Trwyddedau y gall fod yn ofynnol eu cael gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) er mwyn archwilio gweithgareddau olew a nwy ar y tir
Mae'n bosibl bod angen un ar ddeg o drwyddedau neu ganiatadau gan CNC, y mae pump ohonynt yn dod o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.
Ym mhob achos, mae angen trwydded gwastraff mwyngloddio ar gyfer gweithgareddau olew a nwy ar y tir. Efallai y bydd arnoch angen un neu ragor o drwyddedau amgylcheddol ychwanegol hefyd.
Trwydded gweithgaredd sylweddau ymbelydrol
Trwydded gweithgaredd sylweddau ymbelydrol mae'n debygol o fod yn berthnasol ym mhob amgylchiad lle cynhyrchir olew a nwy.
Trwydded safle A1
Trwydded safle A1 pan fydd y Gweithredwr yn bwriadu ffaglu mwy na 10 tunnell (fetrig) o nwy y dydd. Os yw'n llai na 10 tunnell (fetrig) o nwy y dydd, bydd yn destun trwydded Gweithgaredd Gwastraff Mwyngloddio.
Trwydded gweithgaredd dŵr daear
Trwydded gweithgaredd dŵr daear oni bai ein bod yn fodlon nad oes dim perygl o fewnbynnau i ddŵr daear.
Trwydded gweithgaredd gollwng i ddŵr
Trwydded gweithgaredd gollwng i ddŵr mae’n ofynnol yn achos unrhyw ollyngiadau i ddŵr wyneb.
Trwydded gweithgarwch perygl llifogydd
Trwydded gweithgarwch perygl llifogydd mae’r drwydded yn ofynnol os yw’r gwaith i’w wneud mewn, dros, o dan neu’n agos at brif afon, amddiffynfa rhag llifogydd neu amddiffynfa rhag y môr. Yn achos pob cwrs dŵr arall nad yw'n brif afon, bydd angen caniatâd yr Awdurdod Rheoleiddio sy'n gyfrifol am y cwrs dŵr.
Trwyddedau a chaniatadau ychwanegol
Gall fod angen y trwyddedau a ganlyn hefyd:
Trwydded Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop gall fod yn ofynnol lle mae posibilrwydd o effeithiau andwyol. Gall hefyd fod yn destun asesiad o dan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.
Mae angen Trwydded Tynnu Dŵr os yw’r Gweithredwr yn bwriadu tynnu mwy na 20m3 o ddŵr y dydd at ei ddefnydd ei hun, yn hytrach na phrynu dŵr gan gwmni cyfleustodau’r cyflenwad dŵr cyhoeddus.
Gall fod angen Caniatâd Ymchwiliad Dŵr Daear I gwmpasu gwaith drilio a phwmpio prawf lle mae posibilrwydd o dynnu mwy na 20m3 o ddŵr y dydd yn y broses gynhyrchu.
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) mae angen caniatâd lle mae posibilrwydd o effeithio ar safleoedd gwarchodedig dynodedig.
Rhaid i Weithredwyr hefyd gyflwyno hysbysiad i CNC o dan Adran 199 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003), sef hysbysiad o fwriad i adeiladu turiad at ddibenion chwilio am neu echdynnu mwynau.