Rheoleiddio olew a nwy ar y tir

Dysgwch am y rôl allweddol y mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ei chwarae mewn gweithgareddau olew a nwy ar y tir a sut mae'r gweithgareddau hyn yn cael eu rheoleiddio.

Polisi Llywodraeth Cymru ar echdynnu petrolewm ar y tir

Cymerodd Gweinidogion Cymru gyfrifoldeb dros echdynnu petrolewm ar y tir o 1 Hydref 2018.

Ym mis Rhagfyr 2018, mewn datganiad ysgrifenedig, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei pholisi o ‘beidio â rhoi unrhyw drwyddedau petrolewm newydd yng Nghymru, na chefnogi ceisiadau am gydsyniadau trwydded ar gyfer hollti hydrolig’.  

Er gwaethaf polisi Llywodraeth Cymru, mae gan CNC ddyletswydd statudol i gyflawni ei rôl reoleiddio. 

Ein rôl fel rheoleiddiwr

Ni yw'r rheoleiddiwr amgylcheddol ar gyfer gweithrediadau olew a nwy ar y tir yng Nghymru. Byddwn yn helpu i sicrhau bod gweithrediadau olew a nwy ar y tir yn cael eu cynnal mewn ffordd sy'n amddiffyn pobl a'r amgylchedd.

Rydym yn asesu cynigion unigol ar gyfer gweithrediadau olew a nwy ar y tir yn unol â nifer o ofynion deddfwriaethol gwahanol, a’r brif ddeddfwriaeth yr ydym yn ystyried ceisiadau am drwyddedau ar gyfer y gweithgareddau hyn odani yw'r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol. Fel rheoleiddiwr y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol, mae gan CNC ddyletswydd statudol i ystyried yn wrthrychol unrhyw gais am drwydded sy’n dod i law ar gyfer chwilio am olew a nwy ar y tir. Felly, rydym yn parhau i asesu a phenderfynu ar unrhyw gais am drwydded ar gyfer cynlluniau o'r fath a byddwn yn rhoi cydsyniad os gellir rheoli'r holl effeithiau posibl yn dderbyniol a bod gofynion y drwydded yn cael eu bodloni. Wrth wneud hynny, byddwn yn parhau i gyflawni ein rôl reoleiddio i reoli risgiau i bobl a'r amgylchedd wrth benderfynu ar geisiadau sy'n ymwneud ag echdynnu petrolewm yng Nghymru.

Rydym yn rheoleiddio allyriadau, y defnydd o ddŵr, amddiffyn dŵr daear, a rheoli gwastraff fel lleidiau drilio, hylif sy’n llifo'n ôl (hylif hollti hydrolig sy'n cael ei ddychwelyd i'r wyneb), nwyon, ac unrhyw ddeunyddiau ymbelydrol naturiol (NORM).  Mae gennym yr awdurdod i atal gweithrediad os daw perygl sylweddol i'r amlwg.

Felly, byddwn yn parhau i roi cyngor cyn ymgeisio i ddatblygwyr ar yr effeithiau posibl ar yr amgylchedd a thirwedd ar safle yn unol â'n cynllun codi tâl.

O safbwynt unrhyw safle y rhoddir trwydded iddo, mae ein rôl fonitro a sicrhau cydymffurfedd ym mhob safle yn sicrhau y caiff y risgiau amgylcheddol eu rheoli'n gywir drwy gynnal archwiliadau, arolygiadau o’r safle a gwaith hapfonitro, a thrwy adolygu cofnodion a gweithdrefnau'r gweithredwr.  

Rydym hefyd yn ystyried ceisiadau am drwyddedau a chydsyniadau er mwyn penderfynu ar effaith bosibl cynnig ar Safleoedd a Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop.

Y trwyddedau y mae eu hangen

Dod o hyd i wybodaeth am ofynion trwyddedu ar gyfer gweithgareddau olew a nwy ar y tir.

Ein rôl fel cynghorydd yn y system gynllunio gwlad a thref

Mae angen caniatâd cynllunio cyn dechrau unrhyw ddatblygiad chwilio am olew neu nwy neu unrhyw waith i’w hechdynnu. 

Os nad yw awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu gwrthod cais am ddatblygiad petrolewm, rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru. Gall Gweinidogion Cymru ddewis galw’r cais cynllunio i mewn, neu, os yw’n briodol, gallant gyhoeddi cyfarwyddyd na ddylid cymeradwyo’r cais nes cael cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru. Dylid nodi nad yw hyn yn gwahardd cynlluniau.  Fodd bynnag, mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi amcan Llywodraeth Cymru i ‘osgoi echdynnu a defnydd parhaus o danwyddau ffosil’. Bydd yn rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth gadarn a chredadwy sy'n dangos bod eu cynigion yn cydymffurfio â'r hierarchaeth ynni a sut maent yn cyfrannu at ddatgarboneiddio'r system ynni.

Disgwylir i CNC barhau i roi cyngor i ddatblygwyr ac awdurdodau cynllunio lleol pan ymgynghorir â ni ar gyfer cynlluniau o'r fath lle maent yn effeithio ar ein buddiannau.  

Ein rôl fel rheolwr tir

Rydym yn rheoli 7% o dir Cymru ar ran pobl Cymru, gan gynnwys 120,000 hectar o goetiroedd, 42 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol a phum canolfan ymwelwyr. Fel rheolwr tir, rhaid i CNC roi ystyriaeth ddyledus i unrhyw geisiadau am fynediad i dir y mae'n ei reoli, a bydd pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun. Fodd bynnag, o dan bolisi presennol Llywodraeth Cymru ar echdynnu petrolewm, mae'n debygol y bydd cais i chwilio am betrolewm a/neu ei ddatblygu yn cael ei wrthod.  

Mae ein dull gweithredu hefyd wedi'i lywio gan ddatganiad argyfwng hinsawdd Llywodraeth Cymru. Datganodd CNC ei gefnogaeth i'r argyfwng hinsawdd ac ymrwymodd i gyflawni ystod o fesurau datgarboneiddio o fewn tri maes: lliniaru, addasu a newid ymddygiad. Mae Bwrdd CNC yn cefnogi camau gweithredu yn y meysydd gwaith canlynol drwy gymeradwyo cynllun galluogi’r Prosiect Carbon Bositif: 

  • rheoli ein coedwigoedd yn well fel eu bod yn storio mwy o garbon ac adfer mawndiroedd ar raddfa helaeth er mwyn lleihau eu hallyriadau
  • ystyried coedwigo sylweddol pellach drwy ehangu'r ystad goetir
  • archwilio mwy o gyfleoedd i greu ynni adnewyddadwy ar dir a reolir gan CNC

Gellid ystyried bod caniatáu mynediad i dir y mae CNC yn ei reoli at ddiben echdynnu petrolewm yn groes i Bolisi Echdynnu Petrolewm Llywodraeth Cymru a'n gwaith parhaus i wrthweithio'r argyfwng hinsawdd. 

Cysylltwch â ni

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy e-bost: energyadvice@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf