Holi trigolion Gogledd Ceredigion ynglŷn â dau gynllun rheoli coedwig newydd

Gofynnir i drigolion yng Ngheredigion roi eu barn ar ddau gynllun coedwig gwahanol sy'n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Mae CNC - sy'n rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru drwy Gymru - yn datblygu cynllun i reoli coedwigoedd ger arfordir Gogledd Ceredigion, a chynllun ar wahân i reoli coedwigoedd yn ardal Nant yr Arian.

Diben yr ymgynghoriadau yw caniatáu i CNC gynnwys barn y cyhoedd yn y ffordd y bydd y coedwigoedd yn cael eu rheoli yn y dyfodol yn ystod y 10 mlynedd nesaf a thu hwnt.

Meddai Grace Sanderson, Uwch Swyddog Rheoli Tir CNC yng Ngogledd Ceredigion:

Mae ein coedwigoedd yn cynnig cymaint o fanteision i fyd natur ac i'n cymunedau. Maen nhw’n ein helpu yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd ac argyfyngau naturiol, yn darparu pren o ansawdd da y gallwn ei ddefnyddio, a lleoedd rhyfeddol y gall pob un ohonom dreulio amser ynddynt a'u mwynhau.

Rydyn ni eisiau gofalu fod trigolion Ceredigion yn cael cyfle i leisio eu barn am y cynlluniau ar gyfer coedwigoedd yn eu hardaloedd a helpu i sicrhau bod y safleoedd yr ydym yn eu darparu yn cynnig y manteision maen nhw'n awyddus i’w cael.

Mae’n bosibl gweld crynodeb o’r prif amcanion ar gyfer y goedwig a'r holl fapiau drafft ar wefan CNC.

Gall trigolion chwilio am ‘Cynlluniau Adnoddau Coedwig Cyfoeth Naturiol Cymru’ ar unrhyw beiriant chwilio ar y rhyngrwyd a dilyn y dolennau i’r cynllun perthnasol. 

Fel arall, gallant ffonio 0300 065 3000 a gofyn am gael siarad ag un o'r Uwch Swyddogion Rheoli Tir sy'n gyfrifol am yr ymgynghoriadau. Oddi yno, byddant yn gallu anfon copïau caled o'r dogfennau ar gais.

Gall trigolion sy’n dymuno anfon adborth drwy’r post ei anfon i un o ddau gyfeiriad.

Os byddant yn ymateb i'r ymgynghoriad ar y coedwigoedd ger arfordir Gogledd Ceredigion, dylent ei ddychwelyd i Gynllun Adnoddau Coedwig Gogledd Ceredigion, Cyfoeth Naturiol Cymru, Adeiladau'r Llywodraeth, Ffordd Arran, Dolgellau, LL40 1LW.

Os byddant yn ymateb i’r ymgynghoriad ar y coedwigoedd ger Nant yr Arian, dylent ddychwelyd adborth i CNC, Lôn Powells, Y Trallwng, Powys. SY21 7JY.

Bydd angen dychwelyd pob adborth ac unrhyw gwestiynau erbyn 10 Gorffennaf fan bellaf.