Gwaith adfer i gynefinoedd pwysig ar draws Gogledd Orllewin Cymru

Mae ardaloedd o laswelltir calchfaen ar draws Gogledd-orllewin Cymru wedi cael eu gwella diolch i brosiect bioamrywiaeth dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Mae'r gwaith o adfer lleoliadau Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yng Nghomin Bryn Euryn a Thir Comin Llangwstennin yn Sir Conwy ac ym Mwrdd Arthur ar Ynys Môn wedi dechrau drwy'r Gronfa Rhwydweithiau Natur - menter a ddarperir mewn partneriaeth gan Lywodraeth Cymru, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a CNC i gryfhau gwytnwch rhwydwaith Cymru o safleoedd tir a morol gwarchodedig, cefnogi adferiad natur wrth fynd ati i annog ymgysylltu â'r gymuned.

Bu CNC yn gwneud y gwaith i ail-sefydlu torri gwair hwyr yr haf a thynnu prysgwydd gan gynnwys mieri, eiddew ac eithin a rhywogaethau ymledol fel Cotoneaster anfrodorol i amddiffyn bioamrywiaeth a chefnogi planhigion blodeuol a gloÿnnod byw prin.

Yng Nghomin Llangwstennin, bu CNC yn gweithio gyda Chyngor Tref Llandudno i agor ardaloedd sydd wedi gordyfu'n well er mwyn sicrhau bod y safle'n hygyrch i'r gymuned leol unwaith eto.

Trwy waredu eithin, nid yn unig mae wedi lleihau perygl tanau gwyllt ond hefyd wedi gwella mynediad y cyhoedd i Fryngaer Oes Haearn Bwrdd Arthur.

Meddai Charlotte Williams, Arweinydd Tîm Amgylchedd CNC yng Nghonwy:
"Glaswelltir calchfaen yw un o'r cynefinoedd prinnaf, mwyaf amrywiol a llawn rhywogaethau sydd gennym yng Nghymru
"Mae glaswelltiroedd fel y rhain yn storfa garbon da ac o'u rheoli'n ofalus, maent yn cloi’r carbon a rhoi hwb i fioamrywiaeth. Rydym wedi colli cryn dipyn o laswelltir sy’n llawn rhywogaethau yn y DU, felly mae rheoli'r ardaloedd hyn yn dda yn flaenoriaeth.
"Gellir dod o hyd i amrywiaeth o rywogaethau prin ar draws y safleoedd. Mae'r rhain yn cynnwys gloÿnnod byw fel Y Gwibiwr Llwyd, Argws Brown, Brith Perlog Bach a phlanhigion gan gynnwys y Rhwyddlwyn Pigfain, Cor-rosyn cyffredin, Bwrned, Y Grogedau a’r Ganrhi Felen.
"Mae rheoli meysydd fel y rhain yn hanfodol ar gyfer cynnal a chadw bioamrywiaeth ac yn ein helpu i reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy.
"Rydyn ni'n falch ein bod wedi gallu sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru sydd wedi caniatáu inni amddiffyn a dod â'r cynefinoedd pwysig hyn yn ôl i gyflwr ffafriol. Hoffem ddiolch hefyd i dirfeddianwyr am eu cefnogaeth.
"Mae'r math hwn o weithio mewn partneriaeth yn ein helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur drwy ddiogelu a gwella bioamrywiaeth."

Mae CNC wedi gweithio gyda thirfeddianwyr i ganiatáu i'r gwaith ddigwydd a sicrhau bod gwaith cynnal a chadw parhaus ar y safleoedd.

Oherwydd rhesymau logistaidd ni ellir pori'r ardaloedd hyn o laswelltir, gan adael torri gwair a chlirio rheolaidd fel yr unig opsiwn rheoli.