Preswylwyr yn ardaloedd De Dyffryn Gwy yn cael gwahoddiad i fynegi eu barn ar gynlluniau rheoli coedwig

Llun o goed yng nghoedwig Wentwood

Mae preswylwyr sy’n mwynhau defnyddio rhai o goetiroedd mwyaf poblogaidd De Dyffryn Gwy, yn cael eu hannog gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i roi eu barn ar gynlluniau i’w rheoli ar gyfer y dyfodol.

Mae CNC – sy’n rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ledled Cymru – wedi datblygu cynlluniau rheoli 25-mlynedd ar gyfer y coetiroedd yn Ne Dyffryn Gwy, sy’n cynnwys Coed Gwent, Parc Cas-gwent a Great Barnets.

Mae’r cynllun yn amlinellu’r amcanion a’r cynigion tymor hir ar gyfer rheoli’r coetiroedd a’r coed sydd ynddynt yn y dyfodol. Mae hefyd yn cynnwys strategaethau ar gyfer sut y bydd CNC yn parhau i fynd i’r afael â’r llarwydd heintiedig yn yr ardal.

Meddai Richard Phipps, Uwch Swyddog Cynllunio Coedwig, Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae ein coedwigoedd yn cynnig cymaint o fanteision i’r amgylchedd naturiol ac i’n cymunedau. Maen nhw’n ein helpu i frwydro yn erbyn yr argyfyngau hinsawdd a natur, maen nhw’n darparu pren o safon y gallwn ei ddefnyddio, ac maen nhw’n lleoedd ardderchog y gall pob un ohonom dreulio amser ynddynt a’u mwynhau.
Rydym yn gwybod gymaint mae ein coetiroedd yn cael eu gwerthfawrogi, a hoffem sicrhau fod y bobl sy’n eu defnyddio yn cael cyfle i ddweud eu dweud am y ffordd y byddant yn cael eu rheoli yn y dyfodol.
Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau fod yr ardaloedd hyn yn gallu dal ati i fodloni anghenion y cymunedau lleol am flynyddoedd eto i ddod.

Gallwch ddarllen y cynlluniau hyn mewn manylder a gadael adborth drwy ddefnyddio ymgynghoriadau ar-lein CNC.

Ymgynghoriad ar gyfer coetiroedd De Dyffryn Gwy: 

Cynllun Adnoddau Coedwig De Dyffryn Gwy - Natural Resources Wales Citizen Space - Citizen Space (cyfoethnaturiol.cymru)

Mae’r ymgynghoriad yn agored tan 21 Tachwedd 2022.

Gall unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan ond nad yw’n gallu gweld y cynigion ar-lein ffonio 03000 65 3000 neu e-bostio frp@naturalresources.wales a gofyn am gopi caled.

Gall preswylwyr sy’n dymuno anfon adborth drwy’r post ei anfon i:

Cyfoeth Naturiol Cymru
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP