n dawel.

Bydd cymysgedd o rywogaethau gan gynnwys Derw, Oestrwydd, Pisgwydd Dail, Cyll ac Afalau Surion yn cael eu plannu i helpu i sicrhau gwytnwch yn erbyn bygythiad o ganlyniad i newid hinsawdd a phlâu a chlefydau.

Bydd meinciau'n cael eu gosod o amgylch y coetir a bydd coed ffrwythau a choed cnau'n cael eu plannu i greu ardal o flagur a blodau  yn ystod y Gwanwyn yn ogystal â darparu ffrwythau i ymwelwyr a'r gymuned eu casglu.

Wrth ddylunio’r ardal dyfu, mae CNC yn ceisio sefydlu partneriaeth ar gyfer rheoli’r safle yn yr  hirdymor. Bydd hyn yn helpu i weld sut y gellir darparu cyfleoedd cynaliadwy i dyfu bwyd, cynyddu nifer y coed, a hybu a rheoli cadwraeth. Bydd hyn yn cynnwys cyd-ddylunio'r ardal ymhellach gyda'r potensial ar gyfer plannu pellach neu roi cnydau eraill ar ardal y glaswelltir sydd wedi'i wella a nodwyd yn ystod yr ymgynghoriad.

Yn sgil adborth a dderbyniwyd, bydd cynlluniau ar gyfer yr ardal hon hefyd yn golygu sefydlu gwrychoedd llydan, ynghyd â pheth plannu mwy sylweddol yng nghlawdd y caeau ger y coetir presennol. 

Bydd y gwrychoedd presennol hefyd yn cael eu lledu, a bydd cloddiau newydd yn cael eu sefydlu ar hyd ffiniau caeau hanesyddol a gollwyd. Bydd clystyrau o goed yn y caeau a ffensio clystyrau o goed sy’n bodoli eisoes yn caniatáu ail dyfiant naturiol, a fydd yn creu olyniaeth ar gyfer nodweddion parcdir.

Bydd y plannu yn cynyddu’r ardal dyfu ar gyfer coed  i tua 20% o’r 5% ar hyn o bryd.

Yn ôl Miriam Jones Walter, Cynghorydd Arbenigol Stiwardiaeth Tir Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae’n gyffrous iawn gallu rhannu’r dyluniadau hyn ar gyfer ardal Brownhill a hoffem ddiolch o galon i bawb a roddodd o’u hamser i rannu eu hadborth gyda ni a’n helpu i lunio’r cynlluniau ar gyfer y safle, boed hynny wyneb yn wyneb mewn un o'n digwyddiadau galw heibio neu drwy ein hymgynghoriad ar-lein neu e-bost.
Wrth ddylunio coetir newydd, mae’r adborth a gawn gan drigolion lleol a rhanddeiliaid yn amhrisiadwy ac rydym wedi gwrando’n ofalus ar farn a phryderon pobl.
Bydd yr ardal dyfu yn gyfle cyffrous i ni weithio fel rhan o bartneriaeth hirdymor gyda grwpiau cymunedol neu fferm leol. Bydd yn gyfle hefyd i brofi ac arddangos cynigion ar gyfer defnydd tir sy'n mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur, cynigion sydd wedi’u hintegreiddio ag amaethyddiaeth gynhyrchiol.  
Rydym hefyd yn awyddus i ddarparu cyfleoedd i wirfoddolwyr ein helpu i blannu’r coed ar y safle ac fe edrychwn ymlaen at allu rhannu mwy o fanylion maes o law.

Bydd y coetir newydd yn rhan o Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru a reolir gan CNC ar ran Llywodraeth Cymru, a Choedwigaeth Genedlaethol Cymru.

Gallwch weld y cynlluniau ar gyfer y safle mewn mwy o fanylion ar dudalen prosiect CNC yma:Coetir coffa yn Brownhill – dyluniadau a'r camau nesaf - Natural Resources Wales Citizen Space - Citizen Space (cyfoethnaturiol.cymru)