Mae llawer ohonynt wedi cael eu dynodi yn safleoedd Natura 2000 o bwysigrwydd Ewropeaidd i helpu i amddiffyn a gwella'r cynefinoedd hyn.

Mae nifer o rywogaethau fel y barcud coch anghyffredin a phlanhigion Alpaidd anghyffredin, yn dibynnu ar y cynefinoedd maent yn byw arnynt ac mae'n bwysig eu bod yn cael eu rheoli yn ofalus i'w cadw mewn cyflwr da.

Mae'r ucheldiroedd yn hanfodol i bobl hefyd – maent yn darparu a phuro dŵr yfed a daw miloedd o ymwelwyr i gerdded y llwybrau troed neu fwynhau'r golygfeydd yn syml. Mae Rhaglen LIFE Natura 2000 wedi cynhyrchu cynlluniau gweithredu â chostau ar gyfer pob safle Ucheldirol Natura 2000 yng Nghymru, gan gynllunio i'r dyfodol a helpu i sicrhau arian hollbwysig.

Diweddarwyd ddiwethaf