Swyddogion gorfodi CNC yn taclo pysgota anghyfreithlon ‘barbaraidd’

Mae swyddogion gorfodi pysgodfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn brysur yn mynd i’r afael â chyfres o ddigwyddiadau camfachu anghyfreithlon ‘barbaraidd’ sydd wedi digwydd ar Afon Llwchwr.

Mae chwe dyn wedi cael dirwy o fwy na £2,200 yr un yn Llys Ynadon Abertawe am ddau ddigwyddiad ar wahân o droseddau pysgota budr/cipio anghyfreithlon.

Plediodd Phungan Nguyen, o Aberhonddu, Vinh Vinh Nguyen o Ystrad Mynach a Hung Le o Abertawe, yn euog yn y llys a chyfaddefodd y tri eu bod yn defnyddio’r technegau camfachu anghyfreithlon yn fwriadol i ddal pysgod o Afon Llwchwr ym mis Mehefin 2021.

Arsylwyd y tri gan Swyddogion Gorfodi CNC, yn defnyddio’r dull camfachu/cipio anghyfreithlon yn fwriadol i ddal gwahanol rywogaethau o bysgod. Roedd hyn yn dilyn sawl adroddiad gan aelodau’r cyhoedd ynghylch gweithgarwch amheus o bysgota anghyfreithlon o dan bont ffordd yr A484 rhwng Casllwchwr a Llanelli.

Cafodd Phungan Nguyen a Vin Vinh Nguyen ddirwy o £400 yr un, gorchymyn i dalu costau o £1,800 yr un a hefyd gordal dioddefwr o £40 yr un.

Cafodd Hung Le ddirwy o £300, gorchymyn i dalu costau o £1800 a hefyd gordal dioddefwr o £34.

Atafaelwyd holl offer pysgota’r dynion a’r pysgod yn eu meddiant gan Swyddogion Gorfodi CNC.

Mewn digwyddiad ar wahân, plediodd tri o’r trigolion canlynol o Abertawe, Joseph Arran Davies, Corey Charles Gilbert a Ryan Lee Jenkins, yn euog yn y llys a chyfaddefodd y tri eu bod yn defnyddio’r dull camfachu/cipio pysgota ar afon Llwchwr yn fwriadol ym mis Ebrill 2021.

Ymddangosodd y tri dyn, a gafodd eu gweld gan Swyddogion Gorfodi CNC yn defnyddio’r dull pysgota anghyfreithlon o dan bont ffordd yr A484, yn Llys yr Ynadon Abertawe, lle cafodd Joseph Davies a Ryan Jenkins ddirwy o £300 yr un a gorchymyn i dalu costau o £1,800 yr un a £34 o ordal dioddefwr. Cafodd Corey Gilbert ddirwy o £200 a gorchymyn i dalu £1,800 mewn costau a gordal dioddefwr o £34.

Dywedodd Mark Thomas, Swyddog Gorfodi Pysgodfeydd CNC:

“Hoffem ddiolch i Heddlu Dyfed Powys, y cymunedau lleol a hefyd i bysgotwyr sy’n parchu’r gyfraith yn yr ardal am eu cefnogaeth barhaus wrth riportio’r gweithgareddau pysgota anghyfreithlon hyn.
“Mae defnyddio’r math barbaraidd a chwbl anfoesegol hwn o bysgota sy’n cael ei wneud gan leiafrif o bysgotwyr, nid yn unig yn ddiwahân ar ba rywogaeth neu faint o bysgod sy’n cael eu lladd, ond mae difrod difesur hefyd yn cael ei achosi i bysgod yn yr ardaloedd nad ydyn nhw wedi’u glanio gan bysgotwyr sy’n defnyddio’r dull hwn yn fwriadol tra’n defnyddio abwyd pysgota safonol sydd wedi’u ymyrryd yn fwriadol.
“Mae llawer o abwyd pysgota bachog trebl rhy fawr wedi’u hatafaelu sydd wedi’u defnyddio i drywanu pysgod yn anghyfreithlon yn fwriadol ac i achosi niwed difesur iddyn nhw pan fydd y bachau trebl pigog lluosog yn trywanu i’w corff, cnawd ac organau mewnol.
“Yna mae’n bosibl y gall y pysgod hyn sydd wedi’u anafu a’u clwyfo gael eu heintio a marw oherwydd yr anafiadau a gafwyd ac yna o bosibl yn y broses heintio rhywogaethau pysgod eraill yn nalgylch yr afon.
“Mae Swyddogion Gorfodi CNC a’r heddluoedd lleol yn cymryd y digwyddiadau pysgodfeydd hyn o ddifrif yn yr un modd â’r llysoedd. Y gobaith yw y bydd y lleiafrif bach o bysgotwyr a allai feddwl am ddefnyddio unrhyw ddulliau pysgota anghyfreithlon yn y dyfodol yn cymryd sylw o’r dirwyon trwm hyn a roddir gan y llysoedd.”

Dywedodd PC 766 Roger Jones, Swyddog Troseddau Bywyd Gwyllt Heddlu Dyfed Powys:

“Mae’r erlyniad hwn yn ganlyniad llawer o waith penderfynol rhwng Heddlu Dyfed Powys a Chyfoeth Naturiol Cymru.
“Roedd y dull camfachu a welwyd yn golygu bod pob unigolyn yn taflu llinell gyda bachau trebl mawr iawn ar abwyd, a’u tynnu i mewn gyda dull chwipio gwialen gyflym gyda’r bwriad o gamfachu pysgod yn y llanw isel. Mae’n ddull pysgota erchyll, diwahân, ac anghyfreithlon.
“Rydyn ni’n mynd ati i dargedu Aber Afon Llwchwr oherwydd achosion fel y rhain, felly rydyn ni’n falch eu bod nhw wedi derbyn dirwyon trwm a bod eu holl wialennau a’u hoffer wedi’u hatafaelu.”

I gael gwybodaeth am bysgota yng Nghymru ewch i wefan CNC: Cyfoeth Naturiol Cymru / Pysgota

os gwelwch unrhyw weithgaredd amheus neu anghyfreithlon ar ein hafonydd, llynnoedd a chronfeydd dŵr, rhowch wybod i linell gymorth digwyddiadau CNC ar 0300 065 3000.