CNC yn nodi llwybr i ddyfodol cynaliadwy i Gymru yn ei adroddiad newydd

Mae trawsnewid y ffordd yr ydym i gyd yn byw ein bywydau yn hanfodol os yw Cymru am fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur y mae'n eu hwynebu.

Dyma'r alwad i weithredu sy'n deillio o adroddiad carreg filltir a lansiwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) heddiw (27 Ionawr 2021).

Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol 2020 (SoNaRR2020) yw'r sylfaen dystiolaeth sy'n asesu pa mor gynaliadwy yw rheolaeth adnoddau naturiol yng Nghymru.

Gan ddefnyddio’r wybodaeth a’r ymchwil ddiweddaraf sydd ar gael, tra’n adeiladu ar ganfyddiadau’r adroddiad cyntaf a gyhoeddwyd yn 2016 (ychwanegu dolen), mae’n edrych o’r newydd ar yr heriau sy’n wynebu amgylchedd Cymru nawr ac yn y dyfodol.

Mae hefyd yn nodi uchelgais i bontio’r bwlch o ble rydyn ni nawr i ble mae angen i ni fod er mwyn cyflawni dyheadau Cymru ar gyfer byw’n gynaliadwy.

Mae'r adroddiad yn esbonio sut mae llesiant pobl a'r blaned yn cydblethu, gan nodi sut y gallai Cymru gyflawni newid amgylcheddol trwy drawsnewid y systemau yr ydym i gyd yn eu defnyddio i gefnogi ein ffyrdd o fyw.

Mae'n awgrymu y gallai ailgynllunio'r systemau ynni, trafnidiaeth a bwyd helpu cymdeithas i fyw o fewn ei gallu amgylcheddol a mynd i'r afael â'r pwysau sy'n achosi natur ac argyfyngau hinsawdd.

Trwy ailasesu'r camau unigol a gymerwn, gan wneud ymddygiadau pro-amgylcheddol yn ddewis fwyaf hawdd, a chymryd cyfleoedd i newid systemau trwy datblygu polisi, mae SoNaRR2020 yn cyflwyno cyfle gwirioneddol i newid.

Gallai'r newidiadau hyn gynnwys:

  • Lleihau gwastraff bwyd
  • Hyrwyddo arferion amaethyddol ac agroecolegol cynaliadwy sy'n gweithio gyda natur
  • Gwell dylunio a chynllunio trefol fel cysylltu mannau gwyrdd
  • Neilltuo mwy o le i natur
  • Symud tuag at ynni carbon isel ac adnewyddadwy
  • Ailgynllunio'r system drafnidiaeth yn ei chyfanrwydd, o amgylch opsiynau cynaliadwy

Dywedodd Syr David Henshaw, Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru;

“Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i gymryd llwybr mwy gwyrdd allan o'r pandemig Covid-19 byd-eang, mae'n rhaid i ni hefyd achub ar y cyfle i ail-ddychmygu sut rydyn ni'n defnyddio adnoddau naturiol byd-eang yn fwy cynaliadwy i fynd i'r afael â bygythiadau deuol yr argyfyngau hinsawdd a natur.

“SoNaRR2020 yw’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer rheolaeth gynaliadwy Cymru ar adnoddau naturiol. Ac mae'n darparu llwyfan i gydweithio am y rhan y gallwn ni i gyd ei chwarae yn hynny. Mae gennym amser o hyd i newid cwrs tuag at gynaliadwyedd, ond mae angen i ni weithredu nawr a gwneud hynny fel cymdeithas yn gweithio gyda'n gilydd.

“Crëwyd ein hadroddiad diweddaraf gydag ymdrech ar y cyd rhwng CNC a'n partneriaid. Rydym wedi gweithio gyda'r sectorau busnes, cyhoeddus ac amgylcheddol i wneud hwn yn adroddiad cadarn ac eang ei gwmpas. Mae ganddo'r allweddi i ddatgloi sut y gallwn wneud Cymru yn gymdeithas gynaliadwy i ni i gyd fel y gallwn fyw bywydau hapus, iach mewn ffordd sy'n ystyried anghenion yr amgylchedd”.

Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio SoNaRR2020 i lywio datblygiad polisi ar gyfer rheoli'r amgylchedd naturiol.

Wrth groesawu’r adroddiad, dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

“Wrth i ni barhau i wynebu’r heriau a berir gan bandemig Covid-19, rydym ni yn Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo ein hunain dro ar ôl tro i ymateb amgylcheddol-gyfrifol i’r pandemig, a dyma ein cyfle i ganolbwyntio ar adferiad gwyrdd yn ystod yr amser heriol hwn.

“Ar yr eiliad dyngedfennol hon, mae adroddiad SoNaRR yn rhoi set gynhwysfawr o dystiolaeth inni ar gyflwr a thueddiadau adnoddau naturiol ac ecosystemau Cymru, yn ogystal ag edrych ar sut rydym yn cyflawni o ran rheoli gynaliadwy.

“Mae hefyd yn rhoi cyfle inni drafod y rhan y mae’n rhaid i ni i gyd ei chwarae wrth wella cyflwr ein hecosystemau, fel y gallwn sicrhau eu bod yn cefnogi llesiant cenedlaethau i ddod.

“Yn hynny o beth, mae'n chwarae rhan allweddol yn y ffordd yr ydym yn deall yr heriau sy'n ein hwynebu, a beth arall y gallwn ei wneud i ddiogelu'r amgylchedd mewn ffordd sy'n gyfrifol yn fyd-eang - a hoffwn ddiolch i Cyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaid eraill am eu holl waith i gynhyrchu'r adroddiad.”

Bydd lansiad swyddogol SoNaRR2020 yn cael ei gynnal heddiw, ar 27 Ionawr 2021.

Bydd yn cael ei agor gan Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, a bydd yn cynnwys cyfraniadau gan Brif Weithredwr CNC Clare Pillman, tîm prosiect SoNaRR2020 a chynrychiolwyr o SoNaRR2020, gan gynnwys partneriaid a gyfrannodd at yr adroddiad.

Mwy am yr adroddiad yma.