CNC yn erlyn Taylor Wimpey am droseddau llygru afon

Dŵr silty ar safle datblygu Taylor Wimpey yn Sebastopol

Mae'r cwmni adeiladu tai Taylor Wimpey wedi cael dirwy o 488, 772 ar ôl methu rhoi mesurau priodol ar waith i atal nifer o ddigwyddiadau llygredd a effeithiodd ar Afon Llwyd a'i hisafonydd ym Mhont-y-pŵl, yn 2021.

Cafwyd y cwmni adeiladu yn euog o gyhuddiadau'n ymwneud â thorri Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol yn Llys Ynadon Cwmbran yn gynharach heddiw (03)

Digwyddodd nifer o droseddau llygredd a achoswyd gan weithgareddau gollwng dŵr anghyfreithlon ar safle Glanfa Edlogan, ar hyd Ffordd Bevan, Sebastopol, Pont-y-pŵl rhwng Ionawr a Hydref 2021.

Datgelodd archwiliadau swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fod y llygrydd wedi’i achosi bob tro gan ddŵr ffo o'r safle, a oedd wedi cael ei halogi â silt.

Cyfarfu swyddogion CNC â chynrychiolwyr Taylor Wimpey ar y safle ym mis Chwefror 2021, i drafod y gofynion angenrheidiol o ran gwneud cais am drwydded a'r mesurau lliniaru oedd angen eu gweithredu er mwyn lleihau'r risg o lygredd.

Anfonwyd llythyr rhybuddio i Taylor Wimpey ar 23 Chwefror a 13 Mai ac eto, dros y misoedd canlynol, cadarnhawyd chwe digwyddiad arall a 5 digwyddiad heb eu cadarnhau a oedd yn ymwneud â llygredd oedd wedi’i achosi, neu yr honnir ei fod wedi'i achosi, gan ddŵr silt yn gollwng o safle datblygu Glanfa Edlogan. 

Yn ystod ymweliad dilynol ar 29 Hydref, dangosodd samplau dŵr a gafodd eu dadansoddi gan swyddogion CNC gynnydd sylweddol yn lefelau'r solidau mewn daliant (gronynnau solid mân sy'n parhau yng nghrog yn y dŵr) yn y cwrs dŵr.

Gall hyn effeithio’n negyddol ar bysgod ac infertebratau eraill, gan gau eu tagellau a lleihau lefel y golau syn treiddio i’r dŵr.

Gall dŵr silt o safleoedd adeiladu hefyd gynnwys cemegion - fel tanwydd ac olew o beiriannau neu generaduron a gall hyn hefyd gael effaith niweidiol ar yr amgylchedd. 

Meddai Susan Lenthall, Swyddog Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae rheoliadau amgylcheddol ar waith i helpu i amddiffyn pobl, bywyd gwyllt, ein hafonydd a'n tir.
Mae gan y diwydiant adeiladu ddyletswydd gofal i'r cymunedau lle maen nhw’n gweithredu, i sicrhau bod mesurau rheoli a diogelu cywir ar waith er mwyn atal digwyddiadau fel rhain.
Yn yr achos hwn, ar ôl cael ei hysbysu gan CNC roedd Taylor Wimpey yn gwbl ymwybodol o’r gofynion yr oedd eu hangen i osod dulliau effeithiol i liniaru silt, bod angen trwyddedau ar gyfer gollwng dŵr wyneb wedi'i drin i gwrs dŵr a bod unrhyw ddŵr halogedig oedd yn cael ei ollwng yn drosedd o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol.
Rwy'n gobeithio y bydd y ddirwy hon yn anfon neges glir fod angen cymryd deddfwriaeth amgylcheddol o ddifrif. Ni fyddwn yn petruso cyn cymryd camau priodol yn erbyn y rhai sy'n diystyru rheoliadau ac sy’n peryglu'r amgylchedd naturiol yr ydym i gyd yn ei adnabod a’i garu.

Cafodd Taylor Wimpey ddirwy o £480, 000 mewn dirwyon, yn ogystal â chael ei orchymyn i dalu gwerth £181 o ordal a £8591.40 mewn costau gan ddod â'r cyfanswm dirwyon i £488,772.40. 

Er mwyn rhoi gwybod am lygredd, ffoniwch linell gymorth 24 awr CNC - 0300 065 3000 neu rhowch wybod inni ar-lein Cyfoeth Naturiol Cymru/Rhoi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol