Troseddau sy'n ymwneud â'r hinsawdd
Rheoliadau Nwyon Tŷ Gwydr wedi’u Fflworeiddio 2015
Rheoliad 29(1)(a)
Torri unrhyw un o'r gwaharddiadau canlynol o fewn Rheoliad Rhif 517/2014 yr Undeb Ewropeaidd, neu achosi neu ganiatáu i unigolyn arall dorri unrhyw un o'r canlynol:
- Erthygl 3(1) (gwaharddiad ar ollwng nwy tŷ gwydr wedi’i fflworeiddio yn fwriadol)
- Erthygl 11(1), a ddarllenwyd mewn cysylltiad ag Erthygl 11(2) a (3) (gwaharddiad ar osod cynhyrchion a chyfarpar penodedig ar y farchnad)
- Erthygl 14(1) (gwaharddiad ar osod cyfarpar na roddir cyfrif amdano o fewn y system gwota ar y farchnad)
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 19 Mawrth 2015.
Rheoliad 29(1)(b)
Torri amodau Erthygl 14(2) o Reoliad 517/2014 yr Undeb Ewropeaidd (gofynion i gofnodi gosod ar y farchnad ac i lunio datganiad cydymffurfiaeth), neu achosi neu ganiatáu i unigolyn arall wneud hynny.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 19 Mawrth 2015.
Rheoliad 29(1)(c)
Torri amodau ail baragraff Erthygl 15(1), a ddarllenwyd mewn cysylltiad ag Erthygl 15(2) a (3) o Reoliad 517/2014 yr Undeb Ewropeaidd (gofyniad i sicrhau nad yw’r symiau a osodir ar y farchnad yn fwy na'r cwota), neu achosi neu ganiatáu i unigolyn arall wneud hynny.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 19 Mawrth 2015.
Rheoliad 29(1)(d)
Methiant i gydymffurfio â gofyniad o dan Reoliad 28(2), (3) neu (4), neu achosi neu ganiatáu i unigolyn arall wneud hynny.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 19 Mawrth 2015.
Rheoliad 29(1)(e)
Methiant i gydymffurfio â hysbysiad gorfodi, neu achosi neu ganiatáu i unigolyn arall wneud hynny.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 19 Mawrth 2015.
Gellir cychwyn achos sifil – gweler Rheoliad 27.
Rheoliad 29(2)(a)
Rhwystro unrhyw unigolyn yn fwriadol sy'n gweithredu neu'n gorfodi'r Rheoliadau hyn.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 19 Mawrth 2015.
Rheoliad 29(2)(b)
Methiant, heb achos rhesymol, i roi cymorth neu wybodaeth y gallai unigolyn sy'n gweithredu neu'n gorfodi'r Rheoliadau hyn ofyn amdanynt yn rhesymol.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 19 Mawrth 2015.
Rheoliad 29(2)(c)
Darparu gwybodaeth i unrhyw unigolyn sy'n gweithredu neu'n gorfodi'r Rheoliadau hyn, gan wybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 19 Mawrth 2015.
Rheoliad 29(2)(d)
Methiant i ddarparu dogfen neu gofnod pan fydd unigolyn sy'n gweithredu neu'n gorfodi'r Rheoliadau hyn yn gofyn amdanynt.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 19 Mawrth 2015.
Rheoliad 30(1)
Atebolrwydd troseddol swyddogion y cwmni mewn perthynas â throseddau y mae eu cwmni (corff corfforedig) yn euog ohonynt ac y profwyd eu bod wedi'u cyflawni â chaniatâd neu ymoddefiad y bobl dan sylw neu y gellir eu priodoli i'w hesgeulustod.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 19 Mawrth 2015.
Rheoliad 30(2)
Atebolrwydd troseddol aelodau, ble y rheolir materion y corff corfforedig gan ei aelodau, mewn perthynas â throseddau y mae eu cwmni (corff corfforedig) yn euog ohonynt ac y profwyd eu bod wedi'u cyflawni â chaniatâd neu ymoddefiad y bobl dan sylw neu y gellir eu priodoli i'w hesgeulustod.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 19 Mawrth 2015.
Rheoliad 30(3)
Atebolrwydd troseddol partneriaid mewn perthynas â throseddau y mae eu partneriaeth yn euog ohonynt ac y profwyd eu bod wedi'u cyflawni â chaniatâd neu ymoddefiad y bobl dan sylw neu y gellir eu priodoli i'w hesgeulustod.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 19 Mawrth 2015.
Rheoliad 30(8)
Atebolrwydd troseddol swyddogion neu aelodau'r corff llywodraethu mewn perthynas â throseddau y mae eu cymdeithas anghorfforedig (nid partneriaeth) yn euog ohonynt ac y profwyd eu bod wedi'u cyflawni â chaniatâd neu ymoddefiad y bobl dan sylw neu y gellir eu priodoli i'w hesgeulustod.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 19 Mawrth 2015.
Rheoliadau Sylweddau sy’n Teneuo’r Osôn 2015
Rheoliad 8(1)
Nid yw'r unigolyn yn gymwys i wneud unrhyw waith perthnasol, ac nid yw Rheoliad 6(5) yn gymwys.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Rheoliad 8(1)
Nid yw'r unigolyn yn gymwys i wneud gwaith gan ddefnyddio methyl bromid, ac nid yw Rheoliad 6(6) yn gymwys.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Rheoliad 8(1)
Mae'r cyflogwr yn methu â sicrhau bod yr unigolyn yn gymwys i wneud unrhyw waith perthnasol.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Rheoliad 8(1)
Mae'r cyflogwr yn methu â sicrhau bod yr unigolyn yn gymwys i wneud gwaith gan ddefnyddio methyl bromid.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Rheoliad 8(2)
Mae'r cyflogwr sy'n hyfforddi yn methu â sicrhau y bydd y cwrs hyfforddi yn galluogi cyflogai sydd wedi'i hyfforddi, i wneud y gwaith perthnasol yn foddhaol.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Rheoliad 8(2)
Mae'r cyflogwr sy'n hyfforddi yn methu â chadw cofnodion ar gyfer y cyfnod gofynnol, o dan Reoliad 7(2).
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Rheoliad 8(2)
Mae'r cyflogwr sy'n hyfforddi yn methu â darparu copi o'r cofnod o dan Reoliad 7(2), i'r cyflogai pan ofynnir iddo wneud hynny gan y cyflogai yn ystod y cyfnod gofynnol.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Rheoliad 9(1)
Unrhyw unigolyn sy'n torri un o ddarpariaethau Rheoliad yr Undeb Ewropeaidd a nodir yn Atodlen 4 o’r Rheoliadau Sylweddau sy’n Teneuo’r Osôn.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Rheoliad 9(2)(a)
Methiant i gydymffurfio â hysbysiad gorfodi.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Rheoliad 9(2)(b)
Methiant i gydymffurfio â hysbysiad a roddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, o dan reoliad 18.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Rheoliad 9(3)(a)
Rhwystro swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru yn fwriadol sy'n gweithredu i orfodi Rheoliad 1005/2009 yr Undeb Ewropeaidd.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Rheoliad 9(3)(b)
Methiant i ddarparu cymorth neu wybodaeth sy'n ofynnol yn rhesymol gan swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru, heb achos rhesymol.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Rheoliad 9(3)(c)
Darparu gwybodaeth gan wybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Rheoliad 9(3)(d)
Methiant i gynhyrchu dogfen neu gofnod pan fo’n ofynnol i wneud hynny.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Rheoliad 11(1)
Atebolrwydd troseddol cyfarwyddwyr, rheolwyr, ysgrifenyddion neu swyddog tebyg arall, mewn perthynas â throseddau y mae eu cwmni (corff corfforedig) yn euog ohonynt ac y profwyd eu bod wedi'u cyflawni â chaniatâd neu ymoddefiad y bobl dan sylw neu y gellir eu priodoli i'w hesgeulustod.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Rheoliad 11(3)
Atebolrwydd troseddol aelodau, ble y rheolir materion y corff corfforedig gan ei aelodau, mewn perthynas â throseddau y mae eu cwmni (corff corfforedig) yn euog ohonynt ac y profwyd eu bod wedi'u cyflawni â chaniatâd neu ymoddefiad y bobl dan sylw neu y gellir eu priodoli i'w hesgeulustod.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Rheoliad 11(4)
Atebolrwydd troseddol partneriaid mewn perthynas â throseddau y mae eu partneriaeth yn euog ohonynt ac y profwyd eu bod wedi'u cyflawni â chaniatâd neu ymoddefiad y bobl dan sylw neu y gellir eu priodoli i'w hesgeulustod.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Rheoliad 11(10)
Atebolrwydd troseddol swyddogion neu aelodau'r corff llywodraethu mewn perthynas â throseddau y mae eu cymdeithas anghorfforedig (nid partneriaeth) yn euog ohonynt ac y profwyd eu bod wedi'u cyflawni â chaniatâd neu ymoddefiad y bobl dan sylw neu y gellir eu priodoli i'w hesgeulustod.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Rheoliad 15(a)(i)
Atal unigolyn arall yn fwriadol rhag ymddangos gerbron unigolyn awdurdodedig o dan reoliad 14.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Rheoliad 15(a)(ii)
Atal unigolyn arall yn fwriadol rhag ateb unrhyw gwestiynau y gallai unigolyn awdurdodedig fod angen iddo eu hateb drwy rinwedd rheoliad 14.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Rheoliad 15(b)
Rhwystro unigolyn awdurdodedig yn fwriadol rhag arfer neu gyflawni ei bwerau.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Rheoliad 15(c)
Darparu gwybodaeth i unigolyn awdurdodedig, gan wybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Rheoliad 15(d)
Yn methu â chynhyrchu cofnod i unigolyn awdurdodedig pan fydd yn ofynnol i wneud hynny.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Rheoliad 15(e)
Esgus bod yn swyddog awdurdodedig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Rheoliadau'r Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020
Rheoliad 50
Gweithredu gweithgaredd rheoleiddiedig heb drwydded.
Cosbau sifil sydd ar gael:
Hysbysiad cosb sifil – Rheoliad 47
Dirwy o CA + (RE x CP), lle bod:
- CA yn amcangyfrif o'r costau a osgowyd gan y gweithredwr yn y flwyddyn gynllun o ganlyniad i weithredu'r gweithgaredd rheoleiddiedig heb awdurdodiad trwydded
- RE yn amcangyfrif o allyriadau adroddedig y gosodiad yn y rhan o'r flwyddyn gynllun lle gweithredwyd gweithgaredd rheoleiddiedig nad oedd wedi'i awdurdodi gan drwydded
- CP yn bris carbon am y flwyddyn gynllun
Gellir cynyddu'r ddirwy i swm sydd yn uwch na'r budd economaidd a sicrhawyd gan y gweithredwr o ganlyniad i weithredu heb drwydded.
Rheoliad 51
Methu â chydymffurfio ag amod trwydded, hysbysiad ildio neu hysbysiad dirymiad.
Cosbau sifil sydd ar gael:
Hysbysiad cosb sifil – Rheoliad 47
Yn berthnasol i dorri amodau ac eithrio’r rhai sy'n gysylltiedig ag ildio lwfansau neu danadrodd allyriadau.
- Dirwy o £20,000; A
- cosb ariannol ddyddiol ar gyfradd ddyddiol o £500 am bob diwrnod mae'r gweithredwr yn methu â chydymffurfio â'r amod neu ofyniad, gan gychwyn gyda'r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad cychwynnol, hyd at uchafswm o £45,000
Rheoliad 52
Methiant i ildio lwfansau gan weithredwyr gosodiadau a gweithredwyr awyrennau.
Cosbau sifil sydd ar gael:
Hysbysiad cosb sifil – Rheoliad 47
Yn amodol ar yr eithriadau isod:
- Mae'r ddirwy yn £100 wedi'i luosi â’r ffactor chwyddiant ar gyfer pob lwfans na ildiwyd
Eithriadau:
Pan fydd y rheoleiddiwr yn dod yn ymwybodol fod allyriadau gosodiad yn fwy nag allyriadau dilys y gosodiad ar gyfer y flwyddyn honno ac mae’r gweithredwr yn methu ag ildio lwfansau sy'n gyfwerth â’r gwahaniaeth.
Pan fydd y rheoleiddiwr yn dod yn ymwybodol fod allyriadau gweithredwr cerbydau awyr yn fwy nag allyriadau dilys y gweithredwr cerbydau awyr ar gyfer y flwyddyn honno ac mae’r gweithredwr yn methu ag ildio lwfansau sy'n gyfwerth â’r gwahaniaeth.
- Mae'r ddirwy yn £20 wedi'i lluosi â’r ffactor chwyddiant ar gyfer pob lwfans na ildiwyd
O dan Reoliad 49, pan fydd unigolyn yn agored i gosb sifil o dan Reoliad 52, mae'n rhaid i ni gyhoeddi enw'r unigolyn y rhoddwyd y gosb iddo cyn gynted â phosibl ar ôl i gyfnod yr apêl ddod i ben neu, os gwneir apêl, y dyddiad y caiff ei chadarnhau neu ei thynnu’n ôl.
Rheoliad 53
Methiant i drosglwyddo neu ildio lwfansau lle darganfyddir tanadrodd ar ôl trosglwyddo.
Cosbau sifil sydd ar gael:
Hysbysiad cosb sifil – Rheoliad 47
- Mae'r ddirwy yn £20 wedi'i lluosi â’r ffactor chwyddiant ar gyfer pob lwfans na ildiwyd
Rheoliad 54
Mynd dros y targed allyriadau lle mae'r gosodiad yn ysbyty neu allyrrwr bach.
Cosbau sifil sydd ar gael:
Hysbysiad cosb sifil – Rheoliad 47
Dirwy o (RE-ET) x CP, lle bod:
- RE yn allyriadau adroddedig y gosodiad yn y flwyddyn gynllun
- ET yn darged allyriadau'r gosodiad ar gyfer y flwyddyn gynllun
- CP yn bris carbon am y flwyddyn gynllun
Rheoliad 55
Methiant i dalu cosb ariannol am fynd dros y targed allyriadau o dan Reoliad 54.
Cosbau sifil sydd ar gael:
Hysbysiad cosb sifil – Rheoliad 47
Dirwy bellach o:
- 10% o'r gosb ariannol gyntaf; A
- chosb ariannol dyddiol ar raddfa dyddiol o £150 bob dydd y mae'r gweithredwr yn methu â thalu'r gosb gyntaf gan gychwyn gyda'r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad cychwynnol, hyd at uchafswm o £13,500
Rheoliad 56
Tanadrodd allyriadau lle mae'r gosodiad yn ysbyty neu allyrrwr bach.
Cosbau sifil sydd ar gael:
Hysbysiad cosb sifil – Rheoliad 47
Dirwy o £5,000 + (UE x CP), lle bod:
- UE yn allyriadau heb eu hadrodd yn y flwyddyn gynllun
- CP yn bris carbon am y flwyddyn gynllun
Rheoliad 57
Methiant i hysbysu wrth fethu â bodloni'r meini prawf.
Cosbau sifil sydd ar gael:
Hysbysiad cosb sifil – Rheoliad 47
Methiant i roi hysbysiad erbyn 31 Mawrth yn y flwyddyn ddiffyg, ond hysbysiad wedi'i roi erbyn 31 Hydref:
- Dirwy o £2,500
Methiant i roi hysbysiad erbyn 31 Hydref yn y flwyddyn ddiffyg:
- Os nad oes blwyddyn gosb yn bodoli:
- Dirwy o £5,000
- Os oes blwyddyn gosb yn bodoli:
- Dirwy o £5,000; a
- Dirwy o 2 x (RE x CP) - PP, lle bod:
- RE yn allyriadau adroddedig y gosodiad yn y flwyddyn gosb
- CP yn bris carbon am y flwyddyn gosb
- PP yn swm y gosb sifil, os oes rhai o gwbl, a roddwyd yn flaenorol o dan Erthygl 54 mewn perthynas â'r flwyddyn gosb
Rheoliad 58
Methiant i ildio trwydded
Cosbau sifil sydd ar gael:
Hysbysiad cosb sifil – Rheoliad 47
- Dirwy o £5,000
Rheoliad 59
Mynd dros yr uchafswm allyriadau lle mae'r gosodiad yn allyrrwr bach iawn.
Cosbau sifil sydd ar gael:
Hysbysiad cosb sifil – Rheoliad 47
Dirwy o (RE - uchafswm) x CP, lle bod:
- RE yn allyriadau adroddedig y gosodiad yn y flwyddyn gynllun
- Uchafswm yn golygu 2,499 o dunellau cyfwerth o garbon deuocsid
- CP yn bris carbon am y flwyddyn gynllun
Gellir ond rhoi dirwy mewn perthynas â blwyddyn gyntaf y cynllun mewn cyfnod dyrannu lle mae'r allyriadau yn fwy na'r uchafswm a, lle mae'r flwyddyn gynllun ganlynol yn yr un cyfnod dyrannu, y flwyddyn gynllun honno.
Rheoliad 60
Methiant i hysbysu lle mae allyriadau yn fwy na'r uchafswm lle mae'r gosodiad yn allyrrwr bach iawn.
Cosbau sifil sydd ar gael:
Hysbysiad cosb sifil – Rheoliad 47
Dirwy o £2,500 a CA + (RE x CP) ar gyfer pob blwyddyn gynllun yn y cyfnod cosb lle bod:
- CA yn amcangyfrif o'r costau a osgowyd gan y gweithredwr yn y flwyddyn gynllun o ganlyniad i weithredu gweithgaredd rheoleiddiedig heb awdurdodiad y drwydded berthnasol;
- RE yn amcangyfrif o allyriadau adroddedig y gosodiad yn y flwyddyn gynllun lle gweithredwyd gweithgaredd rheoleiddiedig nad oedd wedi'i awdurdodi gan drwydded;
- CP yn bris carbon am y flwyddyn gynllun.
Gellir cynyddu'r ddirwy i swm mwy na'r budd economaidd a sicrhawyd gan y gweithredwr o ganlyniad i weithrediad y gweithgaredd rheoleiddiedig heb awdurdodiad gan drwydded.
Rheoliad 61
Methiant i wneud cais neu wneud cais diwygiedig am gynllun monitro allyriadau.
Cosbau sifil sydd ar gael:
Hysbysiad cosb sifil – Rheoliad 47
- Dirwy o £20,000;
- Cosb ariannol ddyddiol o £500 am bob dydd nad yw'r cais neu'r ailgyflwyniad o'r cais yn cael ei ddarparu gan gychwyn gyda'r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad cychwynnol hyd at uchafswm o £45,000
Rheoliad 62
Methiant i gydymffurfio ag amod o gynllun monitro allyriadau.
Cosbau sifil sydd ar gael:
Hysbysiad cosb sifil – Rheoliad 47
- Dirwy o £20,000;
- Cosb ariannol ddyddiol o £500 am bob dydd mae'r unigolyn yn methu â chydymffurfio â'r amod, gan gychwyn gyda'r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad cychwynnol hyd at uchafswm o £45,000
Rheoliad 63
Methiant i fonitro allyriadau hedfan.
Cosbau sifil sydd ar gael:
Hysbysiad cosb sifil – Rheoliad 47
- Dirwy o £20,000;
- Cosb ariannol ddyddiol o £500 am bob dydd mae unigolyn yn methu â monitro allyriadau hedfan gan gychwyn gyda'r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad cychwynnol hyd at uchafswm o £45,000
Rheoliad 64
Methiant i adrodd allyriadau hedfan.
Cosbau sifil sydd ar gael:
Hysbysiad cosb sifil – Rheoliad 47
- Dirwy o £20,000;
- Cosb ariannol ddyddiol o £500 am bob dydd nad yw'r adroddiad yn cael ei gyflwyno gan gychwyn gyda'r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad cychwynnol hyd at uchafswm o £45,000
Rheoliad 65
Methu â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi
Cosbau sifil sydd ar gael:
Hysbysiad cosb sifil – Rheoliad 47
- Dirwy o £20,000;
- Cosb ariannol ddyddiol o £1,000 am bob dydd mae unigolyn yn methu â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiad gan gychwyn gyda'r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad cychwynnol hyd at uchafswm o £45,000
Rheoliad 66
Methu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth
Cosbau sifil sydd ar gael:
Hysbysiad cosb sifil – Rheoliad 47
- Dirwy o £5,000;
- Cosb ariannol ddyddiol o £500 am bob dydd mae unigolyn yn methu â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiad gan gychwyn gyda'r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad cychwynnol hyd at uchafswm o £45,000
Rheoliad 67
Darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol neu wneud datganiad sy'n gamarweiniol o ran deunydd.
Cosbau sifil sydd ar gael:
Hysbysiad cosb sifil – Rheoliad 47
- Dirwy o £50,000
Rheoliad 68
Methiant i ganiatáu mynediad i'r rheoleiddiwr i'r safle.
Cosbau sifil sydd ar gael:
Hysbysiad cosb sifil – Rheoliad 47
- Dirwy o £50,000
Rheoliadau Cynllun Cyfleoedd Arbed Ynni (ESOS) 2014
Rheoliad 43
Methiant i hysbysu gweinyddwr y cynllun o gydymffurfiaeth ag ESOS, yn groes i Reoliad 29.
Cosbau sifil sydd ar gael:
Hysbysiad cosb sifil – Rheoliad 39 – gosod cosb ariannol:
- Cosb gychwynnol o hyd at £5,000, a
- Chosb ddyddiol o hyd at £500 ar gyfer pob diwrnod gwaith y mae'r fenter gyfrifol yn parhau i dorri'r amodau, gan ddechrau ar y diwrnod yn dilyn cyflwyno’r hysbysiad cosb, hyd nes y caiff yr hysbysiad ei gwblhau, ar yr amod y gwneir hynny o fewn 80 diwrnod gwaith, a
- Chosb cyhoeddi – Rheoliad 41 (cyhoeddi’r achos o dorri amodau ar wefan gweinyddwr y cynllun/corff cydymffurfio)
Rheoliad 44
Methiant i gynnal cofnodion, yn groes i Reoliad 28.
Cosbau sifil a osodir:
Hysbysiad cosb sifil – Rheoliad 39 – gosod cosb ariannol:
- Cosb gychwynnol o hyd at £5,000, a
- Swm o arian sy'n cynrychioli'r gost i Cyfoeth Naturiol Cymru o gadarnhau fod menter gyfrifol wedi cydymffurfio ag ESOS, a
Chosb cyhoeddi – Rheoliad 41
- Gallai'r hysbysiad cosb nodi camau er mwyn adfer yr achos o dorri'r amodau
Rheoliad 45
Methiant i gwblhau archwiliad ynni, lle nad yw'r dulliau amgen o gydymffurfio yn Rhan 6 yn gymwys.
Cosbau sifil sydd ar gael:
Hysbysiad cosb sifil – Rheoliad 39 – gosod cosb ariannol:
- Cosb gychwynnol o hyd at £50,000, neu swm llai fel y pennir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a
Chosb ddyddiol o hyd at £500 ar gyfer pob diwrnod gwaith y mae'r fenter gyfrifol yn parhau i dorri'r amodau, gan ddechrau ar y diwrnod yn dilyn cyflwyno’r hysbysiad cosb, hyd nes y caiff yr archwiliad ei gwblhau, ar yr amod y gwneir hynny o fewn 80 diwrnod gwaith, a
Chosb cyhoeddi – Rheoliad 41
- Gallai'r hysbysiad cosb bennu ei bod yn ofynnol cwblhau asesiad ESOS
Rheoliad 46
Methiant i gydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad gorfodi neu hysbysiad cosb.
Cosbau sifil sydd ar gael:
Hysbysiad cosb sifil – Rheoliad 39 – gosod cosb ariannol:
- Cosb gychwynnol o hyd at £5,000, a
- Chosb ddyddiol o hyd at £500 ar gyfer pob diwrnod gwaith y mae'r fenter gyfrifol yn parhau i dorri'r amodau, gan ddechrau ar y diwrnod yn dilyn cyflwyno’r hysbysiad cosb, yn ddarostyngedig i uchafswm o 80 diwrnod gwaith, a
Chosb cyhoeddi – Rheoliad 41
Rheoliad 47
Gwneud datganiad anwir neu gamarweiniol wrth roi gwybodaeth i weinyddwr y cynllun neu gorff cydymffurfio, neu wrth ddarparu gwybodaeth sy'n ofynnol gan hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad gorfodi neu hysbysiad cosb.
Cosbau sifil sydd ar gael:
Hysbysiad cosb sifil – Rheoliad 39 – gosod cosb ariannol:
- Hyd at £50,000, a
Chosb cyhoeddi – Rheoliad 41.
Gorchymyn Cynllun Effeithlonrwydd Ynni’r Ymrwymiad Lleihau Carbon 2013
Ceir dyddiadau cychwyn perthnasol ar gyfer pob cosb sifil isod: 1 Ebrill 2014.
Erthygl 5, Rhannau 1, 2 a 3 o Atodlen 5
Erthygl 75(1)(c)
Methu â darparu hysbysiad i'r gweinyddwr yn ôl y gofyn o dan Ran 1, 2 neu 3 o Atodlen 5.
Cosbau sifil sydd ar gael:
Hysbysiad cosb sifill - Erthygl 70:
- Dirwy o £5000
- Cyhoeddi diffyg cydymffurfiaeth
Erthygl 11 a 12
Erthygl 73(1) a (2)
Methu â gwneud cais i gofrestru neu wneud cais hwyr i gofrestru.
Cosbau sifil sydd ar gael:
Hysbysiad cosb sifill - Erthygl 70:
- Dirwy o £5000
- Dirwy bellach o £500 ar gyfer pob diwrnod gwaith lle ceir oedi ar ôl y dyddiad disgwyliedig hyd at uchafswm o 80 diwrnod gwaith
- Cyhoeddi diffyg cydymffurfiaeth
Erthygl 11 ac Atodlen 5
Erthygl 73(3) a (4)
Methu â darparu manylion pob mesurydd hanner awr sefydlog wrth gofrestru.
Cosbau sifil sydd ar gael:
Hysbysiad cosb sifill - Erthygl 70:
- Dirwy o £500 ar gyfer pob mesurydd hanner awr sefydlog nad oedd wedi'i adrodd
- Cyhoeddi diffyg cydymffurfiaeth
Erthygl 11 ac Atodlen 4
Erthygl 75(1)(a) a (b)
Methu â darparu gwybodaeth wrth gofrestru a darparu gwybodaeth anghywir wrth gofrestru.
Cosbau sifil sydd ar gael:
Hysbysiad cosb sifill - Erthygl 70:
- Dirwy o £5000
- Cyhoeddi diffyg cydymffurfiaeth
Erthygl 31
Erthygl 74
Methu â darparu adroddiad blynyddol neu ddarparu adroddiad blynyddol yn hwyr.
Cosbau sifil sydd ar gael:
Hysbysiad cosb sifill - Erthygl 70:
-
Dirwy o £5,000
-
Dirwy bellach o £500 ar gyfer pob diwrnod gwaith lle ceir oedi ar ôl y dyddiad disgwyliedig hyd at uchafswm o 40 diwrnod gwaith, neu £40,000 os darperir yr adroddiad fwy na 40 diwrnod ar ôl y dyddiad disgwyliedig
-
Cyhoeddi diffyg cydymffurfiaeth
-
Os bydd yr adroddiad blynyddol yn fwy na 40 diwrnod yn hwyr neu os nad yw'n cael ei ddarparu o gwbl bydd cosbau ychwanegol fel a ganlyn:
- Bydd allyriadau’r Ymrwymiad Lleihau Carbon yn cael eu cyfrifo fel dwbl allyriadau’r Ymrwymiad Lleihau Carbon a adroddwyd ar gyfer y flwyddyn flaenorol neu, lle nad oes adroddiad o'r fath yn bodoli, dwbl yr hyn y mae'r gweinyddwr yn cyfrifo y mae'r cyfranogwr wedi'i allyrru
- Os bydd yr ‘allyriadau dwbl’ wedi'u cyfrifo, mae'n ofynnol bod y cyfranogwr yn caffael lwfansau ar unwaith ar gyfer yr allyriadau hyn ac yn eu hildio (gall lwfansau sydd wedi'u hildio yn barod gael eu didynnu o'r lwfansau sydd i'w hildio)
- Os bydd y cyfranogwr wedi methu ag ildio'r lwfansau y cyfeirir atynt yn uniongyrchol uchod erbyn 31 Mawrth ar ôl y dyddiad yr oedd yr adroddiad blynyddol yn ddisgwyliedig a’i fod yn parhau yn y cynllun, bydd y lwfansau diffyg yn cael eu hychwanegu at y lwfansau sydd i'w hildio yn y flwyddyn ganlynol.
- Dirwy o £40 y tC02 o allyriadau’r Ymrwymiad Lleihau Carbon (gan ddidynnu allyriadau a gynrychiolir gan lwfansau sy'n cael eu hildio ar amser a chyn y cymhwysir y gwaith o ddyblu).
- Blocio'r holl lwfansau o gyfrif cofrestru'r cyfranogwr nes bod y methiant wedi'i unioni a bod unrhyw ddirwy/dirwyon cysylltiedig wedi'i thalu/wedi'u talu
Erthyglau 31
Erthygl 76
Darparu adroddiad blynyddol sy'n anghywir.
Cosbau sifil sydd :
Hysbysiad cosb sifil - Erthygl 70:
- Dirwy o £40 at gyfer pob tCO2 o allyriadau a adroddir yn anghywir
- Cynhoeddi diffyg cydymffurfiaeth
Erthygl 36
Erthygl 77
Methu ag ildio Iwfansau.
Cosbau sifil sydd at gael:
Hysbysiad cosb sifil – Erthygl 70:
- Mae'n ofynnol bod y cyfranogwr yn caffael lwfansau ar unwaith sy'n gyfartal â'r nifer y dylid bod wedi'i hildio, a'u hildio.
- Dirwy o £40 ar gyfer pob tC02 o allyriadau a gynrychiolir gan y lwfansau diffyg.
- Cyhoeddi diffyg cydymffurfiaeth.
- Blocio'r holl lwfansau o gyfrif cofrestru'r cyfranogwr nes bod y methiant wedi'i unioni a bod unrhyw ddirwyon cysylltiedig wedi'u talu.
- Os bydd y cyfranogwr yn methu ag ildio lwfansau diffyg erbyn 31 Mawrth ar ôl y dyddiad y disgwyliwyd gwneud yr ildio, a’i fod yn parhau yn y cynllun, bydd y lwfansau diffyg yn cael eu hychwanegu at y lwfansau sydd i'w hildio yn y flwyddyn ganlynol.
Erthygl 36
Erthygl 78
Darganfyddiad hwyr o ran methu ag ildio lwfansau (os y’i darganfyddir o fewn pum mlynedd i'r gofyniad i ildio'r lwfansau hynny).
Cosbau sifil sydd at gael:
Hysbysiad cosb sifil – Erthygl 70:
- Os bydd y cyfranogwr yn dal i fod yn gyfranogwr pan fo'r diffyg yn cael ei ddarganfod, bydd y lwfansau diffyg yn cael eu hychwanegu at y lwfansau sydd angen eu hildio yn y flwyddyn adrodd flynyddol nesaf
- Os bydd y cyfranogwr yn dal i fod yn gyfranogwr pan fo'r diffyg yn cael ei ddarganfod, cyhoeddir diffyg cydymffurfiaeth
- Os bydd y cyfranogwr yn dal i fod yn gyfranogwr pan fo'r diffyg yn cael ei ddarganfod, ceir dirwy sy'n cynrychioli gwerth y lwfansau diffyg
Erthyglau 40 a 41
Erthygl 79(3)
Methu â chadw cofnodion o'r wybodaeth a ddefnyddir i lunio’i adroddiad blynyddol ac sy'n berthnasol i unrhyw newidiadau a ddisgrifir yn Atodlen 5 a gwybodaeth a ddatgelir i'r cyhoedd.
Cosbau sifil sydd at gael:
Hysbysiad cosb sifil – Erthygl 70:
- Dirwy o £5000
- Cyhoeddi diffyg cydymffurfiaeth
Erthyglau 45 a 104
Methiant gan ddarparwr trydan i ddarparu gwybodaeth pan oedd yn ofynnol yn ôl hysbysiad a pheidio â chydymffurfio ag o leiaf un hysbysiad blaenorol.
Cosbau sifil sydd at gael:
Hysbysiad cosb sifil – Erthygl 70:
- Dirwy o £500,000 neu 0.5% o drosiant y cyflenwr os bydd yn is
- Cyhoeddi diffyg cydymffurfiaeth
Erthygl 68
Article 79(1) and (2)
Methu â chydymffurfio â hysbysiad sy'n gofyn am wybodaeth ynglŷn âethu â chofnodion y mae’n ofynnol i’w cynnal.
Cosbau sifil sydd at gael:
Hysbysiad cosb sifil – Erthygl 70:
- Dirwy o £40 ar gyfer pob tC02 o allyriadau Ymrwymiad Lleihau Carbon a adroddwyd yn y flwyddyn flaenorol gan y cyfranogwr
- Cyhoeddi diffyg cydymffurfiaeth
Erthygl 82(1)(a)
Gwneud datganiad sy’n anwir neu’n gamarweiniol o safbwynt manylyn perthnasol, yn fwriadol neu’n ddi-hid.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Erthygl 82(2)
Methu â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Erthygl 82(4)
Dynwared unigolyn awdurdodedig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Article 82(5)
Yn gwrthod caniatáu mynediad i swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru neu weinyddwr arall lle bo mynediad yn ofynnol er mwyn monitro cydymffurfiaeth.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.