Ewch â ffrind i bysgota dros gyfnod yr ŵyl

Efallai bod y tywydd yn oeri, ond mae digon o hwyl i’w gael ar lan yr afon a pha ffordd well o fwynhau dyfroedd hyfryd Cymru na physgota gyda ffrind.

Rhwng dydd Gwener 17 Rhagfyr a dydd Sul 2 Ionawr, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynnig cyfle i’r rhai sydd â thrwydded gwialen ar hyn o bryd gofrestru am drwydded undydd gwerth £6 am ddim er mwyn gallu mynd â ffrind neu aelod o’r teulu i bysgota.

Dywedodd Ben Wilson, Prif Gynghorydd Pysgodfeydd CNC:

“Mae’r Nadolig yn amser i deulu a ffrindiau ddod at ei gilydd ac mae’n gyfle gwych i dreulio amser gwerthfawr ar drip pysgota a mwynhau awyr agored Cymru yn y gaeaf.
“Mae pysgota’n adnabyddus am leddfu straen, a pha ffordd well o ymlacio ar ôl blwyddyn heriol arall nag ymweld ag un o’r nifer o bysgodfeydd brithyll dŵr llonydd, pyllau a llynnoedd pysgota bras, afonydd gyda phenllwydion a chamlesi sydd ar agor ledled Cymru.
“Efallai y byddech chi’n hoffi cyflwyno rhywun sydd erioed wedi pysgota o’r blaen, neu efallai eich bod chi’n adnabod rhywun a fu’n pysgota yn y gorffennol ond sydd heb fod ar y glannau ers tro. Pwy bynnag sydd gennych chi mewn golwg, nawr yw’r amser perffaith i fynd â nhw i bysgota, hyd yn oed os oes rhaid gwisgo’n gynnes i osgoi’r oerni.”

Mae’r cyfnod cofrestru ar agor nawr fel y gall genweirwyr a’u ffrindiau sy’n dymuno archebu dyddiad rhwng 17 Rhagfyr a 2 Ionawr (yn gynwysedig) ymlaen llaw fynd i www.anglingtrust.net/takeafriendfishing i gofrestru am drwydded bysgota AM DDIM.

Bydd y drwydded bysgota am ddim yn cael ei hanfon ynghyd â neges e-bost i gadarnhau, felly cofiwch gadw trwydded bysgota’r genweiriwr a chyfeiriad e-bost y ddau berson wrth law, ynghyd â rhai manylion eraill defnyddiol pan fyddwch chi’n cofrestru i Fynd â Ffrind i Bysgota.

I ddod o hyd i leoedd i bysgota yng Nghymru, ewch i wefan Fishing Wales yma:

Find Fishing in Wales - Fishing in Wales (fishingwales.net)

Bydd hefyd angen tocyn diwrnod gan y bysgodfa neu’r clwb genweirio.