Cychwyn gwaith i ddilyn trywydd eogiaid ar hyd Afon Wysg

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi lansio prosiect newydd i ddilyn symudiadau mudol gleisiaid eogiaid ar hyd Afon Wysg er mwyn canfod yr heriau mwyaf y maent yn eu hwynebu wrth fudo i'r môr. 

Bydd y prosiect, gyda chefnogaeth Sefydliad Afon Gwy ac Afon Wysg, yn cynnwys dal hyd at 100 o leisiaid bob blwyddyn a'u tagio â throsglwyddyddion acwstig. Bydd y dyfeisiau hyn yn cael eu synhwyro wedyn gan rwydwaith o dros 30 o dderbynyddion ledled yr afon, gan roi data i wyddonwyr am gyfraddau goroesi ac ymddygiad mudo a fydd yn helpu i lywio gwaith rheoli a gwarchod eogiaid yn y dyfodol. 

Cyfnod yng nghylch bywyd eog yw’r cyfnod pan fydd yn leisiad, pan fydd y pysgodyn yn paratoi ar gyfer mudo i'r môr. Drwy ddilyn trywydd eogiaid yn y cyfnod hwn, gall CNC weld sut yr effeithir arnynt yn ystod eu taith a'r hyn y gellir ei wneud i wella’u cyfle i fudo’n llwyddiannus.

Dywedodd Oliver Brown, Swyddog Dyframaeth sy’n arwain y prosiect i CNC:

“Mae niferoedd eogiaid, gan gynnwys eogiaid yn eu llawn dwf a’r rhai ifanc, ar eu hisaf erioed yn afonydd Cymru yn ogystal ag mewn rhannau eraill o'r byd. Pan welwn nifer rhywogaeth yn gostwng fel hyn, mae angen i ni wneud popeth i ddeall beth sy'n achosi'r broblem a phenderfynu ar yr hyn y gellir ei wneud i sicrhau bod y rhywogaeth yn goroesi.
"Drwy dagio'r gleisiaid a defnyddio ein rhwydwaith o dderbynyddion i'w dilyn yn ystod eu taith i'r môr, gallwn ganfod beth sy'n gwneud bywyd mor anodd i'r pysgod hyn, boed yn oedi ger rhwystrau, ysglyfaethu, llif isel afonydd neu unrhyw beth arall.
"Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Sefydliad Afon Gwy ac Afon Wysg wrth gyflwyno'r prosiect hwn. Yn y pen draw, bydd y wybodaeth a'r data a gasglwn yn llywio ein gwaith ar y cyd ym maes gwarchod eogiaid, a fydd yn hynod werthfawr yn ein hymdrechion i fynd i'r afael â’r hyn sy’n achosi’r dirywiad yn y boblogaeth yn y tymor hir."

 

Gosodwyd y derbynyddion cyntaf ar hyd afon Wysg ddiwedd mis Chwefror, gan ddisgwyl i’r gwaith o ddal a thagio gleisiaid gychwyn yn ystod mis Ebrill.