Diwrnod Rhyngwladol y Twyni Tywod ar ei ffordd i dynnu sylw at bwysigrwydd y cynefin

Menywod a phlentyn yn cerdded i fyny sandune

Bydd y Diwrnod Rhyngwladol y Twyni Tywod cyntaf erioed yn cael ei gynnal ddydd Gwener 25 Mehefin i dynnu sylw at bwysigrwydd gwarchod y cynefinoedd arfordirol hanfodol hyn ledled y byd.

Mae'r diwrnod o ddathlu wedi'i sefydlu gan brosiectau Twyni Byw a Dynamic Dunescapes - dwy fenter sydd wedi ymroi i amddiffyn twyni tywod a'r bywyd gwyllt sy'n dibynnu arnyn nhw.

Bydd y ddau brosiect yn cynnal ystod o ddigwyddiadau a gweithgareddau ledled Cymru trwy gydol yr wythnos hon i dynnu sylw at y diwrnod sydd i ddod. Mae'r digwyddiadau'n cynnwys teithiau cerdded tywys, sgyrsiau, celf traeth, casglu sbwriel, ioga a sesiynau ymwybyddiaeth natur.

Bydd yr holl ddigwyddiadau a gweithgareddau hefyd yn cynnig mewnwelediad i waith y ddau brosiect wrth iddynt amddiffyn y cynefin arbennig hwn ledled Cymru, tra hefyd yn darparu gwybodaeth am y problemau sy'n wynebu ein twyni tywod heddiw - gan gynnwys cyflwyno planhigion estron goresgynnol, gor-sefydlogi'r twyni, diffyg pori, newid hinsawdd a llygredd aer.

Dywedodd Kathryn Hewitt, Rheolwr Prosiect Twyni Byw:

Rydym ni’n falch bod Twyni Byw wedi cyd-greu y Diwrnod Rhyngwladol y Twyni Tywod cyntaf erioed ac yn edrych ymlaen at yr wythnos brysur sydd i ddod.
“Trwy gydol yr wythnos rydym ni’n gobeithio codi ymwybyddiaeth o werth a phwysigrwydd twyni tywod i'r bobl a bywyd gwyllt o bob rhan o Gymru.
Rydym ni'n gobeithio y bydd yr amrywiaeth o ddigwyddiadau rydym wedi'u cynllunio ledled Cymru, o ioga ac ymwybyddiaeth natur i sesiwn casglu sbwriel a taith gerdded bywyd gwyllt y twyni, yn tynnu sylw at y defnydd amrywiol o dwyni tywod a'r angen i'w hamddiffyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Dywedodd David Kilner, Swyddog Ymgysylltu Dynamic Dunescapes yng Nghymru:

Mae Cymru yn ddigon ffodus i fod â llawer o dwyni hardd ar hyd ei harfordir - mae miloedd ohonom ni’n cerdded trwyddyn nhw bob dydd. Maen nhw'n fannau gwyllt, yn llochesau i bobl a bywyd gwyllt, ac maen nhw dan fygythiad.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Twyni Tywod byddwn yn dathlu straeon pobl, y bywyd gwyllt, y dreftadaeth a'r gwaith cadwraeth sydd wedi'i wneud yn y lleoedd ysblennydd hyn.
Trwy ystod o ddigwyddiadau rhad ac am ddim y byddwn yn eu cynnal, o ioga i gelf twyni, o sesiynau glanhau traethau i adrodd straeon, rydym yn edrych ymlaen at helpu cymunedau i archwilio eu lliwiau, eu synau a'u bywyd gwyllt er mwyn cysylltu'n agosach byth â hud ein harfordiroedd.

I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiadau, ewch i dudalennau twitter neu Facebook y prosiectau @TwyniByw a @DynamicDunes neu ewch i http://www.dynamicdunescapes.co.uk/world-sand-dune-day .